Heriau Mathemategol 7

English

Heriau Mathemategol 7


1: Swm Syml...Rhesymeg

Beth yw'r ateb i'r swm isod

A Nonogram puzzle grid
Fersiwn pdf ar gyfer argraffu
Fersiwn Excel o'r grid pos

Nonogram yw hwn (a elwir hefyd yn Hanjie, Picross, Griddler neu Pic-a-pix). I gael gwybodaeth am sut i ddatrys y math hwn o bos rhesymu, gallwch droi at gofnod Wicipedia ar Nonogramau.

Ceir 21 rhes ar y grid ac mae blociau wedi'u lliwio ar 4 ohonynt sy'n gadael uchder o 17 sgwâr bosib mewn unrhyw golofn. Mae hyn yn golygu y gallwch lenwi pob un o'r colofnau sydd wedi'u labelu yn cynnwys 17 sgwâr ddu.

Cymarebau a Thrigonometreg Sylfaenol

Triongl sylfaenol gyda'r tair ongl fewnol wedi eu labelu'n a, b ac c

Mae onglau'r triongl uchod yn y gymhareb 5:4:3 (a:b:c)

Beth yw maint pob ongl?

Cofiwch reol onglau sylfaenol trionglau: cyfanswm pob ongl fewnol yw 180°

180 ÷ (5 + 4 + 3) = 180 ÷ 12 = 15
Felly, a = 5 × 15 = 75°
b = 4 × 15 = 60°
ac c = 3 × 15 = 45°

Rhifedd

Mae'n rhaid i'r Technegydd Labordy baratoi digon o ddeunyddiau ar gyfer arbrawf yn y dosbarth.
Bydd angen 95cm3 o finegr ar bob disgybl
Mae 20 disgybl yn y dosbarth
Daw'r finegr mewn poteli 1 litr
Sawl potel finegr fydd eu hangen?

Addaswyd o Brawf Sgiliau Proffesiynol Rhifedd yr Adran Addysg: Prawf Ymarfer 2

Bydd yr ateb yn rhif cyfan

2, oherwydd 95 x 20 = 1900cm3 a photeli 1 litr ydynt, felly ni fydd 1 botel yn ddigon, ond fe fydd 2 yn ddigon i'r dosbarth cyfan

4: Cynllun HyfforddiantSafon Uwch: Twf Esbonyddol

Mae athletwr yn cynllunio amserlen hyfforddi sy'n cynnwys rhedeg 20km yn ystod yr wythnos gyntaf; ym mhob wythnos ddilynol bydd y pellter yn cynyddu 10% ar yr wythnos flaenorol.
Ysgrifennwch fynegiad ar gyfer y pellter fydd yn cael ei redeg yn yr nfed wythnos yn ôl yr amserlen hon a chanfod ym mha wythnos y bydd yr athletwr yn rhedeg mwy na 100 km am y tro cyntaf.

Defnyddiwch fodel twf esbonyddol sylfaenol:

Pellter = 20(1.1)n-1
20(1.1)n-1 > 100
(1.1)n-1 >5
Gan symud ymlaen drwy brofi a methu
(1.1)16 = 4.6
(1.1)17 = 5.05
Felly, wythnos 18 yw'r tro cyntaf y bydd yr athletwr yn mynd y tu hwnt i 100km.

5: Dehongli'r AtebGweithrediadau Sylfaenol

cwuna ganda nnhin ehutc tyurg uaeht dayac wdudg ddhae a (7)

Mae hyn yn cysylltu â'r Gweithdy Seiffrau Trawsddodiad

Caiff ei amgryptio gan ddefnyddio'r Seiffr Ffens Reiliau dros 7 llinell

Dyma'r neges:

Cant a chwech gwaith dau tynnu deuddeg a rhannu gyda dau


Felly, beth yw'r ateb?
Cofiwch: Trefn Gweithrediadau (Rhannu, Lluosi, Adio, Tynnu)
106 × 2 - 12 ÷ 2
= 106 × 2 - 6
= 212 - 6
= 206