Amgryptio a Dadgryptio

English

Amgryptio a Dadgryptio

Yr astudiaeth o wneud cyfathrebu rhwng dau berson yn ddiogel yw cryptograffeg yn ogystal ag atal trydydd person rhag ymyrryd ag ef a'i ddarllen.

Mae cryptograffeg yn ymwneud yn bennaf â defnyddio gwahanol seiffrau (codau) i gyfathrebu negeseuon. Gelwir trosglwyddo neges yn god yn amgryptio, a dadgryptio yw'r enw a roddir ar adalw'r neges yr ochr arall. Rhaid wrth allwedd/gwybodaeth o'r cod a ddefnyddir ar gyfer dadgryptio.

Cryptograffeg Glasurol

Daw'r defnydd cynharaf o seiffrau y gwyddom amdano o'r Aifft (tua 1900 cyn yr Oes Gyffredin) er ni wyddwn pam y'u defnyddiwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Yn gyffredinol, roedd tri chategori o fathau o seiffrau a ddefnyddiwyd rhwng hynny a dyfodiad cyfrifiaduron: Trawsddodiad, Amnewidiad a Steganograffeg.

Ar ôl datblygiad cyfrifiaduron, nid oedd y seiffrau hyn bellach yn addas i'w defnyddio, oherwydd ei bod hi mor rhwydd cracio'r seiffrau trwy ddefnyddio'r dechnoleg hon

Rhaid oedd cael mathau newydd o amgryptio, felly er mwyn cadw negeseuon yn breifat a diogel, a seiffrau na ellid eu cracio gan gyfrifiaduron eraill heb fod ganddynt allwedd. Mae'r don newydd o seiffrau yn perthyn i Gryptograffeg Fodern

Cryptograffeg Fodern

Ers dyfodiad cyfrifiadura, ehangodd cryptograffeg yn faes llawer mwy, yn enwedig yn sgil disgwyliadau cyfredol preifatrwydd a diogelu data.

Dyma faes ymchwil a datblygiad sy'n esblygu bob dydd oherwydd grym a gallu cynyddol technoleg cyfrifiaduron

Mae'n fwyfwy anodd cadw data a gwybodaeth yn ddiogel, yn enwedig gyda'n gwaith ymchwil mewn cyfrifiadura cwantwm. Bydd y datblygiad hwn yn negyddu'r holl amgryptiadau cyfrifiadurol sy'n bod ar hyn o bryd a bydd yn rhaid cael lefel newydd o gryptograffeg.

Gobeithiwn gynnal ambell weithdy, yn y dyfodol agos, a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae eich cyfrifiaduron a dyfeisiau modern eraill yn cadw eich data yn ddiogel.