O Ffuglen Wyddonol i'r Ffeithiau

English

O Ffuglen Wyddonol i'r Ffeithiau

Dewch i ddarganfod sut mae awduron ffuglen wyddonol wedi dylanwadu ar wyddoniaeth a thechnoleg - heddiw ac ar gyfer y dyfodol.

Gan mai sgwrs yw hon, mae'n addas ar gyfer cynulleidfaoedd bach a mawr.

I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Bydd y swyddog yn dod ag offer i ategu cynnwys y sgwrs. Bydd yr offer hyn yn amrywio gan ddibynnu beth sydd ar gael.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Sgrin fawr neu daflunydd i ni ddangos ein cyflwyniad PowerPoint arno.

Hyd y gweithdy

Mae'r sesiwn hwn yn para 60 munud.

Grwpiau oedran

Mae'r sgwrs hon yn addas i unrhyw un sy'n hŷn na 13. Gallwn ei haddasu i gynulleidfaoedd iau os cawn rybudd ymlaen llaw.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Rydym yn hapus i wneud y cyflwyniad hwn o bell trwy offer cynadledda Teams neu Zoom. Bydd hyn yn gofyn am sgrin fawr neu daflunydd wedi'i gysylltu â seinyddion, meicroffon a gwe-gamera.