English

Ffug Newyddion

Beth yw ffug newyddion?

Pam fod ffug newyddion yn bodoli?

Sut caiff ffug newyddion ei ledaenu?

Pam fod ffug newyddion yn beth drwg?

Sut ydw i'n canfod ffug newyddion?

Ydy ffug newyddion yn broblem newydd?

Beth allwn ni ei wneud i atal ffug newyddion?

Pa ffynonellau newyddion allaf i ymddiried ynddyn nhw?

Gobeithio y bydd y gweithdy hwn yn cynnig yr atebion rydych chi'n chwilio amdanyn nhw ynghylch ffug newyddion

Beth yw Ffug Newyddion?

Yr ateb syml yw mai ffug newyddion yw unrhyw newyddion nad yw'n adrodd y gwir yn llawn.

Enghreifftiau o Ffug Newyddion

Nodwch NAD yw'r straeon isod yn wir ond eu bod yn bodoli ar y rhyngrwyd.

Pam fod Ffug Newyddion yn Bodoli?

Ceir llawer o fathau gwahanol o ffug newyddion a cheir rhesymau amrywiol am eu bodolaeth

Dyma ragor o wybodaeth am yr erthyglau ffug newyddion uchod a sut y daethon nhw i fod, i helpu i ddangos rhai o'r rhesymau pam fod ffug newyddion yn bodoli.

  1. Aelod o Lywodraeth Periw wnaeth yr honiadau ffug hyn yn ystod cyfweliad radio. Dyma enghraifft o rywun nad yw'n deall gwybodaeth ond sy'n darlledu'r wybodaeth ddiffygiol yma i bobl eraill. Mae astudiaethau gwyddonol yn dangos bod gobaith fod gan lamas wrthgyrff coronafeirws y gellid eu datblygu'n frechlyn i bobl. Nid yw'r gwrthgyrff hyn yn cael eu trosglwyddo drwy fwyta cig llama.

  2. Aeth y neges hon ar Facebook yn feiral, gyda llawer o bobl yn ei chredu. Mae'r ddolen ar y neges yn dangos ei bod yn dod o safle newyddion dychanol (sy'n dyfeisio erthyglau newyddion doniol er difyrrwch). Mae'n debygol fod y neges wedi'i rhannu am hwyl, ond am na nododd y defnyddiwr ei bod yn ffug, credodd pobl y stori a'i rhannu fel newyddion go iawn.

  3. Enghraifft o dynnu gwybodaeth o'i chyd-destun i gefnogi damcaniaeth cynllwyn. Ydy, mae'r sgrin-lun yn gywir, ond yr hyn sydd heb ei egluro yw bod y pecynnau profi hyn wedi bod ar gael ers blynyddoedd am eu bod yn cael eu defnyddio i brofi am bethau oedd yn bodoli cyn covid-19. Mae'r pandemig hwn wedi arwain at ailenwi'r pecynnau profi hyn yn gamarweiniol yn becynnau profi covid-19.

  4. Ceir nifer o wefannau sy'n darparu newyddion doniol am hwyl a difyrrwch yn unig. Daw'r erthygl hon yn uniongyrchol o un o'r safleoedd hynny.

  5. Dyma enghraifft o ffug newyddion maleisus. Mae wedi'i gynllunio i edrych mor swyddogol â phosibl i dwyllo darllenwyr i'w gredu. Y canlyniad: sawl tân bach a sawl iPhone wedi'i ddinistrio ar ôl i bobl eu coginio yn y microdon.

    Enghreifftiau o ffonau wedi'u dinistrio gan ddefnyddwyr a gredodd y ffeithlun ffug uchod ac a geisiodd wefru eu ffonau yn y microdon
    Ffynhonnell: Dailymail.co.uk


    I fod yn glir - Ni ddylech byth osod unrhyw ddyfais electronig mewn microdon, oni bai eich bod yn dymuno dinistrio'r ddyfais a'r microdon.

Gwir neu Ffug?

Isod ceir cyfres o benawdau newyddion o amrywiol ffynonellau (yn ystod mis Hydref 2020). Rydym ni wedi eu trosglwyddo i gyd i'r un arddull i guddio'r ffynonellau. A allwch chi ddyfalu pa rai sy'n ffug?

