English

Gweithdy Gŵyl Fyre

Yn ystod y sesiwn bydd myfyrwyr yn dysgu am Ŵyl Fyre ddrwg-enwog 2017 a drefnwyd gan Billy McFarland a Ja Rule.

Ymhlith y pynciau a drafodir yn rhan o'r astudiaeth achos mae marchnata, prisio, cefnogaeth gan enwogion a rheoli digwyddiadau.

Penllanw'r sesiwn fydd tasg grŵp ryngweithiol gyda'r myfyrwyr yn dyfeisio eu gŵyl eu hunain ac yn cyflwyno poster marchnata.

Offer a ddarperir

Rydym ni'n darparu swyddog cyflwyno, papur siart troi a phinnau ysgrifennu.

Beth sydd angen i chi ei gyflenwi

Ystafell ar ddull seminar gyda chyfrifiadur a thaflunydd.

Hyd y gweithdy

Ystafell ar ddull seminar gyda chyfrifiadur a thaflunydd.

Grwpiau Oedran

Delfrydol ar gyfer myfyrwyr TGAU a Safon Uwch.

Gofynion cyflwyno'n rhithiol

Nid yw'r gweithgaredd hwn ar gael i'w gyflwyn'n rhithwir.

Mae gennym amrywiol weminarau Safon Uwch, gydag ymarferion, ar adran Busnes yr Hwb Allgymorth. Mae'r rhain hefyd ar gael i'w lawrlwytho our TES shop.

Adborth


Gair byr yw hwn i ddiolch i ti am dy help ac am roi cyflwyniad i ddisgyblion Llanhari ddydd Mawrth... Roedd lot fawr o drafod dy gyflwyniad neithiwr!