Mathemateg Bwytadwy

English

Mathemateg Bwytadwy

Nod y gweithdy hwn yw ymarfer y rhifedd yr ydych yn dod ar ei draws wrth bobi/coginio mewn cegin. Mae'r rysáit ar ddiwedd pob adran yn un gwir, sy'n gwneud hwn yn ymarfer mathemateg da i'w wneud gartref, gyda chanlyniadau blasus.

Gwnewch yn siŵr bod gennych oruchwyliaeth oedolyn wrth bobi.

Trosi unedau Imperial i Fetrig

Os oes gennych rysáit teuluol wedi'i throsglwyddo trwy'r cenedlaethau, y siawns yw y bydd y pwysau mewn pwys (lb) ac owns (oz) - yr enw ar hyn yw'r 'system Imperial'. Erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf o gloriannau/tafolau ac offer cegin yn defnyddio'r 'System Fetrig', sef cilogram (kg) a gram (g). Felly sut mae trosi mesuriadau imperial yn fetrig?

Y dyddiau hyn rydym yn tueddu i fod â dyfais sydd wedi'i gysylltu â'r rhyngrwyd wrth law, a thrwy chwiliad cyflym gallwch yn hawdd ganfod sawl gram sydd mewn 8 owns. Fodd bynnag, beth petaech chi'n cael parti pen-blwydd ac angen pobi cacen, ond tydi'r wi-fi ddim yn gweithio?

Cam 1

Os ydych yn defnyddio rysáit sy'n rhestru lb ac oz, bydd angen i chi eu trosi nhw i gyd i oz. I wneud hyn mae angen i chi wybod bod 1lb = 16oz.

Enghraifft: Mae rysáit angen 1lb 6oz o flawd. Sawl owns yw hyn? 1lb = 16oz felly 1lb 6oz = 16oz + 6oz = 22 owns

Ymarfer

Gweithiwch allan sawl owns sydd ym mhob un o'r canlynol:

  1. 3 lb
  2. 1 1/2 lb
  3. 3/4 lb
  4. 4 lb 10 oz
  5. 2 1/8 lb

Cam 2

Nawr mae gennych rysáit lle mae'r holl fesuriadau mewn ownsys. Sut mae trosi hwn yn gramau? Pe byddem yn hollol gywir, byddem yn defnyddio 1oz = 28.35g. Fodd bynnag, oherwydd ein bod mewn cegin yn hytrach na labordy, ac oherwydd y byddwn yn defnyddio'r un gwerth trwy'r rysáit cyfan, mae'n symlach ac yn fwy cyffredin defnyddio 1oz = 25g

Enghraifft: Mae rysáit angen 4oz o siwgr, sawl gram yw hynny? Gan ddefnyddio 1oz = 25g, 4oz = 4 x 25g = 100g

Ymarfer

Gan ddefnyddio 1oz = 25g cyfrifwch sawl gram sydd ym mhob un o'r isod:

  1. 2 oz
  2. 3 1/2 oz
  3. 1/4 oz
  4. 5 3/8 oz
  5. 1 lb 2 oz

Rysáit: Cacen Siocled (heb glwten)

Nawr, dewch i ni brofi hyn i gyd gyda'r rysáit isod.

  1. Cynheswch y popty i 180°C ac irwch dun cacen 20cm (8 modfedd).
  2. Torrwch 9oz o siocled plaen i mewn i bowlen/dysgl dal gwres, yna rhoi'r ddysgl dros ddŵr sy'n mudferwi er mwyn toddi'r siocled.
  3. Mewn dysgl fawr, curwch y 4oz o fenyn a'r 3 1/2oz o siwgr mân gyda'i gilydd nes bod y gymysgedd yn ysgafn.
  4. Ychwanegwch ddwy ran o dair o'r siocled sydd nawr wedi toddi, ynghyd ag 1/2lb o friwsion cnau almon a 4 melynwy. Curwch y gymysgedd yn dda.
  5. Mewn dysgl arall, chwipiwch 4 gwynwy nes ei fod yn mynd yn galed ac yn ffurfio copa stiff. Nawr, plygwch hwn i'r gymysgedd cacen.
  6. Trosglwyddwch y gymysgedd i'r tun pobi, gwneud yr arwyneb yn wastad, ac yna ei bobi yn y ffwrn am 50-55 munud.
  7. Gadewch iddo oeri am 5-10 munud cyn ei dynnu o'r tun a'i roi ar rac i oeri
  8. Wrth iddo oeri, rhowch 2oz o fenyn gyda gweddill y siocled sydd wedi toddi sy'n weddill mewn padell neu sosban. Cynheswch y cyfan yn ysgafn, gan droi'r gymysgedd yn gyson nes ei fod wedi toddi. Yna arllwyswch dros ben y gacen.
  9. Addurnwch gydag 1oz o naddion siocled gwyn neu almonau wedi'u sleisio.

