Pa rifedd allwn ni ei ganfod yn yr ystafell ymolchi?
Dewch i ni weld
Fel llefydd eraill yn y tŷ, rydym yn gwneud pethau bob dydd sy'n cynnwys rhifedd heb sylweddoli hynny hyd yn oed.
Sut ydych chi'n penderfynu pryd rydych chi wedi gorffen brwsio'ch dannedd?
Ydych chi'n cyfrif sawl gwaith ydych chi'n brwsio pob dant neu ran o'r geg? Ydych chi'n amcangyfrif neu'n amseru pa mor hir rydych chi'n ei dreulio ar y dasg? Sut ydych chi'n mesur faint o bast dannedd i'w roi ar y brws?
Os ydych chi'n rhannu'r cyfleusterau ystafell ymolchi yn eich cartref, sut ydych chi'n llwyddo i reoli amser amser i sicrhau bod pawb yn gallu eu defnyddio yn y bore neu'r nos?
Faint o'r gloch mae angen i chi godi i gael amser i gael cawod yn y bore? Faint o gwsg ydych chi'n colli allan arno?
Byddai cael ystafell ymolchi sydd â dŵr rhedeg glân yn cael ei ystyried yn foethusrwydd gan lawer o bobl. Yn 2015, nid oedd gan 29% o boblogaeth y byd (tua 2.1 biliwn o bobl) fynediad at ddŵr yfed diogel*1.
Ar gyfartaledd, bydd person ym Mhrydain yn defnyddio 142 litr o ddŵr bob dydd*2. Yn ddelfrydol, mae angen i ni weithio gyda'n gilydd i leihau defnyddio dŵr ar lefel mor anghynaladwy.
Mae hyn yn golygu bod angen i ni i gyd allu amcangyfrif faint o ddŵr sydd ei angen ar gyfer pob gweithred, a sut i ddefnyddio llai.
Pam fod cawod yn defnyddio llai o ddŵr na bath?
Mae'n golygu bod yn rhaid i ni gael dealltwriaeth sylfaenol o gyfaint dŵr i chwarae ein rhan.
Sut fyddech chi'n cyfrif faint o ddŵr fyddai eich bath yn gallu'i ddal?
Os dim arall, bydd hyn o gymorth i leihau bil dŵr eich cartref, gan arbed arian i'r sawl sy'n talu eich biliau.
Fel dŵr, mae ynni yn anghenraid sylfaenol arall y mae angen i ni geisio helpu i leihau faint rydyn ni'n ei ddefnyddio ohono. Oherwydd cynnydd ym mhroblemau newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang, mae brys mawr ar weithredu.
Beth sydd gan hyn i'w wneud â'r ystafell ymolchi?
Mae gwresogi dŵr angen cryn dipyn o ynni, p'un ai trwy gawod drydan neu foeler dŵr, po boethaf y dŵr, y mwyaf o ynni sydd ei angen arno.
Mae'r sgiliau rhifedd sy'n gysylltiedig â chwarae ein rhan yn cynnwys amcangyfrif, deall y defnydd o ynni a rheoli amser.
Mae gan lawer o ystafelloedd ymolchi deils ar y waliau, mae hyn yn eu hamddiffyn rhag difrod dŵr a stêm. Mae'r adran hon yn edrych ar y rhifedd sydd ei angen i osod teils ar wal, rhywbeth y bydd angen i chi ei wneud neu gynorthwyo i'w wneud gartref efallai.
Bydd y gweithgaredd hwn yn cynnwys mesur, cyfrifo arwynebedd, faint o deils y bydd eu hangen arnoch a faint y bydd yn ei gostio.
Petai teils bob amser yn dod mewn pecynnau o 8, faint o becynnau fyddai wedi cael eu defnyddio yn eich ystafell ymolchi?
Ydyn ni wedi anghofio am rywbeth?
Os do, yna rhowch wybod i ni drwy yrru neges i nar25@aber.ac.uk.