Dim ond dwy o'r erthyglau hyn sy'n ffug newyddion.

  1. Mae hon yn stori newyddion wir o'r Mirror

  2. Newyddion ffug yw hyn - caiff wrin gan ofodwyr ar yr ISS ei ailgylchu'n ddŵr yfed

  3. Mae hon yn stori newyddion wir o'r Metro

  4. Mae hyn yn wir, mae M&S wedi cyflwyno'r afalau coch newydd hyn, er mae'n bosibl bod y llun wedi cael ei newid i wneud iddynt edrych yn fwy coch nag y maent mewn gwirionedd.

  5. Mae'r stori hon yn wir ac i'w gweld mewn nifer o gyhoeddiadau newyddion. Roedd y cwpl o Ffrainc yn meddwl eu bod yn talu am gath Savannah (brïd prin o gath ddomestig)

  6. Newyddion ffug yw hyn. Mae llawer o'r erthyglau hyn ar-lein am y pethau y mae Donald Trump wedi cael ei ddyfynnu yn eu dweud, ond na ddywedodd mewn gwirionedd.

Pa mor anodd oedd yr ymarfer hwn?

Mae'n anodd iawn pennu gwirionedd erthygl o ddarllen dwy linell heb wybod y ffynhonnell.

Dyma sut y gall ffug newyddion ledaenu mor gyflym ar y cyfryngau cymdeithasol - ychydig iawn o wybodaeth sydd yn y postiadau hyn a dim ffynhonnell i'w gwirio, ond os yw'n ddigon credadwy, bydd pobl yn rhannu heb wirio a yw'n wir.

Ydy Ffug Newyddion yn Rhywbeth Newydd?

Yn anffodus, nac ydy. Mae ffug newyddion wedi cael ei ddefnyddio drwy hanes gyda rhai o'r achosion cyntaf yn ôl yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Mae'r gallu i ledaenu'n gyflymach o gwmpas y byd erbyn heddiw, oherwydd y rhyngrwyd - yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, yn golygu bod mwy o bresenoldeb gan ffug newyddion nag erioed.

Propaganda

Beth yw propaganda?

Propaganda yw lledaenu gwybodaeth, syniadau a/neu sïon i helpu neu niweidio person neu grŵp

Mewn cyfnod o ryfel yn benodol, mae llywodraethau'n dibynnu llawer ar bropaganda i gael cefnogaeth y bobl

Ceir y cofnod cyntaf o ledaenu gwybodaeth ffug ar ffurf propaganda yn Rhufain hynafol. Fe'i defnyddiwyd gan Octavian i hawlio rheolaeth dros Rufain oddi ar Mark Anthony. Defnyddiodd feirdd a sloganau wedi'u hysgythru ar ddarnau arian i ledaenu'r neges nad oedd Mark Anthony'n addas i reoli gan ei fod yn feddwyn anffyddlon.

Gellid dadlau mai propaganda yw'r prif reswm am lawer o ffug newyddion heddiw, boed yn erbyn arweinwyr gwleidyddol, grwpiau ethnig, crefyddau, gwledydd neu hyd yn oed bobl sy'n bwyta cig.

Gan fod propaganda'n destun mor eang, byddwn yn datblygu gweithdy ar-lein i ehangu ar y pwnc.

Elw

Arian yw'r rheswm am lawer o bethau, yn cynnwys defnydd o ffug newyddion gan y cyfryngau. Y dyddiau hyn, mae gan gwmnïau cyfryngau ddatganiadau a goruchwylwyr i sicrhau eu bod yn cadw'n driw i'r ffeithiau gan ymddiheuro wrth gyhoeddi cywiriadau. Doedd pethau ddim wastad fel hyn.

Dechreuodd yr enghraifft fwyaf enwog o greu ffug newyddion er elw ar 25 Awst 1835 yn The New York Sun.