Ymarfer

  1. Y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw penderfynu pa gynhwysion sydd eu hangen (mae 6 chynhwysyn gwahanol i gyd).
  2. Faint o bob cynhwysyn sydd ei angen?
  3. Nawr, sawl gram o bob un? Cofiwch ddefnyddio 1oz = 25g.
  4. Rhowch eich atebion ar brawf drwy ddilyn y rysáit uchod - pwyswch bopeth (heblaw am yr wy) mewn gramiau fel yr oeddech wedi'i gyfrif.

Addasu rysáit i'w wneud yn fwy neu'n llai

Wrth bobi, rydych fel arfer yn dechrau gyda rysáit sy'n gwneud swm penodol. Beth os ydych chi am bobi rhywbeth sy'n fwy o faint neu'n llai na'r swm penodol hwnnw?

I wneud hyn rydym angen gwybod am gynyddu a lleihau yn gymesur. Mae hyn yn golygu cymryd rysáit a chodi neu ostwng y mesuriadau i gael y swm rydym ei eisiau.

Cam 1

Faint ydyn ni ei angen i gynyddu neu leihau'r rysáit yn gymesur?

Enghraifft: mae rysáit yn gwneud 12 cacen fach ond rydym angen 24. Mae hyn yn golygu bod angen inni ddyblu'r rysáit.

Ymarfer

Faint ydyn ni ei angen i gynyddu neu leihau pob un o'r ryseitiau isod?

  1. Mae rysáit yn gwneud 24 bisgeden, rydym angen 12
  2. Mae rysáit yn gwneud 8 éclair, rydym angen 24
  3. Mae rysáit angen 3 wy ond dim ond 2 sydd gennym ni
  4. Mae rysáit angen 1kg o flawd ond dim ond 750g sydd gennym ni
  5. Rydym angen 36 cacen fach ond mae'r rysáit yn gwneud 24

Cam 2

Nawr ein bod yn gwybod beth sydd angen i ni ei wneud i'r rysáit, mae angen gweithio allan sut mae hynny'n newid faint o gynhwysion sydd eu hangen. Y peth pwysicaf i'w gofio yw ein bod angen newid y cyfan yr un fath.

Enghraifft: os oes angen haneru rysáit, rydym angen haneru swm pob cynhwysyn (rhannu pob swm â 2)

Un broblem fawr wrth gynyddu neu gwtogi ryseitiau pobi yw gwneud yn siŵr ei fod yn bosibl ac a oes gennym ddigon o'r holl gynhwysion. Nid oes y fath beth â hanner wy er enghraifft, felly ni fydd yn bosibl lleihau rysáit sy'n gofyn am hyn.

Ymarfer

Gweithiwch allan faint o bob cynhwysyn fyddai ei angen ar gyfer yr isod:

  1. Mae rysáit angen 800g o flawd, 400g o siwgr a 400g o fenyn ar gyfer crymbl mawr. Rydyn ni ond eisiau gwneud crymbl hanner y maint hwnnw.
  2. Mae rysáit angen 3 wy, 600g o flawd a 300g siwgr, ond dim ond 2 wy sydd gennym ac rydym eisiau gwneud gymaint ag y gallwn.
  3. Mae rysáit angen 250g o flawd, 100g o fenyn a 2 wy. Rydyn ni eisiau gwneud tair gwaith hynny.
  4. Rydym angen lluosi x 150% rysáit sydd angen 100g o flawd, 200g o friwsion cnau almwn a 50g o siwgr.
  5. Mae rysáit angen 2 wy, 400g o flawd a 200g o siwgr. Rydym eisiau gwneud cymaint ag y gallwn gyda'r hyn sydd gennym, sef 6 wy, 1kg o flawd a 750g o siwgr

Rysáit: Bisgedi darnau tri siocled

Nawr, dewch i ni brofi hyn i gyd gyda'r rysáit isod.

Y broblem gyda'r rysáit hon yw ei bod wedi dod o fecws, felly mae'r meintiau a restrir wedi'u cynllunio i wneud oddeutu 600 o fisgedi mewn cegin maint diwydiannol.

I ddefnyddio'r rysáit hwn gartref, ar gyfer pobiad o faint mwy addas, bydd angen i ni ei wneud yn llai.

Ymarfer

  1. Yn gyntaf un, mae angen i ni weithio allan nifer lleiaf y bisgedi y gallwn eu gwneud. Yr wyau fydd yn pennu hyn - faint o fisgedi fyddai rysáit wedi'i lleihau i ddefnyddio 1 wy yn ei wneud?
  2. I leihau'r gweddill yn gymesur i ddefnyddio 1 wy yn unig, bydd angen i chi rannu'r holl feintiau ag 20 (sef nifer gwreiddiol yr wyau)
  3. Ydych chi'n barod i roi prawf ar eich rysáit sydd bellach wedi'i leihau yn gymesur? Mae'r cyfarwyddiadau ar gyfer gwneud y bisgedi hyn isod.

