Mathemateg yn y Stydi

English

Mathemateg yn y Stydi

Mae rhai pobl yn ddigon ffodus i gael stydi yn eu cartref, bydd eraill yn defnyddio'r bwrdd bwyd, cornel yr ystafell wely neu fan arall yn y cartref.

Ar gyfer yr adran hon, rydym ni'n ystyried y stydi fel lle ar gyfer gwaith cartref, cyfrifiadur(on) a gwaith papur y cartref.

Gadewch i ni nawr edrych ar rywfaint o'r fathemateg sy'n rhan o'r tasgau hyn.

Cyfrifiaduron

Wrth brynu cyfrifiadur neu ddyfais newydd, mae angen rhywfaint o ddealltwriaeth o rifedd er mwyn dewis yr un gorau i ateb eich anghenion. Gallai prynu rhywbeth sy'n anaddas i'r diben fod yn wastraff o arian.

Nid sôn yn unig am y sgiliau mathemateg sylfaenol a ddefnyddir i gyfrifo pa mor drwm/mawr yw gliniadur rydym ni, nac am faint o le sydd ei angen ar gyfer y tŵr a/neu'r monitor.

Rhaid cofio hefyd am fanylion y cyfrifiadur/y ddyfais ei hun. Rhoddir gwerthoedd y prosesydd mewn GHz, y systemau gweithredu mewn didau, a mesurir cof a lle storio mewn MB/GB/TB.

Tamaid o sgrîn yn dangos gosodiadau'r ddyfais, yn tynnu sylw at bresenoldeb GHz, didau, a GB.

Mae gliniaduron a dyfeisiadau'n dangos y pŵer sydd ar ôl yn y batri mewn canrannau, sy'n golygu bod yn rhaid i ni wedyn amcangyfrif yr amser sydd ar ôl cyn bod angen i ni ailwefru dyfais.

Argraffyddion

Mae inc argraffydd yn ddrud. Felly mae angen i ni ystyried costau wrth brynu a defnyddio argraffydd.

Os ydych chi'n prynu argraffydd, mae angen i chi ddod o hyd i'r fargen orau. Byddai hyn yn golygu cyfrifo'r costau. Gallai argraffydd ymddangos yn rhad o'i gymharu ag eraill, ond beth yw pris y cetris inc? Weithiau gall set newydd lawn o getris inc gostio mwy na'r argraffydd gwreiddiol. Ar adegau eraill gall argraffydd sy'n ymddangos yn ddrud arbed arian i chi yn y tymor hir oherwydd pris yr inc.

Amrywiaeth o getris inc i argraffydd

Mae dealltwriaeth o fesuriadau papur hefyd yn fanteisiol i ddibenion argraffu. Mae'r meintiau yn ystyriaeth amlwg, sef A4 neu lai ar gyfer argraffyddion cartref fel arfer. Rhaid meddwl hefyd am y trwch, sy'n cael ei fesur mewn gsm (gram y metr sgwâr).

Gwaith Cartref

Un o hanfodion bywyd ysgol, yn enwedig os ydych chi'n awyddus i osgoi cael eich cadw i mewn ar ôl yr ysgol.

Hyd yn oed pan nad yw'n waith mathemateg, fe'i defnyddir er mwyn amseru fel bod modd blaenoriaethu a gorffen cymaint â phosib o'r gwaith.

Blaenoriaethu?

Mae angen i chi adnabod ym mha drefn y dylid cwblhau eich gwaith cartref. Os oes angen chyflwyno rhywbeth fory, dylid ei orffen cyn rhywbeth sydd angen ei gyflwyno mewn wythnos, rhag ofn i chi fod yn brin o amser.

