Atebion gêm gofod Scratch

English

Atebion gêm gofod Scratch

Gwnewch eich gorau i beidio â defnyddio'r atebion isod nes eich bod eisoes wedi rhoi cynnig ar y gweithgaredd.

Dylai'r sgript wedi'i chwblhau ddechrau gyda bloc 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio' sydd wedyn wedi'i gysylltu â bloc 'am byth' sydd â'r bloc 'mynd at bwyntydd y llygoden' ynddo.

Dylai'r sgript wedi'i chwblhau ddechrau gyda bloc 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio' sydd wedyn wedi'i gysylltu â bloc 'am byth'. Y tu mewn i'r bloc 'am byth' mae bloc 'aros nes cyffwrdd Retro Robot?' a bloc 'chwarae sŵn popian nes ei fod wedi gorffen'.

Yr unig wahaniaeth yn y sgript hon, o'i chymharu â cham 6, yw bod yna floc 'mynd i rywle arall ar hap' wedi'i fewnosod yn y bloc 'am byth' o dan y bloc 'chwarae sŵn popian nes ei fod wedi gorffen'.

Mae dwy sgript yn Ardal Sgript y Creigiau. Y sgript gyntaf yw'r un o gam 7. Mae'r ail hefyd yn dechrau pan fo bloc 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio' wedi'i gysylltu â bloc 'am byth'. Y tu fewn i'r bloc 'am byth' mae bloc 'aros nes cyffwrdd NPC?' wedi'i ddilyn gan floc 'mynd i rywle arall ar hap'.

Mae sgript NPC yn dechrau gyda'r bloc 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio' sydd wedi'i gysylltu â bloc 'am byth' ac ynddo: bloc 'gosod y ffordd mae'n cylchdroi' ar 'peidio â chylchdroi', ac yna floc 'mynd i'r Creigiau' ac wedyn floc 'symud 10 cam'.

Mae dwy sgript yn yr Ardal Sgriptiau ar gyfer ein corlun Retro Robot. Mae'r cyntaf yn dechrau gyda'r bloc 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio' wedi'i gysylltu â bloc 'gosod maint i 50%' sydd wedyn yn cysylltu â bloc 'am byth' sydd â'r bloc 'mynd at bwyntydd y llygoden' ynddo. Mae'r ail sgript hefyd yn dechrau gyda'r bloc 'pan fydd y faner werdd yn cael ei chlicio', gan gysylltu'n uniongyrchol i'r bloc 'am byth' sydd â'r blociau gorchymyn  'aros nes cyffwrdd NPC' a 'stopio'r cyfan' (yn y drefn honno).