Cyfarwyddiadau'r Rysáit

  1. Mewn dysgl, chwipiwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd nes eu bod yn ysgafn.
  2. Ychwanegwch yr wy a'r fanila a'u cymysgu'n dda
  3. Mewn dysgl fawr arall, cymysgwch y blawd, powdr coco, a'r soda pobi gyda'i gilydd
  4. Trowch y gymysgedd gyntaf i mewn i'r ail
  5. Plygwch y tri math gwahanol o ddarnau siocled i mewn i'r cyfan.
  6. Gorchuddiwch y ddysgl ac yna ei rhoi yn yr oergell am o leiaf 24 awr - mae'r cam hwn yn gwneud y bisgedi yn feddalach
  7. Tynnwch y toes bisgedi a'u gadael allan ar dymheredd yr ystafell am 20-30 munud
  8. Cynheswch y popty/ffwrn i 170°C/marc nwy 3 a rhowch bapur gwrthsaim neu bapur pobi ar ddau hambwrdd pobi mawr
  9. Rhannwch y gymysgedd a'i rolio i 30 o beli o faint cyfartal
  10. Rhowch y peli ar yr hambyrddau gyda digon o le iddynt ymledu/ehangu
  11. Pobwch am 12-14 munud. Trosglwyddwch y bisgedi ar eu papur pobi i rac oeri
  12. Mwynhewch!

Cwpanaid

Mae un math arall o fesur sy'n cael ei ddefnyddio wrth goginio/pobi, sef cwpanaid (= llond cwpan). Mae'r rhain yn mesur cynhwysion yn ôl cyfaint yn hytrach na phwysau.

Felly, pa mor fawr yw cwpanaid?

Os edrychwch o gwmpas eich cegin, fe welwch gwpanau sydd o sawl siâp a maint gwahanol. Pa un ddylech chi ei ddefnyddio?

Mae'r ateb yn dibynnu ar y rysáit. Mae'n haws os yw rysáit yn rhestru gwerth pob cynhwysyn yn ôl cwpanaid. Pam?

Cam 1

Cyn belled â bod yr holl fesuriadau yn ôl cwpanaid, does dim ots pa faint yw'r cwpan, cyn belled â'ch bod chi'n defnyddio'r un cwpan ar gyfer pob un ohonyn nhw. Rydych wedyn yn cadw'r gyfran yr un peth.

Enghraifft 1: Mae rysáit angen 2 gwpanaid o flawd, 1 cwpanaid o fenyn ac 1 cwpanaid o siwgr. Mae'r holl gynhwysion yn cael eu mesur yn ôl cwpanaid ac felly gallwn ddefnyddio unrhyw gwpan.

Enghraifft 2: Mae rysáit angen 1 cwpanaid o flawd, 1 wy maint canolig a 1/2 cwpanaid o laeth. Nid oed modd defnyddio cwpan o unrhyw faint yma oherwydd bod yr wy yn werth penodol ac nid yn fesur cwpanaid.

Cofiwch, po fwyaf yw'r cwpan a ddewiswch po fwyaf yw'r rysáit y byddwch yn ei greu yn y diwedd.

Ymarfer

Pa rai o'r rysáit(ryseitiau) isod y gallwn ddefnyddio unrhyw gwpan ar ei gyfer? Os na allwn ddefnyddio unrhyw gwpan, pam?

  1. Mae rysáit angen 3 chwpanaid o siwgr, 1 cwpanaid o surop a 2 gwpanaid o geirch
  2. Mae rysáit angen 1 cwpanaid o flawd plaen, 1/4 cwpanaid o fenyn ac 1 llwy de o bowdwr codi
  3. Mae rysáit angen 1 cwpanaid o datws wedi'u sleisio, 1 llond llwy de o fenyn a 1/2 cwpanaid o fadarch wedi'u sleisio
  4. Mae rysáit angen 2 wy, 1/4 cwpanaid o laeth, 1/8 cwpanaid o fenyn, a phupur wedi'u falu i roi blas

Cam 2

Felly, beth os yw'r rysáit yn cynnwys eitemau nad ydyn nhw'n cael eu mesur fesul cwpanaid (fel wyau) neu pan fo angen i chi wneud yr union swm a nodwyd? Ar gyfer hyn mae angen i chi wybod cyfaint 'cwpanaid swyddogol'.