Ysgrifennodd newyddiadurwr chwe phennod o stori ryfeddol am ddarganfod bywyd ar y lleuad. Disgrifiodd y brodorion yn fanwl, gan sôn am ble roedden nhw'n byw a sut roedden nhw'n difyrru eu hunain. Roedd y stori'n ymddangos yn wir ac yn ôl honiad yr awdur, roedd seryddwyr y cyfnod yn ei chefnogi.

Delwedd o bobl yn hedfan, uncyrn, adar a chreaduriaid rhyfeddol eraill mewn dyffryn afon ar y lleuad
Dyma un o'r delweddau a gyhoeddwyd gyda'r stori yn y New York Sun. Mae'n honni ei bod yn dangos y ffurfiau bywyd hynod ar y lleuad.

Pam creu stori o'r fath?

Gwnaed hyn er mwyn ennill tanysgrifwyr i'r papur. Roedd yn stýnt cyhoeddusrwydd i'w helpu i gystadlu yn y busnes papurau newydd oedd yn ehangu.

Profodd yn llwyddiannus a pharhaodd y papur newydd mewn busnes tan 1950.


Daw stori hanesyddol arall am elwa drwy ledaenu ffug newyddion o gyfnod Jack the Ripper yn Llundain yn ystod Oes Fictoria:

Byddai papurau newydd yn cael eu gwerthu ar y stryd gan werthwyr oedd gwneud bywoliaeth fel hyn. Sylwon nhw fod straeon am Jack the Ripper yn gwerthu'n well nag unrhyw beth arall. Dechreuodd y gwerthwyr weiddi am erthyglau ar Jack the Ripper nad oedd i'w gweld yn y papurau newydd hyn yn oed er mwyn hybu gwerthiant. Os byddai gwerthwyr yn cael eu dal yn gwneud hyn, bydden nhw'n cael eu harestio a'u cyhuddo o dwyll.


Mae gwneud elw o ffug newyddion yn dal i ddigwydd heddiw. Mae hysbysebu ar wefannau'n gwneud llawer o arian i gwmnïau. Po fwyaf o hysbysebu, y mwyaf y cânt eu talu. Ffordd dda o wirio ffynhonnell erthygl newyddion yw gweld pa hysbysebu sy'n bresennol.

Enghraifft o hyn yw ffug newyddion a ddefnyddir fel 'click-bait'. Pennawd camarweiniol neu ffug sy'n mynd â chi at dudalen sy'n llawn hysbysebion ac sy'n eich gorfodi i deithio drwy fwy fyth o dudalennau o hysbysebion er mwyn gorffen yr erthygl.

Fodd bynnag mae rhai ffynonellau mwy dibynadwy bellach yn cynnwys hysbysebu ar eu gwefannau er mwyn talu cost darparu newyddion am ddim i'r cyhoedd.

Adloniant

Mae rhai straeon ffug newyddion yn bodoli i ddarparu adloniant. Mae rhai straeon yn llai niweidiol nag eraill.

Un o'r enghreifftiau gorau o ddigwyddiad o'r fath cyn y rhyngrwyd oedd sioe radio yn 1938 yn UDA a ddarlledodd War of the Worlds gan H. G. Wells mewn bwletinau newyddion oedd fel pe baen nhw'n torri ar draws yr amserlen arferol.

Roedd cymaint o bobl yn credu'r bwletinau hyn nes bod pobl yn ceisio dianc i'r arfordir neu wirfoddoli yn yr ymdrech rhyfel yn erbyn brodorion planed Mawrth hyd yn oed cyn gorffen darlledu. Sicrhaodd hyn adroddiadau newyddion gwych i weddill y byd y diwrnod canlynol...

Erthygl o'r Falkrirk Herald y diwrnod ar ôl y darllediad yn rhestru amrywiol weithredoedd pobl America mewn panig wrth gredu'r addasiad radio o War of the Worlds.
Dyma doriad o'r Falkirk Herald (papur newydd Prydeinig) y diwrnod ar ôl darlledu'r addasiad radio o War of the Worlds.

Os bu angen tystiolaeth erioed o'r niwed y gall ffug newyddion ei achosi, dyma chi. Er mai fel adloniant y'i bwriadwyd, arweiniodd at banig torfol, pobl mewn ysbytai a rhai hyd yn oed cymryd bywydau eu huniain yn hytrach na dioddef marwolaeth gan arfau brodorion Mawrth.

