Mathemateg yn y Garej

English

Mathemateg yn y Garej

Trosolwg byr ar fathemateg a rhifedd bob dydd mewn garej neu leoliad tebyg.

Ceir a Beiciau Modur

Wrth brynu cerbyd modur, mae angen gwybodaeth am wahanol ystadegau a ffigurau.

Maes parcio silindrog y dyfodol gyda lifft

Mae angen ystyried pethau fel: costprynu'r cerbyd yn ogystal â threth ffordd ac yswiriant; effeithlonrwydd y cerbyd mewn milltiroedd y galwyn neu bellter rhwng gwefru; dibrisiant (colli gwerth dros amser); cyflymiad; grym; capasiti; cyfrifo costau ychwanegol, treuliau a chynnal a chadw yn yr hirdymor.

Cyn gynted ag y bydd y cerbyd yn eich meddiant mae angen ei gynnal a'i gadw. Defnyddir nifer o wahanol fesurwyr i fonitro addasrwydd cerbyd ar y ffordd. Er enghraifft: Mesurydd pwysedd teiars, ffon fesur olew, lefelau gwefrydd a mesurydd dyfnder gwadn teiars. Yn ogystal â gwybod sut i fesur y pethau hyn, mae'n bwysig eu deall.

Mae gofyn rhesymeg rifiadol ar gyfer tasg mor syml ag ystyried pa bryd i ddefnyddio eich cerbyd eich hun yn hytrach na theithio mewn modd arall. Ydy hi'n rhatach mynd ar y bws/trên? A yw'n ddigon agos i gerdded/beicio? Beth yw'r cyfyngiadau amser ar gyfer y daith?

Wrth yrru, mae angen i chi allu darllen gwahanol ddeialau a mesuryddion ar y dangosfwrdd - sy'n gofyn sgiliau rhifedd. Mae angen ymwybod â gofod hefyd a deall pellteroedd stopio. Yna mae gofyn cynllunio taith, sy'n cynnwys penderfynu ar y llwybr ei hun ac ar unrhyw fannau lle byddwch yn stopio i dorri'r siwrnai, er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd pen y daith yn ddiogel ac ar amser.

Storfa

Mae rhai pobl yn defnyddio garej neu adeilad allanol fel storfa yn unig.

Gadewch i mi ddyfalu, rhaid i chi wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o le?

Ydy, mae ymwybyddiaeth ofodol yn ffactor allweddol. Os ydych chi'n am barcio eich car mewn garej, rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod yn ffitio trwy'r drws, ond hefyd bod yr adeilad yn ddigon llydan oddi mewn iddo i allu agor drws y car a dod allan.

Blwch wedi'i orlenwi ag eitemau digyswllt

Wrth storio llawer o wahanol eitemau yn rhywle, mae angen i chi hefyd ystyried cynhwysedd a chryfdery cynwysyddion a ddefnyddir. Mae'n ddefnyddiol hefyd cael system ddidoli er mwyn gallu dod o hyd i bethau ac er mwyn i'r eitemau a ddefnyddir yn fwyaf aml fod ar gael yn rhwyddach na'r rhai nad ydynt wedi eu cyffwrdd ers blynyddoedd.

Mae logisteg arall cysylltiedig â storio yn cynnwys sut i bentyrru cynwysyddion mewn modd sy'n ddiogel i chi ac i'r gwrthrychau sy'n cael eu cadw ynddynt. Bydd yr holl sgiliau hyn gyda'i gilydd yn eich galluogi i wneud yn fawr o'r lle sydd ar gael i storio mewn ystafell neu adeilad.

Gweithdy

Gellir troi garej neu adeilad allanol arall yn weithdy.

Crogwal o amrywiol offer llaw

Edrychir ar fathemateg a rhifedd cysylltiedig â defnyddio offer a chreu pethau yn ein hadran ar Fathemateg DIY.

Bwyd Anifeiliaid

Os ydych chi'n cadw anifeiliaid awyr agored, fel cwningod, ieir, geifr neu geffylau, mae'n bosib mai mewn garej neu adeilad allanol arall rydych chi'n storio'r bwyd.

Mae ein hanifeiliaid/anifeiliaid anwes yn dibynnu arnom ni i sicrhau diet iach ar eu cyfer a sicrhau trefn ar gyfer unrhyw feddyginiaeth.

Cenau gwiwer yn cael ei fwydo â llaw gyda chwistrell

Mae hyn yn golygu bod angen i ni ddefnyddio ein gwybodaeth am Symiau Dyddiol a Argymhellir, measur bwyd ac ystyried más yr anifail, a gwneud yr un peth ar gyfer meddyginiaeth gan ddefnyddio gwahanol ddyfeisiau mesur.

Cysylltwch â ni

Ydyn ni wedi anghofio am rywbeth?

Os do, yna rhowch wybod i ni drwy yrru neges i nar25@aber.ac.uk.