Nid yw hyn yn golygu mai dim ond ar y gwaith cartref gyda'r dyddiad cyflwyno nesaf y dylech chi weithio, ond dylech amcangyfrif a threfnu eich amser er mwyn sicrhau bod eich ymdrechion gorau wedi eu rhannu'n deg rhwng yr aseiniadau. Er enghraifft, os oes gennych chi ddau ddarn mawr o waith cartref i'w gorffen, y naill erbyn dydd Llun nesaf, y llall erbyn y diwrnod canlynol, peidiwch â threulio eich holl amser yn gweithio ar yr un sydd i fod i mewn dydd Llun (am mai dyna'r dyddiad cau nesaf), neu fydd dim digon o amser i orffen yr ail. Byddai angen i chi ddod o hyd i ffordd o weithio ar y ddau ddarn yn ystod yr wythnos.

Rhaglenni Office

Rhywun yn gweithio ar liniadur ac yn defnyddio meddalwedd taenlenni

Gall nifer o'r rhaglenni Office fod yn ddefnyddiol dros ben, ar gyfer gwaith ysgol neu brosiectau personol, ond bydd angen rhywfaint o sgiliau rhifedd a mathemateg o hyd.

Ond mae'r taenlenni'n gwneud y mathemateg i gyd i chi...

Mae taenlenni'n adnodd gwych er mwyn storio a phrosesu data, gan eu bod yn gwneud yr holl symiau a hafaliadau ailadroddus ar eich rhan. Fodd bynnag, mae'n bwysig eu deall o hyd er mwyn gallu dweud wrth y daenlen beth mae angen iddi ei wneud.

Budd arall taenlenni yw bod modd iddynt lunio graffiau/siartiau. Ond pa fath o graffiau/siartiau a ddylech chi ei ddefnyddio i wahanol ddibenion? Ydych chi'n deall beth mae'r graff yn ei ddangos i chi?

Felly, ai dim ond taenlenni sy'n defnyddio mathemateg?

Na. Fe allwch chi hefyd gynhyrchu tablau, graffiau a siartiau o fewn dogfennau, cronfeydd data a sleidiau cyflwyniad hyd yn oed.

Yna mae angen sgiliau rhifedd ychwanegol ar gyfer cyfrif geiriau, cyfrif sleidiau, ar gyfer gosod a phenderfynu ar faint cynnwys.

Cyllid

Mae llawer o rifedd wrth i ni ymwneud ar arian.

Yn gyntaf, mae'r gallu i adio gwahanol werthoedd o ddarnau arian ac arian papur.

Yna mae angen mathemateg i gyfrifo'r bargeinion a'r cynigion gorau.

Wrth gynilo arian mae angen dealltwriaeth o gyllidebu.

Wrth ddod yn oedolion, rydych yn defnyddio sgiliau rhifedd ychwanegol i reoli eich cyllid. Mae dealltwriaeth o ganrannau a sut i'w defnyddio yn fantais enfawr er mwyn sicrhau'r Gyfradd Llog orau ar gyfer eich cynilion, neu'r cynnig gorau ar fenthyciad/cerdyn credyd.

O ran buddsoddiadau, mae gofyn defnyddio cymwysiadau rhifedd ychwanegol i helpu i wneud y penderfyniadau iawn.

Yn olaf, ystyriwn drethi. Ar beth mae'n rhaid talu treth? Faint yw'r dreth? Yna rhaid gwneud yn siŵr y gallwch ei fforddio.

Biliau Gwasanaethau

Pan fyddwch yn gyfrifol am filiau gwasanaethau ar gyfer y cartref (megis trydan, dŵr, ffôn/rhyngrwyd) gall rhywfaint o ddealltwriaeth fathemategol sicrhau eich bod yn cael y bargeinion gorau ac yn arbed arian.

Mae angen sgiliau cyllidebu hefyd er mwyn gwneud yn siŵr bod modd i chi dalu'r biliau hyn i gyd ar ben y costau hanfodol eraill, megis rhent/morgais, treth cyngor, bwyd, benthyciadau, cardiau credyd, gwasanaethau tanysgrifio a biliau ffôn symudol.

Argraffyddion 3D

Mae argraffyddion 3D yn dechrau ymddangos mewn cartrefi ac ysgolion dros Brydain.