Damcaniaethau Cynllwyn

A laniodd dyn ar y lleuad MEWN GWIRIONEDD?

Ydy arweinwyr y byd yn cael eu rheoli gan yr Illuminati?

Ydy'r Ddaear yn fflat?

Ydi Awstralia wir yn bodoli?

Mae creu'r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol wedi gadael i bobl sydd â syniadau tebyg gyfarfod â'i gilydd ac adeiladu ar eu credoau. Mae pobl wedi manteisio ar hyn drwy gyhoeddi gwybodaeth allan o'i chyd-destun, ystumio'r ffeithiau, neu gamddeall y dystiolaeth yn llwyr.

Mae hyn yn ffordd o adeiladu diffyg ymddiriedaeth mewn llywodraethau, sefydliadau a gwyddonwyr. Mae rhai hefyd yn ei wneud er mwyn gweld faint o bobl maen nhw'n gallu dylanwadu arnyn nhw, neu faint o weiddi a gaiff ei achosi.

Ar adeg ysgrifennu'r dudalen gwe hon, mae dylanwad QAnon wedi cyrraedd protestwyr yn Llundain. I'r rheini sydd ddim yn gwybod, blogiwr dienw yw QAnon a ddechreuodd y si fod ffatri pŵer cudd y byd - a fyddai'n cael eu galw'n wreiddiol yn Illuminati - yn Satanyddion sydd wedi cyflawni troseddau erchyll. Mae cefnogwyr y gred hon i'w canfod drwy hashnodau diniwed yr olwg fel #SaveTheChildren neu #SaveOurChildren. Dechreuodd y mudiad yn UDA gyda'r gred mai Donald Trump fydd y dyn i ddymchwel yr arglwyddi trosedd hyn. Bellach, caiff datganiadau a chynllwynion blaenorol y grŵp eu dyfynnu ar blacardiau a dillad protestwyr ym Mhrydain a gwledydd Ewropeaidd eraill.

Mae hyn yn dangos pa mor bwerus y gall camwybodaeth fod, a sut y gall un neges arwain at anarchiaeth anghyfiawn ar draws y byd.

Ydy pob Ffug Newyddion yn Gelwydd?

Nid yw ffug newyddion bob amser yn gwbl ffug. Yn wir, mae'r erthyglau ffug newyddion mwyaf credadwy'n seiliedig ar rywfaint o wirionedd. Po fwyaf o wirionedd a geir, y mwyaf anodd yw datgelu'r celwydd oddi mewn.

Ambell waith mae erthyglau ffug newyddion yn defnyddio ffeithiau/ffigurau cywir allan o'u cyd-destun i ystumio'r gwir i ateb eu hagenda nhw - a all fod yn wleidyddol, yn frawychus neu greu anarchiaeth.

Gellir disgrifio erthyglau newyddion eraill fel ffug newyddion oherwydd tueddiadau personol yr awdur. Pe bai newyddiadurwr yn ysgrifennu adroddiad ar weithred wleidyddol roedd yn ei gwrthwynebu'n bersonol, mae'n bosibl y byddai'n pwysleisio'r elfennau negyddol a/neu hepgor elfennau cadarnhaol. Mae hyn yn golygu y byddai'r erthygl yn anghytbwys, heb ddarlunio'r ffeithiau'n llawn.

Mae'r rhan fwyaf o newyddiadurwyr proffesiynol yn cydnabod eu tuedd eu hunain ac yn gweithredu i'w atal wrth ysgrifennu, neu dynnu sylw ato o'r dechrau.

Dyw'r llinell denau rhwng gohebu unochrog a ffug newyddion ddim yn glir. Mae llywodraethau'n dechrau dal cyflenwyr newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol am leihau lledaeniad ffug newyddion/unochrog.

Er enghraifft, yn ystod etholiadau Arlywyddol 2020 yn UDA, mae Facebook a Twitter yn wynebu ymchwiliadau llywodraethol ynghylch dal stori newyddion yn erbyn un o'r ymgeiswyr yn ôl, er eu bod yn dal i rannu straeon ffug newyddion/unochrog am y llall.

