Mae'r rhain yn canolbwyntio ar elfen benodol mewn busnes (Rheoli, Marchnata, Economeg, Cyllid a Thwristiaeth) a addysgir yn Ysgol Fusnes Aberystwyth. Maent yn cyfuno diddordebau aelodau o staff academaidd gyda materion byd-eang cyfoes i ddarparu cipolwg ar fyd busnes.
Cyfrifeg a Chyllid
Mae Cyfrifeg yn ymwneud â darparu gwybodaeth a chyngor pwysig a chymhleth. Mae deall cyfrifon yn cynnig dealltwriaeth o ba mor llwyddiannus yw busnes yn ariannol, mae'n caniatáu ystyriaeth o ffyrdd i gyllido busnes newydd neu dwf mewn busnes sy'n bodoli. Gall bod â dealltwriaeth glir o gyfrifeg hefyd helpu i ragweld pa gynnyrch newydd sy'n mynd i fod yn fwyaf proffidiol a chreu dealltwriaeth ddwys o'r hyn sy'n gwneud busnesau'n llwyddiannus a pham eu bod yn methu. Bydd y sgwrs blasu hon yn cwmpasu rhai o'r cwestiynau mwyaf heriol i fusnesau modern fel pwysigrwydd cynnal a datblygu ymddiriedaeth a chanlyniadau bradychu'r ymddiriedaeth honno; beth yw twyll, sut mae'n digwydd a sut allwn ni leihau'r risg y bydd yn digwydd? Mae'r rhain yn ystyriaethau pwysig i unrhyw yrfa broffesiynol, nid mewn Cyfrifeg a Chyllid yn unig.
Rheoli Adnoddau Dynol: Gweithlu Creadigol
Pwy yw'r gweithiwr creadigol a beth mae'n ei gyfrannu i sefydliad? A yw'n berson arloesol, dychmygus, digymell, mentrus sy'n cymryd risgiau ac sy'n meddwl 'y tu allan i'r bocs' drwy'r amser yn ôl y darlun a geir yn aml; neu yn hytrach a yw'n meddu ar gydbwysedd o sgiliau a nodweddion personol sy'n golygu y gall sianelu gallu creadigol mewn ffordd bragmataidd? Bydd y sgwrs blasu hon yn trafod cysyniad creadigrwydd a'r gweithiwr creadigol, gan ddefnyddio ymarferion i gyfoethogi creadigrwydd y myfyriwr.
Economeg
Mae economeg yn ymwneud â dewis ac mae wrth graidd y broses benderfynu. Mae unigolion, busnesau a llywodraethau i gyd yn wynebu gorfod gwneud dewisiadau mewn sefyllfaoedd lle mae adnoddau yn brin. O ganlyniad mae economeg yn gymwys i ystod eang o feysydd gan gynnwys busnes, cyllid, gweinyddiaeth, y gyfraith, llywodraeth leol a chenedlaethol ac yn wir y rhan fwyaf o agweddau ar fywyd bob dydd. Bydd y sgwrs blasu hon yn cyflwyno myfyrwyr i brif egwyddorion economeg. Yn gynyddol mae trafodaethau polisi yn cael eu gosod mewn termau economaidd, ac mae deall economeg yn hanfodol ar gyfer dadansoddi materion cyfredol fel Brexit, argyfwng Mudwyr a Ffoaduriaid Ewrop, anghydraddoldeb incwm cynyddol, a'r hinsawdd sy'n newid yn gyflym. Caiff perthnasedd y pwnc i gymdeithas fodern a gweithgareddau busnes ei gyflwyno yn y sesiwn.
Rheoli Adnoddau Dynol: Arwain a Hwyluso Newid
Mae arwain a hwyluso newid yn ymwneud â chychwyn a chyflawni datblygiadau a mentrau newydd yn llyfn drwy eu cynllunio a'u cyflwyno'n systematig. Mae'n debygol mai arwain a hwyluso newid yw'r rôl fwyaf heriol mewn AD. Bydd y sgwrs blasu hon yn trafod sut mae modd arwain a rheoli proses newid yn llwyddiannus ac yn cynnig cipolwg i fyfyrwyr ar eu hagweddau eu hunain at brosesau newid a sut i ymdrin â gwrthwynebiadau i newid.
Logisteg Fyd-eang: Dallineb Môr, neu'r Cefnfor na Chofnodwyd
Ynys yw Prydain, cenedl fordwyol yn hanesyddol. Mae gennym orffennol balch o fforio cefnforoedd y byd, ac nid yn y modd mwyaf cyfeillgar bob amser. Fodd bynnag, pe baech yn gofyn i bobl Prydain y dyddiau hyn faint o'r pethau rydym ni'n eu prynu sy'n dod i Brydain ar y môr, byddai'r rhan fwyaf o bobl yn rhoi'r ateb cwbl anghywir. Ni fyddent yn ymwybodol o'r cymunedau o bobl sy'n treulio llawer o'u bywydau ar y môr, yn ein cyflenwi â nwyddau a gynhyrchwyd yn yr economi fyd-eang. Rydym ni i gyd yn defnyddio'r rhyngrwyd i brynu pethau o bedwar ban byd: mae ebay, er enghraifft, yn borth at farchnad fyd-eang. Mae'r rhyngrwyd yn ein cysylltu â chyflenwyr, ond mae'r diwydiant llongau'n cyflawni'r contract hwnnw. Bydd y sgwrs blasu hon yn cyflwyno pwnc logisteg forwrol, diwydiant sy'n cyflenwi'r pethau rydych chi'n eu defnyddio bob dydd, y tanwydd sy'n pweru ceir, bysiau a lorïau, llawer o'r bwyd rydych chi'n ei fwyta a'r rhan fwyaf o'r dillad rydych chi'n eu gwisgo, ymhlith cynifer o bethau eraill. Mae'n stori ddifyr am system drafnidiaeth fyd-eang hynod effeithiol a datblygedig; stori bwysig sy'n aml ddim yn cael ei chlywed neu'n cael ei chymryd yn ganiataol.
