Swigod

English

Swigod

Gweithdy ar fathemateg yn ymwneud â chaenau neu ffilmiau sebon.

Mae hwn yn weithgaredd ymarferol sy'n ymchwilio i sut y gall swigod gynnig atebion naturiol i broblemau mathemategol cymhleth.

I gael sgwrs neu archebu hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym yn darparu swyddog cyflwyno, sleidiau PowerPoint, a'r toddiant swigod a chwythwyr.

Rydym yn deall y byddai'n well gennych mae'n siŵr wneud y gweithdy hwn yn yr awyr agored, ac os felly byddwn yn dod â fersiynau wedi'u lamineiddio o sleidiau ein cyflwyniad i'w defnyddio fel taflenni.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Os ydym yn cynnal y sesiwn hon y tu mewn i adeilad, bydd angen mynediad at sgrin fawr/taflunydd ar gyfer y Sleidiau PowerPoint. Yn y lleoliadau hyn byddem hefyd yn argymell gorchuddio pob arwyneb i'w hamddiffyn rhag ofn i'r toddiant sebon eu staenio/difrodi.

Dylid rhoi cyfle i'r dysgwyr newid/amddiffyn eu dillad os oes pryderon ynghylch difrod/staenio. Mae ein toddiant swigen yn gymysgedd syml o hylif golchi llestri domestig a dŵr.

Hyd y gweithdy

Mae hwn yn sesiwn 45-60 munud.

Gellir ei ymestyn i gynnwys gweithgaredd creu eich strwythurau ffilmiau sebon eich hunan.

Grwpiau oedran

Rydym yn addasu cynnwys y fathemateg a'r ffiseg i gefnogi CA3 (11-14 oed), TGAU a Safon Uwch.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Rydym wrthi'n datblygu rhagor o weithdai sy'n seiliedig ar yr athrylith fathemategol sydd i'w gweld ym myd natur. Bydd y rhain yn cynnwys sesiynau ar ffractaliaid, dilyniant Fibonacci, a throellau.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Rydym yn hapus i gynnig cymorth o bell ar gyfer y sesiynau hyn. Fodd bynnag, bydd angen i chi gyflenwi'r toddiant swigen angenrheidiol yn ogystal â gwahanol fowldiau (neu chwythwyr) ffilmiau sebon ar siâp 2D a 3D. Gellir gwneud y mowldiau angenrheidiol o wifren i gyd-fynd â'r gofynion; gellid defnyddio gwifren hanger cotiau sydd wedi'i wneud o fetel wedi'i dorri.

Dewis arall i'w gynnal o bell ar gyfer myfyrwyr TGAU a Safon Uwch yw ein gweithgaredd ar-lein o'r enw Mathemateg gyda Swigod.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Mae sawl ffordd i wneud y gweithgaredd hwn. Gallwn yn syml edrych ar effaith pwysedd ar ffurfio swigod, neu sut mae ewynnau/ffilmiau sebon yn cysylltu â phroblemau gwerthwr teithiol, neu hyd yn oed sut y gall ffilmiau sebon helpu i bennu'r arwynebau lleiaf posibl.

Rydym hefyd yn defnyddio rhai o'r deunyddiau hyn ar gyfer arddangosiadau cyhoeddus mewn ffeiriau, arddangosfeydd, cyngherddau a digwyddiadau awyr agored eraill.