Mae'r adran hon yn ymdrin â'r sgiliau mathemategol sy'n gysylltiedig â chreu, cynnal a mwynhau gardd.
Ceir gwelyau blodau mewn amrywiaeth o wahanol siapiau, meintiau, dyfnder ac uchder.
Pe byddem ni am greu lle plannu hirsgwar. Sut byddech chi'n sicrhau bod y corneli'n cael eu gosod a'u hongli'n gywir?
Gyda phren mesur ac onglydd?
Mae'r offer yma'n gweithio'n dda yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, anaml y mae gardd yn ddigon gwastad i ddefnyddio'r offer yn gywir.
Yn lle hynny, gallwn ddefnyddio pegiau a llinyn yn ogystal â gwybodaeth sylfaenol am theorem Pythagoras.
Onid ar gyfer trionglau mae hynny?
Ie, ond fe'i defnyddir hefyd i greu onglau sgwâr. Os yw'r ongl yn gywir, dylai peg 3 metr ar hyd un ochr ac un arall 4 metr ar hyd yr ochr arall fod 5 metr oddi wrth ei gilydd.
Mae'r weithred o balu yn cynnwys mecaneg lifer a grym, yn enwedig pan fydd angen cael gwared ar greigiau.
Mae capasiti bwcedi neu fagiau yn bwysig ar gyfer symud baw, yn ogystal ag amcangyfrif y màs cyfan - oes modd i chi ei gario'n ddiogel wedyn?
Os ydych yn gosod lawnt newydd, bydd angen i chi ddefnyddio mesuriadau er mwyn cyfrifo sawl rholyn o dywyrch sydd eu hangen.Gall hyn fod yn fyw cymhleth gan fod tywyrch yn aml yn cael eu gwerthu mewn llathenni, sy'n golygu bod angen cyfnewid.
Mae ail-hadu lawnt yn debyg o ran defnyddio mesuriadau ac arwynebedd arwynebedd i gyfrifo faint o hadau glaswellt sydd eu hangen.
Mae angen rhywfaint o sgiliau rhifedd ar er mwyn torri gwair hefyd. Yn gyntaf, pa un yw'r offeryn gorau ar gyfer y swydd? Arwynebedd y lawnt, y pellter o'r tŷ, a chostau rhedeg fydd yn pennu hyn.
Mae rhai peiriannau torri lawnt yn casglu'r glaswellt a dorrir er mwyn cael gwared arno, ac os felly bydd angen i chi hefyd ystyried capasati'r peiriant wrth ei brynu a'i ddefnyddio. Sawl gwaith y bydd angen i chi ei wagio? Sut gallwch chi leihau'r pellter y mae angen i chi gario'r glaswellt a dorrir yn ystod y dasg?
Mae mwy o offer pŵer nag erioed, gan gynnwys peiriannau torri glaswellt, bellach yn cael eu pweru gan fatri. Pa mor aml y bydd angen eu hailwefru? Faint o'r lawnt y gellir ei dorri mewn un gwefriad?
Nid llawer o bobl sy'n mwynhau torri'r lawnt, felly rydym yn defnyddio mathemateg sy'n seiliedig ar benderfyniadau yn awtomatig wrth gynllunio ein llwybr er mwyn cwblhau'r dasg mor gyflym ac effeithlon â phosib.
Mae creu eich palmant eich hun yn debyg iawn i deilsio (Mathemateg yn yr Ystafell Ymolchi) neu'r lloriau (Mathemateg DIY) o ran ei ddefnydd o fathemateg.
Mae gan ddecin yr un fathemateg a'r un mecaneg ag sydd wedi ei gynnwys yn ein hadran Mathemateg DIY.
Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu rhoi graean ar ran o'ch gardd, mae angen ystyried dyfnder hefyd. Yn hytrach na chyfrifo dim ond y rhan fydd yn cael ei gorchuddio, mae angen cyfrifo'r cyfaint.
Ar ôl cyfrifo siâp, maint a dyfnder, ac yna defnyddio mecaneg syml i'w balu, mae angen i cyfrifo faint o leinin sydd ei angen ar gyfer y pwll.
Mae hyn yn cynnwys y gallu i gyfrifo arwynebedd, yn ogystal â faint o leinin sydd ei angen yn ychwanegol ar yr ymylon i helpu i'w binio yn ei le.
Siawns nad ellid cael darn enfawr a'i dorri i faint...
Mae hynny'n bosib. Fodd bynnag, rydych eisoes yn defnyddio mathemateg i amcangyfrif yr hyn fyddai'n cael ei ystyried yn fwy na digon mawr ar gyfer y dasg. Hefyd, mae leinin pyllau yn cael ei werthu fesul metr sgwâr sy'n golygu y byddai'n wastraff arian.
