Robotiaid Adloniant

English

Robotiaid Adloniant

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ffodus i gael Stephen Fearn yn aelod o'i staff. Mae'n adeiladu robotiaid er ei ddifyrrwch ei hun, yn ei amser hamdden, ers blynyddoedd. Mae wedi rhoi cynnig ar bopeth o gystadlu ar Robot Wars i adeiladu copi gweithredol a maint-llawn o 'Dalek'.

Mae'r robotiaid yn aml i'w gweld mewn digwyddiadau i'r cyhoedd, yn ogystal â chynadleddau sy'n gysylltiedig â'r brifysgol (er enghraifft, cynadleddau a digwyddiadau ComicCon ac Agerstalwm (Steampunk))

Dyma gyflwyniad i bob un o'r robotiaid adloniant hyn.

K-9

Dyma'r robot rhyngweithiol cyntaf a wnaeth Stephen Fearn: copi maint-llawn o gymar hoff Dr Who, K-9.

Wedi'i adeiladu o wydr ffibr, mae'r copi maint-llawn hwn o K-9, sy'n cael ei radio-reoli'n ddigidol ar 2.4 Ghtz, wedi'i ailwampio sawl gwaith yn ystod ei oes, ond yn y bôn mae wedi'i adeiladu ar ffrâm a yrrir gan ddau fotor cadair olwynion, ac yn rhedeg ar 24v drwy reolwr motor Sabertooth, sy'n golygu ei fod yn hynod gyflym ac yn ymateb yn dda iawn.

Ac yntau'n adeiladu robotiaid i'w harddangos ers blynyddoedd lawer, mae profiad wedi dysgu Steve bod angen i'r hyn y mae'n ei adeiladu allu creu sbloetsh fawr, yn ogystal â gallu gwrthsefyll sylw plantos chwilfrydig. Ar ôl gwneud sawl newid i K-9, erbyn hyn mae'n rhedeg ar ddau fatri cell-sych 17Ah sy'n golygu ei fod yn gallu rhedeg yn ddidrafferth am sawl awr.

Gweler y fideo (yn Saesneg) isod am fwy o wybodaeth am y model hwn o K-9 gan ei greawdwr.

R2D2

Mae'r model hwn o R2D2 a reolir o bell yn ymddangos yn aml mewn digwyddiadau roboteg a gwyddonias ledled Prydain. Mae hefyd hyd yn oed wedi cyfarfod â'r actor gwreiddiol, Kenny Baker a'i efell styntiau, ac maen nhw wedi rhoi eu llofnod arno.

Mae Steve yn siarad ymhellach am ei robotyn bach annwyl yn y fideo isod (yn Saesneg).

BB8

Y model hwn o'r droid Star Wars yw'r unig robot yn y casgliad nad yw'n symud hyd yn hyn. Penderfynodd ei gadw fel robot disymud dim ond oherwydd diffyg amser, ac oherwydd y ffaith mai R2D2, model hollol weithredol, sydd bob amser yn mynd gydag ef i'r digwyddiadau.

Mae'r fideo isod (yn Saesneg) yn esbonio ychydig mwy am sut mae'r robot hwn wedi'i adeiladu a'i ddylunio.

Dizzy

Dyma R2D2 wedi'i ail-ddychmygu fel droid a weithredir gan stêm a chlocwaith. Mae Dizzy yn boblogaidd iawn, yn enwedig ymhlith y cymunedau agerstalwm.

I gael gwybod mwy am Dizzy, gwyliwch y fideo isod (yn Saesneg) a gyflwynir gan Steve.

Doris y Dalek

Mae Steve yn ffan mawr o Dr Who ers blynyddoedd lawer ac mae wrth ei fodd â'r Dalekiaid. Felly penderfynodd greu ei Ddalek ei hun. Model wedi'i wneud gartref yw Doris, wedi'i seilio ar y rhai a welwyd ar y gyfres newydd o Dr Who. Croesfrid yw hi, sef NSD (Dalek y Cyfresi Newydd) wedi'i groesi â'r Dalek clasurol.

