Heriau Mathemategol 8

English

Heriau Mathemategol 8


1: Hecsadocw Rhesymeg

Swdocw sy'n defnyddio'r system hecsadegol o 16 nod yw hwn (0,1,2,3,4,5,6,7,8,9,A,B,C,D,E,F).
Mae'r rheolau yr un peth â Swdocw arferol, ond mae nodau ychwanegol i'w cynnwys.

Fersiwn Excel o grid hexadoku

O Sudoku Puzzles Online

I'ch rhoi chi ar ben y ffordd:
y 9fed res i lawr (sy'n dechrau "F3A"); Does dim ond un lle ble mae'r rhif 6 yn gallu mynd yn y rhes hon.

Canrannau

Mae bachgen am wybod sawl un o'i gyd-ddisgyblion sy'n dalach nag ef, a sawl un sy'n llai; felly, ar ôl eu gwahanu i ddau grŵp, mae e'n canfod bod chwarter y dosbarth yn dalach, bod dwy ran o dair yn llai, a bod un bachgen yr un taldra ag ef.

Sawl bachgen sydd yn ei ddosbarth?

Pa ganran sy'n weddill i'r ddau fachgen sydd â'r un taldra?

1/4 + 2/3 = 3/12 + 8/12 = 11/12
Mae hyn yn golygu 2 fachgen = 1/12 o'r dosbarth
felly mae gan y dosbarth 2 x 12 = 24 bachgen.

Tebygolrwydd (TGAU Uwch/Lefel UG)

Mae Ffion yn mynd i'r ffair. Yno, mae'n dod ar draws gêm sy'n cynnwys rholio 2 bêl i lawr plân ar oledd er mwyn i bob pêl lanio ac aros yn un o'r pum slot a sgorio'r pwyntiau sydd wedi'u pennu ar gyfer y slot.

Pennir y gwerthoedd canlynol i'r slotiau: 2, 4, 7, 4, 2.

Mae'n bosib i'r ddwy bêl lanio ac aros yn yr un slot.

Gellir cymryd yn ganiataol bod pob slot yr un mor debygol o dderbyn y naill bêl neu'r llall.

Sgôr y chwaraewr yw swm y pwyntiau sy'n cael eu sgorio gan bob pêl.

Os yw pob gêm yn costio 10c ac mae Ffion yn derbyn yn ôl nifer o geiniogau sy'n cyfateb i'w sgôr, faint allai Ffion ddisgwyl colli neu ennill mewn 50 gêm?

I ddechrau fe fydd angen i chi gyfrif y tebygolrwydd i bob sgôr, a chymedr y sgôr gyfartalog.

Cyfanswm Sgôr Tebygolrwydd
4 4/25
6 8/25
8 4/25
9 4/25
11 4/25
14 1/25

Sgôr gymedrig = ((4 x 4) + (6 x 8) + (8 x 4) + (9 x 4) + (11 x 4) + (14 x 1)) ÷ 25 = 7.6

50 gêm yn 10c yr un = £5.00
50 gêm yn ennill cyfartaledd o 7.6c = £3.80
Cyfanswm y golled = £5.00 - £3.80 = £1.20

4: Beth yw'r rhif?Rhifau Cysefin

Beth yw'r rhif cysefin lleiaf sydd yn swm tri gwahanol rif cysefin?

Nid yw un yn rhif cysefin!

Y rhifau cysefin yw: 2, 3, 5, 7, 11, 13, 17, 19, 23 ....
Nid yw'n gallu cynnwys y rhif 2 oherwydd dyma'r unig rif cysefin sy'n eilrif a hynny'n golygu y bydd
Felly'r ateb yw: 3 + 5 + 11 = 19

5: NofioHwyl i Bob Oed

Mae'r llun isod yn dangos pysgodyn wedi'i greu o goesau matsis

Diemwnt wedi ei wneud o bedair coes matsien. Mae dwy goes fatsien ychwanegol yn ffurfio cynffon i'r dde ac felly yn ffurfio siâp croes gyda'r ddwy goes matsien ar hanner dde'r diemwnt.  Mae'r esgyll wedi eu gwneud o ddwy goes matsien arall, un o dop y diemwnt ar letraws i fyny i'r dde, yr un arall o waelod y diemwnt ar i lawr ar letraws i'r dde. Mae pob un o'r onglau lle mae'r coesau matsien yn cysylltu yn 90 neu'n 180 gradd.

Yr her yw gwneud i'r pysgodyn nofio yn y cyfeiriad arall trwy symud 3 matsien

Defnyddiwch bensiliau, neu rywbeth arall (ond ddim matsis go iawn) i ail-greu'r ddelwedd, gan symud ymlaen drwy geisio a methu os bydd angen.

Drwy symud y tair coes matsien isaf sydd ar ongl lle mae'r ochr dde yn uchel a'r ochr chwith yn isel i fyny i'r pwynt cysylltu nesaf (gan eu gadael yn wynebu i'r un cyfeiriad), caiff effaith y pysgodyn ei droi tu chwith