Onid ar gyfer celf y'u defnyddir yn hytrach na mathemateg?

Mae'r broses o ddylunio argraffiad yn gofyn defnyddio gwahanol siapiau, fectorau, mesuriadau a graddio.

Felly, oes modd i mi osgoi mathemateg drwy lawrlwytho cynllun sy'n bod eisoes?

Fyddai hyn ddim yn gweithio. Mae angen i gynllun gael ei 'sleisio' er mwyn ffurfio'r ffeil gywir ar gyfer argraffydd. Mae'r broses hon yn gofyn defnyddio tymheredd penodol, graddio, canrannau, amseru, gosod a chyfrifo'r deunyddiau angenrheidiol.

Gemau Cyfrifiadur

Mae gemau cyfrifiadur yn llawn mathemateg, nid yn y rhaglennu a'r graffeg yn unig, ond yn y chwarae hefyd.

Pa fath o fathemateg a ddefnyddir i chwarae Minecraft?

Pan fyddwch yn meddwl am rifedd, gallwch ddechrau ei adnabod ym mhopeth. Mae Minecraft yn gêm lle gallwch ddefnyddio blociau i adeiladu pethau. Wrth wneud hynny, rydych chi'n defnyddio sgiliau a dealltwriaeth rifiadol gan gynnwys ymwybod â gofod, siapiau, graddio a chymarebau.

Adeiladu adfeilion nendyrau yn Minecraft

Mae hon yn gêm hefyd sy'n cynnwys rhestr eiddo a chyfyngiadau pentyrru, fel llawer o gemau cyfrifiadur eraill. Arweinia hyn at ddefnyddio rhifedd er mwyn gwybod beth a faint y gallwch ei gario ar un adeg.

Beth am fathau eraill o gemau?

Gwelir nifer o enghreifftiau mewn gemau cyfrifiadur. Rydym ni wedi crybwyll ambell un uchod, dyma fwy.

Mewn unrhyw gêm sy'n gofyn masnachu a/neu siopau gydag arian cyfred y gêm ei hun, mae gofyn sgiliau rhifedd er mwyn cyllidebu a gwneud elw/arbedion er mwyn llwyddo.

Mae rhestrau eiddo a chyfyngiadau storio mewn gemau yn gofyn inni ddefnyddio sgiliau rhifedd er mwyn barnu pa adnoddau y mae'n werth eu casglu, ar beth mae angen i ni ganolbwyntio a sut y dylid manteisio i'r eithaf ar y lle sydd ar gael.

Mae gemau adeiladu'n cynnwys ymwybod â; gofod er mwyn cynllunio ein hadeiladau a'n strwythurau er mwyn manteisio i'r eithaf ar y lle sydd ar gael.

Gallai gêm gynnwys cyfnodau aros sy'n gofyn rheoli amser er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir o ran ymrwymo i gontractau/adeiladu/uwchraddio tymor byr neu dymor hir.

Beth am wariant o fewn y gêm/ap?

Mae'n bwysig iawn deall hyn, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud ag arian go iawn.

Y peth pwysicaf yw na ddylech brynu un dim mewn gêm heb ganiatâd y sawl sy'n talu'r bil.

Fersiwn o gist ysbail mewn gêm

Delwedd GETTY gan y BBC (https://www.bbc.co.uk/news/technology-56614281)

Mae llawer o gemau ac apiau yn cynnwys gwobrau cyfnerthu a bonws i'r rhai sy'n fodlon talu. Bagiau/blychau ysbail yw'r enghreifftiau mwyaf poblogaidd.

Ar gyfer pryniant twba lwcus o'r math hwn, mae gofyn dealltwriaeth o'r tebygolrwydd a'r ystadegau er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus. Mae hyn hefyd yn berthnasol i'r pethau a geir o fewn y gêm heb dalu.

Cysylltwch â ni

Ydyn ni wedi anghofio am rywbeth?

Os do, yna rhowch wybod i ni drwy yrru neges i nar25@aber.ac.uk.