Pam fod Ffug Newyddion yn beth Drwg?

Caiff ffug newyddion ei greu am y rhesymau anghywir - boed er elw, mantais wleidyddol, neu gynyddu dylanwad rhywun ar-lein

Mae'n tanseilio ein hymddiriedaeth yn yr hyn rydym ni'n ei ddarllen ar-lein hyd yn oed gan y ffynonellau newyddion mwyaf dibynadwy.

Efallai mai'r agwedd sy'n peri'r mwyaf o bryder o ran ffug newyddion yw'r cyflymder mae'n lledaenu drwy boblogaeth, a'r ffordd y gall ddylanwadu ar farn y cyhoedd. Ceir cyhuddiadau bod rhai gwledydd yn defnyddio hyn i beri anghytgord mewn gwledydd eraill, yn enwedig yn ystod cyfnodau etholiad/refferendwm. Mae'n bosibl eu bod hyd yn oed yn ei ddefnyddio i sicrhau canlyniadau sy'n eu ffafrio nhw. Tra bo gwledydd yn dioddef pegynnu barn mewn gwleidyddiaeth, maen nhw'n llai ymwybodol o ddigwyddiadau eraill, a allai fod yn fwy tywyll, sydd ar waith mewn mannau eraill.

Mae'r newyddion i fod i sicrhau bod y boblogaeth gyffredinol yn cael gwybod am y materion cyfoes diweddaraf. Y nod yw bod pawb yn cael gwybod am unrhyw beth a allai effeithio arnyn nhw, eu bywoliaeth neu'r wlad lle maen nhw'n byw. Mae ffug newyddion yn tanseilio'r nod hwn ac yn lleihau ein gallu i wneud penderfyniadau gwybodus, boed bersonol neu'n wleidyddol.

Cynlluniwyd y rhyngrwyd ei hun i fod yn ffordd i rannu a chronni gwybodaeth i'r byd i gyd ei defnyddio. Roedd i fod i helpu i wella ein haddysg a'n mynediad at ffeithiau. Mae ffug newyddion wedi cynorthwyo i gyflawni'r gwrthwyneb drwy bregethu/cyflwyno straeon/damcaniaethau ffug mewn ffordd gredadwy. Mae hyn yn golygu bod y gwirionedd ar-lein yn cael ei guddio yng nghanol sŵn y bobl sy'n dymuno gorfodi eu barn ar bobl eraill - hyd yn oed pan nad oes tystiolaeth/prawf i gyfiawnhau eu honiadau.

Pryd nad yw Ffug Newyddion yn Ffug Newyddion?

Ceir unigolion a grwpiau a fydd yn honni bod unrhyw erthygl newyddion nad ydyn nhw'n cytuno â hi yn gorfod bod yn ffug newyddion, hyd yn oed pan nad yw hynny'n wir.

Er enghraifft, yn ystod ymgyrch etholiadol yn y DU, daeth tystiolaeth i'r amlwg yn awgrymu bod gan arweinydd un o'r pleidiau gysylltiadau â mudiadau terfysgol oedd yn achos pryder. Roedd hyn yn y penawdau ar draws y prif gyfryngau - ond anwybyddodd cefnogwyr ffyddlon yr arweinydd yr holl dystiolaeth gan redeg ymgyrch yn honni bod yr holl gyfryngau hyn yn euog o ledaenu ffug newyddion i ddwyn anfri ar yr arweinydd plaid.

I'r rheini ohonoch sy'n credu hyn, nodwch fod y BBC ei hun wedi gohebu ar ymddiheuriad y person hwn am alw'r grwpiau terfysgol hyn yn 'ffrindiau' yn y gorffennol - os ydych chi'n dal ddim yn fy nghredu i, mae ganddyn nhw recordiad o'r sesiwn seneddol lle digwyddodd hyn.

Sut i Ganfod Ffug Newyddion

Y prif ddull ar gyfer cadarnhau erthygl newyddion rydych chi wedi'i darllen yw gweld o ble mae'n dod a gwirio a yw'r un newyddion yn cael ei adrodd mewn ffynonellau newyddion dibynadwy eraill.

