Gwyddoniaeth Lliw

English

Gwyddoniaeth Lliw

Edrych yn fwy manwl ar liwiau golau a'u heffaith ar y ffordd rydym ni'n gweld gwrthrychau.

Nod y gweithdy hwn yn ymchwilio i beth sy'n cynhyrchu lliw gwrthrych.

Pam fod lliwiau sylfaenol golau yn wahanol i rai paent? Sut byddai gwrthrychau'n edrych o dan wahanol olau?

I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym yn darparu swyddog cyflwyno a chyflwyniad PowerPoint.

Rydym yn y broses o chwilio am/creu/profi adnoddau ac offer ychwanegol ar gyfer dull mwy ymarferol o gynnal agweddau arbrofol y gweithdy hwn ar hyn o bryd.

Beth mae angen i chi ei ddarparu

Byddwn angen defnyddio sgrin fawr neu daflunydd ar gyfer y cyflwyniad. Bydd angen iddo allu dangos y delweddau'n eglur iawn gyda graddnodiad lliw da.

Os nad yw hyn ar gael, byddem yn awgrymu y dylid sicrhau bod cyfrifiaduron ar gael i ddysgwyr gael gweld yr arddangosiadau arnynt eu hunain - byddem wedyn yn e-bostio'r sleidiau fel bod modd eu gweld ymlaen llaw. Opsiwn arall yw ein bod ni'n darparu set o hyd at 20 gliniadur i'w defnyddio i'r diben hwn.

Hyd y gweithdy

Mae'r gweithdy hwn yn para 45-60 munud.

Grwpiau oedran

Rydym yn amrywio'r cynnwys yn ddibynnol ar oedran ein cynulleidfa. Fodd bynnag, mae'n bosib nad yw mor hawdd i blant o dan 10 oed ddeall y sail bod golau wedi ei wneud o wahanol liwiau.

Ar gyfer blynyddoedd 6-9 (10-14 oed), rydym yn canolbwyntio ar y ffordd rydym ni'n gweld golau. Ar lefel TGAU (14-16 oed) rydym yn edrych fwy ar amsugniad a gwahaniaethau adlewyrchu. Ar gyfer Lefel A (16-18 oed), awn tu hwnt i'r sbectrwm gweledol i edrych yn agosach ar donfeddi golau lliw.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Mae'r gweithdy hwn yn gweithio'n dda fel gweithdy unigol. Fodd bynnag, mae'n cyd-fynd â'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth ar y PanCam sydd wedi ei osod ar gerbyd ExoMars. Rydym yn cynnig sgyrsiau gan rai sy'n rhan o'r prosiect hwn ac yn trafod pwysigrwydd defnyddio targedau graddnodi lliw ar gerbydau teithiau ymchwil planedol.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Nid oes elfen ymarferol i'r gweithdy hwn ar hyn o bryd, felly rydym yn fwy na bodlon i'w gyflwyno o bell. Yr unig addasiad y byddai angen i chi ei wneud fyddai sicrhau bod y sgrin/taflunydd ar gyfer y cyflwyniad wedi ei gysylltu i feddalwedd fideo-gynadledda Zoom neu Teams.

Fel opsiwn arall, rydym wedi paratoi fersiynau CA3 (11-14 oed) o'r deunyddiau sydd ar gael ar ein Hwb Allgymorth ac yn ein siop TES.