Y diffiniad symlaf o ffractal yw patrwm di-ben-draw.
Y gwir plaen yw fod ffractalau yn batrymau cymhleth iawn, ac mae eu tebygrwydd yn cael ei rannu ar draws gwahanol raddfeydd.
I ddechrau, yn hytrach na defnyddio geiriau i egluro ymhellach, gwyliwch y fideo isod.
Wnaethoch chi sylwi sut roeddech chi'n gweld yr un patrymau dro ar ôl tro, sut bynnag gwnaethoch chi chwyddo mewn i'r llun?
Mae hyn yn dangos y syniad gwych fod yr anfeidraidd yn gallu bodoli mewn gwrthrych meidraidd