Yn olaf, ar ôl palu eich pwll, mae'n helpu i gael syniad o'r cyfaint y bydd yn ei ddal. Nid helpu i amcangyfrif y gost ar fesurydd dŵr yn unig mae hyn, na pha mor hir y bydd yn ei gymryd i'w lenwi, ond bydd hefyd yn eich helpu i benderfynu ar y nifer a'r mathau o blanhigion a physgod.
Daw'r rhain mewn llawer o wahanol feintiau a chynlluniau. Felly, mae angen i chi ddefnyddio ymwybyddiaeth a mesuriadau gofodoli ganfod y maint gorau at y diben a'r lle sydd ar gael.
Mae angen i chi hefyd ystyried lleoliad y tŷ gwydr er mwyn gwneud yn fawr o olau'r haul ac er mwyn ei ddiogelu rhag gwyntoedd cryfion. Mae hyn yn cynnwys deall onglau a phwyntiau cwmpawd.
Er mwyn adeiladu eich tŷ gwydr eich hun, mae gofyn yr un sgiliau mathemategol ag a welir yn rhan adeiladu dodrefn ein hadran Mathemateg DIY.
Pan fydd tŷ gwydr wedi'i osod, rhifedd sy'n golygu bod modd cynnal tymheredd a lleithder addas o fewn y strwythur i dyfu planhigion o'ch dewis
Os ydych chi'n dymuno adeiladu wal derfyn neu ffens, bydd angen i chi ddeall cynlluniau a mapiau yn gyntaf er mwyn sicrhau eich bod yn ei gosod yn y lle iawn.
Pan fyddwch yn gwybod lle i'w gosod, mae angen i chi ddefnyddio mesuriadau hyd, lled ac uchder i benderfynu faint o frics/cerrig/paneli/pyst sydd eu hangen ar gyfer y dasg.
Faint o sment neu briddgalch fydd ei angen? Er y gellir ei brynu wedi'i gymysgu ymlaen llaw, os yw'n brosiect hir efallai y byddwch yn dewis prynu'r cydrannau i'w cymysgu eich hun yn ôl yr angen. Bydd hyn yn lleihau gwastraff ond mae angen gwybodaeth am gymarebau.
Ystyrir mecaneg sylfaenol wrth benderfynu pa mor ddwfn dylai'r pyst neu'r sylfeini fod er mwyn cynnal y strwythur. Maent hefyd yn berthnasol er mwyn penderfynu ar gyfyngiadau uchder oherwydd gwynt.
Defnyddir trigonometreg sylfaenol a gwybodaeth am siapiau er mwyn pennu onglau.
Mae creu gwrych yn gofyn sgiliau tebyg i adeiladu wal/ffens. Y prif wahaniaeth yw bod angen tyfu'r gwrych yn ei le.
Er mwyn sicrhau nad oes bylchau, bydd angen i chi wybod i ba faint y bydd y planhigyn a ddewiswyd yn tyfu, i ba uchder a pha mor ddwfn.
Mae amseru hefyd yn sgil rhifedd sy'n angenrheidiol er mwyn meddwl faint o amser y bydd y gwrych yn ei gymryd i dyfu a pha bryd i'w blannu.
Mae rhai pobl yn mynd â gwrychoedd i lefel hollol wahanol trwy greu gweithiau celf gyda choed a/neu lwyni, arfer a elwir yn docwaith.
Fel llawer o greadigaethau artistig eraill, mae hyn yn gofyn gwybodaeth am siapiau, cymesuredd, ymwybod â gofod, a graddio. Ar ben hyn, er mwyn sicrhau bod y gwaith celf yn dal yn fyw ac wedi ei gynnal yn llwyr, mae angen gwybodaeth dda am fecaneg.
Mae'r sgiliau mathemategol i gyd a ddefnyddir i adeiladu/gosod/peintio/trin dodrefn awyr agored wedi eu cynnwys yn ein hadran Mathemateg DIY.
Os bydd angen trydan ar gyfer nodwedd barhaol yn yr ardd - fel ffynnon neu wresogydd patio, neu offer - fel peiriannau torri gwair neu strimwyr, y brif ystyriaeth yw hyd y cebl.
O ran nodweddion parhaol, bydd angen i chi sicrhau bod y cebl yn ddigon hir i gyrraedd soced plwg addas. Efallai na fydd y cebl yn llinell syth oherwydd mae'n bosib y bydd arnoch chi eisiau cuddio'r cebl, i atal pobl rhag baglu drosto, neu ei gadw rhag difrod damweiniol (er enghraifft: mynd drosto gyda pheiriant torri gwair).