Beth sy'n gwneud ffynhonnell newyddion yn ddibynadwy?

Mae hwn yn gwestiwn anodd ei ateb. Y ffordd orau i sicrhau dilysrwydd erthygl newyddion yw gweld a yw wedi'i chyhoeddi gan nifer o gyfryngau mawr gwahanol. Mae stori newyddion sy'n wir yn debygol o gael sylw ar draws y BBC, ITV, Channel 4 a Sky News, ynghyd ag amrywiol bapurau newydd mawr cenedlaethol (e.e. The Independent, The Daily Mail, The Guardian)

O'r rhain, y BBC sydd â'r enw gorau am wirio ffeithiau cyn cyhoeddi. Ar adegau gellir eu cyhuddo o gyflwyno'n unochrog, ond anaml iawn y profwyd eu bod wedi cyflwyno ffug newyddion. Rwy'n dweud anaml oherwydd maen nhw'n cymryd rhan bob blwyddyn yn hwyl Dydd Ffŵl Ebrill (1 Ebrill) gan greu ffug newyddion i geisio twyllo'r gwylwyr. Y tro cyntaf iddyn nhw wneud hyn oedd yn 1957, gweler isod yr eitem ffug newyddion a ddarlledwyd ar BBC Panorama y diwrnod hwnnw.


Darllediad ffug newyddion ar BBC Panorama ar Ddydd Ffŵl Ebrill 1957

Twyllwyd llawer o bobl gan y stori oherwydd eu diffyg gwybodaeth am fwyd o'r Eidal yn y 1950au, ynghyd â'r ffaith ei bod yn cael ei chyflwyno fel adroddiad dogfennol ar y BBC dibynadwy.

Felly, os ydych chi'n siŵr nad yw hi'n ddydd Ffŵl Ebrill, y ffordd orau i gadarnhau'r gwirionedd y tu ôl i erthygl newyddion yw gweld a yw'r BBC wedi'i hadrodd yn ogystal ag o leiaf un cyfrwng newyddion mawr arall (fel y rhestrir uchod).

Cyfrifoldeb Personol

Pam ddylwn i boeni a yw'r newyddion rwyf i'n ei rannu'n ffug?

Mae gan bob un ohonom rywfaint o gyfrifoldeb am yr hyn rydym ni'n ei bostio a'i rannu ar y rhyngrwyd, hyd yn oed yn ddienw. Mae helpu i ledaenu stori ffug newyddion, neu wneud iddi fynd yn feiral, yn helpu'r bobl y tu ôl iddi gyda'u cynlluniau sydd fel arfer yn niweidiol i unigolion neu gymdeithasau.

Sut fyddech chi'n teimlo pe bai ffug newyddion yr helpoch chi i'w ledaenu'n arwain at farwolaeth rhywun, anhrefn sifil neu hyd yn oed ryfel?

Efallai fod hynny'n swnio'n eithafol, ond mae ffug newyddion ar-lein yn meithrin cymaint o ddilynwyr fel bod y rhain yn ganlyniadau posibl yn y dyfodol.

Er enghraifft, gallai cynhyrchwyr ffug newyddion mewn gwlad dramor foddi'r cyfryngau cymdeithasol gyda llawer o straeon ffug newyddion sy'n dylanwadu ar farn y cyhoedd ynghylch llywodraeth neu arweinwyr eu gwlad. Gallai hyn yn hawdd ddwysau'n brotestiadau, terfysgoedd a hyd yn oed rhyfel cartref.

Felly gwiriwch bob erthygl newyddion rydych chi am ei rhannu ar-lein. Os nad ydych chi'n siŵr, eglurwch hynny wrth bostio. Os ydych chi am ei rhannu er difyrrwch (h.y. mae'n ddoniol), gwnewch yn siŵr eich bod yn egluro hynny yn eich post.

Cofiwch fod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol bellach yn cosbi'r rheini sy'n lledaenu ffug newyddion. Mae hyn yn golygu y gallai eich cyfrif gael ei atal a/neu ddileu os ydych chi'n rhannu'r erthyglau hyn.