Mae wedi'i wneud o MDF yn bennaf gydag ychydig o rannu metel. Mae'r gromen a'r sgert wedi'u gwneud o wydr ffeibr, wrth gwrs. Mae'n gwneud pob dim y mae'r Dalekiaid ar y teledu yn ei wneud. Mae'n symud ar sgwter symudedd 'Shoprider'. Mae'n gallu symud ar hyd at 10mya, ac mae'n cynnwys modylydd llais ac mae'r goleuadau ar y gromen yn fflachio, felly mae hi'n llawn o effeithiau arbennig.

Dyma gyfweliad fideo (yn Saesneg) â Doris y Dalek, yn rhan o'n digwyddiad Labordy'r Traeth i 2020 (dyma'r ddolen gyswllt â'r darllediad llawn o Labordy Traeth 2020 ar YouTube).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach yr hoffech inni eu rhoi i Doris y Dalek, e-bostiwch i roboticsweek@aber.ac.uk

Gyda llaw, y tebyg yw mai Doris yw'r unig Ddalek sy'n medru'r Gymraeg!

Yn ogystal â helpu gyda digwyddiadau gyda'r cyhoedd, mae Doris y Daleb hefyd yn rhan o dîm drwy Brydain sy'n mynd i ddigwyddiadau elusennol am ddim (gweler gwefan Doris y Dalek am fwy o wybodaeth).

Infinity

Cydweithiodd Stephen Fearn â myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth i wneud 'Infinity', robot ymladd a adeiladwyd i gystadlu yn Robot Wars.

Mae gan y robot 100kg hwn blatiau metel amddiffynnol trwchus, arf fel crafanc ar y blaen, ac mae modd ei yrru y naill ffordd i fyny neu'r llall.

Mae'r fideo isod yn dangos Robot Wars Extreme: University Challenge a ddangoswyd gyntaf ar BBC Choice yn Ionawr 2003, sy'n cynnwys 'Infinity'.

Gwnaethpwyd rhai addasiadau i Infinity yn ddiweddar, gan obeithio y byddai'n gallu cymryd rhan pan ailgychwynnwyd Robot Wars yn ddiweddar, ond nid oedd yn barod mewn pryd ar gyfer y gyfres newydd gyntaf (sef yr unig gyfres hyd yn hyn).

Sumo-Bots

Gan nad yw Robot Wars yn cael ei ddarlledu ym Mhrydain bellach, efallai y byddech yn meddwl bod robotiaid ymladd yn perthyn i'r gorffennol erbyn hyn.

Ond y dyddiau hyn mae gan robotwyr mwyfwy o ddiddordeb mewn creu unedau llai i gystadlu mewn brwydrau tebyg i reslo swmo.

Mae'r math hwn o frwydro yn cael ei ddefnyddio'n aml gydag unedau Mindstorm Lego yn ein gweithdai i ysgolion. Ond mae Stephen hefyd yn cynnal cystadlaethau, ac yn cymryd rhan ynddynt, y tu allan i'r Brifysgol.

Dyma fideo (yn Saesneg) am ei 'Sumo-Bots':

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o'i ddigwyddiadau, neu os hoffech wybod mwy am reoliadau a chyfyngiadau cystadlaethau Sumo-Bots, gweler tudalen ein Clwb Roboteg ar Sumo-Bots (nid yw wedi diweddaru eto ar gyfer 2020 gan fod yr holl ddigwyddiadau wedi'u canslo oherwydd y Coronafirws)

Crwydrwr Barnes

Nid robot adloniant mo Crwydrwr Barnes; fe'i hadeiladwyd gan Stephen Fearn i'w ddefnyddio at ddibenion addysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n fodel, wedi'i symleiddio, o Grwydrwr Rosalind Franklin a lansir, gobeithio, ar gyrch i'r blaned Mawrth yn 2022.

Defnyddiwn y robot hwn i helpu â'n gwaith ymchwil ac i ddangos maint a chymhlethdod y cerbyd crwydro hwn mewn amryw ddigwyddiadau cyhoeddus.

