Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018 Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol ) (Rhif 2), mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefannau'n hygyrch.
Statws Cydymffurfiaeth
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1 oherwydd yr enghreifftiau o beidio â chydymffurfio a'r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a welir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
Peidio â chydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
Mae problemau'n parhau yn achos rhai o'r tudalennau gan ei bod yn anos dangos y cynnwys ar sgriniau llai. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10, 'Reflow', yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1. Rwy'n mynd i'r afael â'r materion hyn ar hyn o bryd a bwriadaf eu hunioni cyn yr archwiliad nesaf.
Cynnwys nad yw'n rhan o gwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn inni drwsio dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i'r gwasanaethau a ddarparwn.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu geiriad at fideos sy'n cael eu ffrydio'n fyw am fod fideos byw wedi'u heithrio o'r rheoliadau hygyrchedd.
Yr hyn a wnawn i wella hygyrchedd
Dyluniwyd a chrëwyd y wefan hon gan ddefnyddio polisi hygyrchedd digidol Prifysgol Aberystwyth.
Cynhelir archwiliadau hygyrchedd rheolaidd ar y wefan hon i sicrhau cydymffurfiaeth.
Bydd pob tudalen newydd yn destun archwiliad hygyrchedd Prifysgol Aberystwyth cyn y caiff ei rhyddhau.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 20-11-2020 ac fe'i adolygwyd ddiwethaf ar 20-11-2020.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 19-11-2020. Natalie Roberts (gweinyddydd y wefan hon) a gynhaliodd y prawf gan ddefnyddio'r meini prawf llwyddiant sydd wedi'u rhestru yng Nghanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, Polisi Hygyrchedd Digidol Prifysgol Aberystwyth a rhestr wirio archwilio hygyrchedd Prifysgol Aberystwyth.