Ar gyfer offer pŵer â chebl, mae angen i ni sicrhau bod y cebl yn gallu cyrraedd i le bynnag y byddwn yn gweithio. Mae angen i ni hefyd ystyried llwybr y cebl er mwyn sicrhau nad ydym yn peri difrod iddo'n ddamweiniol, yn baglu drosto, nac yn bwrw unrhyw beth drosodd gyda'r cebl.
Mae tyfu planhigion o hadau yn gofyn ein bod yn rhagweld cyfradd llwyddiant tyfiant Mae'n hawdd iawn plannu gormod o hadau a pheidio cael digon o le neu digon o botiau i'w symud iddynt wrth i'r hadau dyfu.
Mae angen gwybodaeth am fisoedd a thymhorau er mwyn sicrhau eich bod yn plannu ar yr adeg gywir o'r flwyddyn. Fel arall, efallai na fyddant yn tyfu'n iawn a byddai hynny'n wastraff amser ac arian.
Mae ymwybod â gofodol yn sgil rhifedd allweddol ar gyfer yr ardd. Os yn tyfu bresych, mae angen llawer o le arnynt ar yr wyneb y pridd. Os yn tyfu tatws, mae angen llawer o le arnynt i wasgaru o dan y ddaear. Byddai angen pridd dyfnach ar bannas a moron er mwyn tyfu'n iawn.
Mae angen rhywfaint o fecaneg ar rai planhigion i'w cynnal. Er enghraifft, yn fuan iawn gall planhigion tomato fynd yn rhy drwm â ffrwythau i gynnal eu hunain ac felly mae angen eu cysylltu i strwythurau ychwanegol sy'n eu cynnal (cansenni gardd neu ddelltwaith).
Efallai y bydd gennych chi gan dyfrio, pibell ddŵr a/neu gasgen ddŵr yn yr ardd
Mae gan yr eitemau hyn gapasiti a/neu gyfraddau llif sy'n ein helpu i benderfynu ar yr offer a'r addasyddion gorau ar gyfer y dasg.
Mae angen cynllunio llwybrau er mwyn lleihau'r pellter a deithir a'r amser a gymerir i gyflawni tasg. Yn ogystal, os ydych yn defnyddio pibell ddŵr, mae angen yr un ystyriaeth wrth gynllunio ag yn achos ceblau trydan.
Os byddwch am osod casgen ddŵr ar gyfer eich system ddraenio, bydd angen ymwybod â gofod er mwyn dewis maint addas a sgiliau mesur er mwyn ei gysylltu'n gywir i'r system gwteri presennol.
Mae gwahanol fathau o fwyd planhigion, chwynladdwyr, gwrtaith ac chynnyrch ymlid pla ar gael.
Daw rhai fel hylifau crynodedig y mae angen ychwnaegu cymhareb benodol o ddŵr iddynt.
Daw eraill ar ffurf pelenni neu bowdrau y mae angen eu mesur yn gywir.
Wrth ddefnyddio rhai o'r rhain efallai y bydd angen i chi ystyried yr amseru o ran yr amser gorau i'w defnyddio.
Mae llawer o gemau gardd gwahanol. Bydd pob un ohonynt yn cynnwys rhyw fath o fathemateg/rhifedd.
Rydyn ni wedi rhoi sylw i rai o'r rhain yn ein tudalen ar Mathemateg yn yr Ystafell Fyw.
Beth am gicio pêl-droed o gwmpas yr ardd?
Mae llawer o fathemateg mewn chwaraeon. Popeth o theori gêm i fecaneg a ffiseg.
Er enghraifft, mae pêl-droedwyr yn defnyddio mathemateg ddatblygedig iawn wrth chwarae heb sylweddoli hynny. Faint o rym i'w ddefnyddio i daro'r bêl; ar ba ongl i osod y gic; ymwybod â gofod o ran y chwaraewyr eraill, y bêl, a'r goliau; ystadegau chwaraewyr; safle'r tîm; a llawer mwy.
Mae mathemateg diddorol i'w weld mewn natur o bob math.
Mae'r rhain yn cynnwys ffractalau, troellau, cymesuredd, a dilyniannau.
Er enghraifft: Mae dilyniant rhifau Fibonacci (1, 1, 2, 3, 5, 8, 13 ...) yn cysylltu â natur llawer o bethau byw. O nifer y petalau ar flodyn i nifer y troellau ar fochyn coed neu bîn-afal.
Ydyn ni wedi anghofio am rywbeth?
Os do, yna rhowch wybod i ni drwy yrru neges i nar25@aber.ac.uk.