Blender: Canllaw Fideo i Ddechreuwyr

English

Blender: Canllaw Fideo i Ddechreuwyr

Meddalwedd cyfresi creu 3D cod agored sy'n rhad ac am ddim yw Blender. Gallwch lawrlwytho'r rhaglen o Wefan Blender

Mae Andrew Forster, a enillodd radd MPhys o Brifysgol Aberystwyth, wedi paratoi tiwtorial fideo (yn Saesneg) i helpu dechreuwyr i ymgyfarwyddo â'r feddalwedd gymhleth hon.

Rhyngwyneb defnyddwyr

Mae'r adran hon yn trafod rhyngwyneb y defnyddwyr, rhoi defnyddiau ar wrthrychau, cipolwg ar animeiddio a'r cysodydd golygfeydd.


Prosiect 1: Creu Tryc Agored ('Pick-up Truck')

Dyma ganllaw cam wrth gam ar gyfer defnyddio swyddogaethau Blender i droi ciwb yn Dryc Agored 3D.


Casgliadau, Dyblygu a Rhianta Gwrthrychau

Mae'r adran hon yn trafod sut i roi trefn ar gasgliadau, dyblygu gwrthrychau a rhianta gwrthrychau (wrth i un ohonynt symud, mae'r lleill yn symud yn yr un modd).

Defnyddiau a'r Byd

Yma byddwch yn dysgu am roi defnyddiau ar eich gwrthrychau a sut i newid gosodiadau amgylchedd y byd.

Camerâu a Goleuo

Sut i weithio a newid goleuadau a chamerâu eich golygfeydd.