Cwpanaid cyfreithiol a ddefnyddir yn yr UDA ar gyfer mesuriadau coginio yw 240ml. Felly, pan fydd angen i chi drosi'r cynhwysion yn fililitrau (ml), byddai'n well defnyddio jwg (yn enwedig ar gyfer cyfrifo rhannau cwpanaid) yn hytrach na chlorian/tafol neu gwpan yfed.

Pam ydyn ni'n trosi i fililitr (ml) ac nid gram? Os nad ydych yn siŵr pam, ewch ati i bwyso cwpan yn llawn o wahanol wrthrychau a chymharwch y canlyniadau.

Ymarfer

Troswch bob un o'r symiau rysáit isod i ddefnyddio mililitr (ml) yn hytrach na maint cwpanaid.

  1. 2 gwpanaid o flawd, 1 cwpanaid o fenyn, 50ml o ddŵr oer
  2. 1 wy, 1 1/2 cwpanaid o flawd plaen, 1/4 cwpanaid o laeth
  3. 1/3 cwpanaid o india-corn, 1 cwpanaid o frest cyw iâr wedi'i sleisio, 1 llwy de o garlleg
  4. 2 gwpanaid o basta am bob 3 o bobl mewn 500ml o ddŵr, rydych angen coginio pasta i 4

Rysáit: Pasta a saws Bolognese 'rhwydd a chyflym' (ar gyfer 4)

Nawr, dewch i ni brofi hyn i gyd gyda'r rysáit isod.

  1. Llenwch sosban fawr 3/4 yn llawn o ddŵr tap oer a'i rhoi ar hob ar y gosodiad uchaf er mwyn codi'r dŵr i dymheredd berwi
  2. Wrth aros i'r dŵr ferwi, arllwyswch 1 llwy fwrdd o olew olewydd i mewn i sosban sauté fawr (bydd padell ffrio sydd â chaead hefyd yn iawn)
  3. Ychwanegwch 1 llwy de o garlleg wedi'i falu at yr olew, ynghyd â 2 lwy de o berlysiau Eidalaidd a 3 chwpanaid o friwgig cig eidion/quorn i'r olew a'i gynhesu ar dymheredd canolig. Trowch y cyfan bob ychydig o funudau i'w atal rhag glynu i'r gwaelod.
  4. Pan ddaw'r dŵr i'r berw, ychwanegwch 2 gwpanaid o basta yn ofalus a throi'r tymheredd i lawr i ffrwtian/mudferwi.
  5. Ychwanegwch 1 1/2 cwpanaid o fadarch wedi'u sleisio a 2/3 cwpanaid o india-corn i'r badell sauté a'u troi am ddau funud
  6. Arllwyswch 500ml o bassata tomato i'r badell sauté, ynghyd â thun (tua 400g) o domatos hirgrwn (plum tomatoes) wedi'u plicio a llwy fwrdd o biwrî tomato.
  7. Gadewch i'r bolognese fudferwi nes bod y pasta wedi coginio i'r meddalwch yr ydych yn ei hoffi.
  8. Rhowch y ddau ar blatiau a mwynhewch.

Ymarfer

  1. Fel gydag unrhyw rysáit rhaid i chi gael y cynhwysion yn barod yn gyntaf. Faint o bob cynhwysyn y mae'r rysáit yn gofyn amdano (mae 10 cynhwysyn yn ogystal â dŵr tap).
  2. Gan fod rhai mesuriadau yn ôl cwpanaid, ond nid pob un, bydd angen i chi drosi'r rhain yn fililitrau (ml).
  3. Pan fyddwch yn barod, rhowch gynnig ar y rysáit.

Os ydych chi am gael saws bolognese mwy trwchus, paratowch hwnnw yn gyntaf ac unwaith y bydd yr holl beth yn mudferwi, dechreuwch ferwi'r dŵr a choginio'r pasta.

Tymheredd

Yn y Deyrnas Unedig, mae'r rhan fwyaf o'n poptai/ffyrnau offer coginio yn mesur tymereddau yn ôl marc nwy neu °C (gradd Celsius). Mae hyn yn golygu bod llyfrau coginio sydd wedi'u cynhyrchu ym Mhrydain yn rhoi tymereddau popty yn y ddau fesur.

Mae rhai gwledydd, fel yr Unol Daleithiau, yn defnyddio °F (gradd Fahrenheit) ar eu hoffer a'u ryseitiau.

I drosi °F i °C bydd angen i chi wybod y fformiwla:

(°F - 32) x 5/9 = °C

Er enghraifft, os ydym angen trosi 50°F i °C byddai'n: (50°F - 32) x 5/9 = 10°C

Ymarfer

Defnyddiwch y fformiwla uchod i gyfrifo'r tymereddau canlynol:

  1. 100°F mewn °C
  2. 300°F mewn °C
  3. 450°F mewn °C
  4. 180°C mewn °F