Rheoli Adnoddau Dynol: Cymell Gweithwyr
Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae cymhelliant yn gysyniad allweddol ar gyfer pob busnes. Mae sefydliadau cyfoes yn dechrau sylweddoli mai eu prif ddull o sicrhau mantais gystadleuol yw eu gweithlu unigryw. Ar yr un pryd, mae gweithwyr yn gynyddol fodlon derbyn swyddi â thâl is i wneud rôl maent yn ei mwynhau mewn amgylchedd sy'n gyfforddus iddynt. Bydd y sgwrs blasu hon yn defnyddio dull astudiaethau achos i ystyried sut mae sefydliadau'n creu gweithlu â chymhelliad ac sy'n ymgysylltu, gan drafod yr hyn sy'n tanio angerdd pobl dros eu gwaith a chynnig cipolwg i fyfyrwyr ar eu hoffterau eu hunain o ran cymhelliant.
Busnes a Rheoli: Creu Mentrau Newydd
Nod y sesiwn yw edrych ar sut mae entrepreneuriaid yn datblygu'r syniad ar gyfer menter busnes newydd. Bydd yn cynnwys sut i ddatblygu creadigrwydd ac arloesi a sut i werthuso'r cyfleoedd. Bydd y pynciau'n cynnwys sut i greu map i weld a oes digon o adnoddau i roi'r syniad ar waith.
Busnes a Rheoli: Strategaeth
Mae rheoli strategol yn broses sy'n cynnwys creu, gweithredu a newid, gyda nifer o gydrannau. Bydd y sgwrs blasu hon yn trafod y broses o strategeiddio ynghyd â phwrpas strategaeth. Bydd myfyrwyr yn cael cipolwg ar strategaeth yn seiliedig ar adnoddau (RBV).
Trethi Rhyngwladol ac Osgoi Trethi
Mae gwledydd yn bryderus bod cyfalaf a chynilion yn diflannu o'u hawdurdodaeth i awdurdodaethau trethi isel neu heb drethi o gwbl - Hafanau Treth. Mae'r ffenomen wedi tyfu i'r graddau y caiff ei ystyried yn niweidiol ac nid yw bellach yn sgil effaith Cyllid Rhyngwladol a oddefir ond yn fygythiad i ecwilibriwm economïau'r byd. Mae unigolion cyfoethog a chwmnïau amlwladol yn dal triliynau o ddoleri o gyfoeth personol alltraeth. Bydd y sgwrs hon yn edrych ar rai o'r technegau osgoi trethi y mae cwmnïau amlwladol yn eu defnyddio ac yn nodi technegau penodol y mae cwmnïau sefydledig ac adnabyddus fel Google ac Amazon yn eu defnyddio a sut mae'r awdurdodau trethi'n delio â'r materion hyn.
Rheoli Adnoddau Dynol: 'Ni' yn erbyn 'Fi': Pwysigrwydd Gwaith Tîm
Yn aml caiff arweinyddiaeth ei briodoli i un unigolyn, ond anaml y caiff canlyniad llwyddiannus ei gyflawni gan un person ar ei ben ei hun. Yn hytrach, mae gwaith tîm yn hanfodol i berfformiad sefydliad. Tîm yw nifer bach o bobl sydd â sgiliau cyflenwol ac sy'n ymrwymo i ddiben, nodau perfformio a dull gweithredu cyffredin y mae pob un yn atebol drostynt (Katzenbach a Smith, 1993). Mae'r sgwrs blasu hon yn trafod perfformiad a rôl unigolion mewn tîm, gan gynnig dealltwriaeth i fyfyrwyr o'u hoffterau, galluoedd ac arddull gweithio eu hunain.
Twristiaeth
Twristiaeth yw un o ddiwydiannau mwyaf y byd, gyda thros 1 biliwn o dwristiaid rhyngwladol yn fyd-eang yn 2016, ac mae'n bwysig iawn i economi Cymru. Fel diwydiant gwasanaethu, mae'n canolbwyntio ar ddarparu profiadau i bobl mewn marchnad sy'n gystadleuol yn fyd-eang. Er y caiff ei ystyried yn aml yn 'ddiwydiant di-fwg', mae i dwristiaeth effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pwysig. Bydd y sgwrs hon yn trafod rhai o egwyddorion ac effeithiau rheoli twristiaeth a'i phwysigrwydd i Gymru.
Rydym ni'n darparu swyddog cyflwyno.
Ar gyfer y sgyrsiau hyn mae angen cyfrifiadur (gyda PowerPoint) i'w ddefnyddio gyda thaflunydd mewn ystafell sy'n addas ar gyfer trafodaethau a gweithgareddau grŵp.
Mae pob sgwrs yn 45 munud.
Mae'r sgyrsiau wedi'u cynllunio ar gyfer disgyblion TGAU a Safon Uwch.
I gyflwyno'r sesiynau hyn yn rhithwir bydd angen taflunydd yn gysylltiedig â Microsoft Teams/Google Meets/Zoom, meicroffon a seinyddion.
Mae gennym amrywiol weminarau Safon Uwch, gydag ymarferion, ar adran Busnes yr Hwb Allgymorth. Mae'r rhain hefyd ar gael i'w lawrlwytho drwy'r siop TES.