Ac fe gafodd Crwydrwr Barnes ei ddadorchuddio am y tro cyntaf yn fyw ar y teledu yn ystod un o weithgareddau Wythnos Roboteg 2018

Crwydrwr Barnes

Mae Steve a Tomos Fearn hefyd wedi adeiladu modelau robotaidd llai eu maint o'r crwydrwr ar gyfer gweithdai, arddangosfeydd a ffeiriau addysgol.

Prosiectau Aelodau Clwb Roboteg Aberystwyth

Yn ogystal â dylunio ac adeiladu robotiaid, mae Stephen Fearn hefyd yn cynorthwyo â gwaith cynnal Clwb Roboteg Aberystwyth. Mae hyn yn golygu helpu'r aelodau i adeiladu eu robotiaid eu hun.

'Sgrialwyr' Red Dwarf

Mae un o aelodau Clwb Roboteg Aberystwyth wedi bod wrthi'n rhoi'r hyn mae wedi'i ddysgu ar waith drwy greu ei Sgrialwyr ei hun, wedi'u seilio ar y rhai yn Red Dwarf.

Yn rhan o Labordy Traeth 2020, yn garedig iawn, fe wnaeth hi fideo (yn Saesneg) am ei phrosiect sydd i'w weld isod.

Elegoos

Eleni roedd dechreuwyr ein Clwb Roboteg wedi cael eu pecynnau Elegoo eu hun er mwyn iddynt adeiladu robot pedair olwyn, yn cychwyn o'r cychwyn, cyn dysgu sut i'w raglennu i ddefnyddio synwyryddion i ymgyfeirio. Yn anffodus, nid yw'r prosiectau wedi'u cwblhau oherwydd y mesuriadau cyfyngu i atal y Coronafirws.

Rover Elegoo

Mae'r pecynnau hyn ar gael i'w prynu ac maent yn cynnwys cyfarwyddiadau adeiladu. Gobeithio y gallwn ddarparu mwy o fanylion am becynnau i ddechreuwyr mewn cyfres o weithdai yn y dyfodol.

'Cybots'

Mae ein Swyddog Cyswllt Allanol Cyfadrannol wedi methu ag ymwrthod â themtasiwn yr adnoddau sydd ar gael drwy'r Clwb Roboteg. O ganlyniad mae hi erbyn hyn yn gweithio ar ailadeiladu 3 uned Cybot a 2 robot cwmnïaeth Cybot, o'r enw TOM. Ar ôl iddynt gael eu cwblhau gobeithio y gallwn eu cynnwys yn ein gweithgareddau a'n harddangosfeydd cyhoeddus.

Cybot wedi'i gwblhau

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae Stephen Fearn wedi lled awgrymu beth fydd ei brosiect nesaf o ran ei robotiaid adloniant ar ddarllediad byw o Labordy Traeth 2020. Wedi'i guddio yng nghrombil ei weithdy hollol gyfrinachol y mae deunydd creu Peiriant Amser. 'Amser' a ddengys pa fath y mae'n dewis ei gopïo.

Ymddangosiadau Cyhoeddus Nesaf

Pan fydd y cyfyngiadau symud yn cael eu codi i'r graddau lle y bydd hi'n bosib cynnal digwyddiadau eto, rhown wybod i chi am y digwyddiadau nesaf yma

Rhagor o Wybodaeth

Cafodd y rhan fwyaf o'r fideos uchod eu creu a'u darlledi ar gyfer Labordy Traeth Prifysgol Aberystwyth 2020.

I gael rhagor o wybodaeth am greadigaethau Stephen Fearne, gweler ei wefan DalekDoris.co.uk. Neu fe gewch fod yn ffrind i Dalek Doris ar Facebook

Dyma'r ddolen gyswllt â Chlwb Roboteg Aber

I drafod posibiliadau cynnal digwyddiadau cyswllt, cysylltwch â Natalie Roberts: nar25@aber.ac.uk