Yn yr adran hon byddwn yn edrych ar y defnydd a wneir o sgiliau rhifedd a mathemateg wrth wneud gwelliannau i'r cartref a chrefftau.
Soniwyd am y sgiliau logistaidd sydd eu hangen i symud a threfnu dodrefn yn yr adran Mathemateg yn yr Ystafell Fyw.
Ond beth am gynllunio, adeiladu a gosod dodrefn?
Mae hyd yn oed cynllunio rhywbeth mor syml â silff yn gofyn sgiliau mesur a dealltwriaeth o drigonometreg a mecaneg.
Mecaneg? Trigonometreg?
Mecaneg yw'r maes mathemateg sy'n ymwneud â grym a mudiant. Yn achos silff wedi'i gosod ar wal, mae angen i'r gwneuthuriad allu cynnal pwysau. Bydd angen bracedi addas er mwyn ei hatal rhag cwympo pan ddefnyddir grym arni (pwysau yn yr achos hwn).
Trigonometreg yw mathemateg yr ochrau a'r onglau sy'n ffurfio trionglau.
Sut gall trionglau helpu gyda chynllunio silffoedd?
Gellir rhannu pob siâp yn drionglau er mwyn helpu i bennu onglau.
Os ydych chi'n dylunio set o silffoedd (fel silffoedd llyfrau), mae nifer o wahanol uniadau'n cael eu cynllunio, yn ddibynnol ar ddefnydd y silffoedd. Mae'n bwysig iawn cyfrifo'r onglau i sicrhau bod yr uniadau cryfaf yn cwrdd heb fylchau.
Mae cyfarwyddiadau adeiladu yn aml yn cael eu hysgrifennu/lluniadu ac mae angen sgiliau mesur, ymwybod â gofod, sgiliau mecaneg a sgiliau logistaidd.
O ran mecaneg, byddai angen i chi sicrhau eich bod wedi defnyddio sgriwiau/hoelion o'r hyd a'r trwch cywir. Os bydd y naill ddimensiwn neu'r llall yn rhy fach, ni fydd y dodrefn yn ddigon cryf. Os bydd yn rhy fawr, gallai niweidio'r defnydd a gwanhau lleoliad yr uniad. Defnyddir y math hwn o fathemateg hefyd i bennu trefn a lleoliad y cydosod.
Mae'r un wybodaeth am fecaneg yn ddefnyddiol er mwyn dewis y gosodiadau cywir er mwyn rhoi dodrefn ar waliau.
O ran prynu a gosod lloriau, mae angen i chi hefyd allu cymryd mesuriadau a chyfrifo arwynebedd.
Daw ystafelloedd, cynteddau a grisiau mewn gwahanol siapiau a meintiau. Mae hyn yn golygu y gall fod yn anos cyfrifo arwynebedd.
Wrth brynu carpedi/leino mae'n syniad osgoi gymaint o wastraff ag y bo modd, er mwyn arbed arian yn anad dim. Golyga hyn ddefnyddio siapiau, ymwybod â gofod, a sgiliau thrigonometreg er mwyn gwastraffu cyn lleied â phosib.
Gellir ystyried gwerth piel carped hefyd - sef mesuriad o hyd a nifer y dolenni edau.
Mae unrhyw beth y mae angen ei osod mewn tŷ yn gofyn bod angen gallu mesur.
Os ydych chi eisiau peiriant golchi llestri/popty/oergell/rhewgell newydd mewn man penodol, mae angen gwneud yn siŵr y bydd yn ffitio.
Gall deall cynhwysedd ein helpu i ddewis yr offer cywir. O ran lle mewn oergell a rhewgell, mae siopa am fwyd yn cynnwys y sgil o amcangyfrif faint fydd yn ffitio pan fyddwch chi'n cyrraedd adref.
Yna ceir offer trydanol llai - fel lampau, clociau larwm, hwfers, ac argraffwyr. O bryd i'w gilydd efallai y bydd angen i chi newid ffiws mewn plwg, neu'r plwg ei hun. Mae hyn yn gofyn rhywfaint o sgiliau rhifedd o ffiseg er mwyn dewis y ffiws cywir fel bod modd parhau i defnyddio'r ddyfais yn ddiogel.
Mae hynny'n hawdd! Mae gwerth ffiws wedi ei ysgrifennu arno.
Yn anffodus, pan fydd ffiws yn chwythu, gall losgi'r label papur lle mae'r wybodaeth hon nes nad yw'n bosib ei ddarllen.
Gall addurno'r tŷ ar gyfer achlysur arbennig fod yn ddifyr dros ben. Mae hefyd yn enghraifft arall o ddefnyddio sgiliau mathemategol heb sylweddoli.
Sut gall hongian tinsel gynnwys mathemateg?
Yn gyntaf, ble rydych chi'n ei hongian? Mae hyn yn gofyn am ymwybod o ofod ac amcangyfrif o ble y bydd yn ffitio ac yn creu'r argraff orau.
Yna, os yw'n cael ei hongian ar wal, rhaid penderfynu sut i'w hongian. Mae hyn yn cynnwys sgiliau mecaneg er mwyn penderfynu ar y pwyntiau glynu gorau. Mae hefyd yn gofyn cydnabod cymesuredd er mwyn sicrhau bod y tinsel yn hongian yn gytbwys.
Os caff ei hongian ar goeden, pa hyd a pha drwch tinsel sy'n rhy 'chydig neu'n ormod?
Mae'r un sgiliau rhifedd sylfaenol yn berthnasol ar gyfer goleuadau tylwyth teg, addurniadau coeden, addurniadau ffenestr, pwmpenni Calan Gaeaf, a mwy.
Os oes gennych chi blant ifanc neu anifeiliaid anwes yn y tŷ, mae'n bosib y bydd angen i chi ystyried uchder addurniadau mwy bregus.
Cafodd egwyddorion rhifedd a mathemategol celf eu hadolygu yn adran Mathemateg yn yr Ystafell Fyw.
Mae'r rhain hefyd yn berthnasol i grefftau yn ogystal â rhai o'r sgiliau sydd wedi'u crybwyll uchod - yn ddibynnol ar y prosiect crefft.
Ydyn ni wedi anghofio am rywbeth?
Os do, yna rhowch wybod i ni drwy yrru neges i nar25@aber.ac.uk.