Pellter y Ddaear o'r haul yw 93 miliwn o filltiroedd
Yr enw a roddir ar y pellter hwnnw yw Uned Seryddol (AU - Astronomical Unit).
Dyma dabl o'r planedau sydd yng nghysawd yr haul. Mae'n dangos eu pellter o'r haul, a pha mor hir yw eu blynyddoedd nhw yn nhermau amser y Ddaear.
Planed | Y pellter o'r Haul - Unedau Seryddol (AU) | Hyd y flwyddyn, yn nhermau amser y Ddaear |
---|---|---|
Mercher | 0.39 | 88 diwrnod |
Gwener | 0.723 | 225 diwrnod |
Y Ddaear | 1 | 365 diwrnod |
Mawrth | 1.524 | 687 diwrnod |
Iau | 5.203 | 11.86 o flynyddoedd |
Sadwrn | 9.539 | 29.5 o flynyddoedd |
Wranws | 19.18 | 84 o flynyddoedd |
Neifion | 30.06 | 165 o flynyddoedd |
Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, gan gymryd bod pob orbit yn gylchol, pa blaned sy'n symud gyflymaf, a ph'un yw'r un fwyaf araf?
buanedd = pellter ÷ amser.
orbit/pellter = cylchedd = 2πr (lle mae r = pellter o'r haul)
I wneud hyn yn fwy heriol, peidiwch â defnyddio cyfrifiannell.
AR DRAWS | I LAWR |
---|---|
1. 1790 + 2686 | 1. 40433 x 1 |
4. 8880 ÷ 10 | 2. 94 - 29 |
6. 318 x 161 | 3. 14 - 3 |
9. 480 ÷ 10 | 4. 359 x 247 |
11. 1122 ÷ 17 | 5. 94 x 86 |
12. 415 ÷ 5 | 7. 16 - 4 |
14. 70 x 43 | 8. 3564 + 6061 |
16. 727 x 1 | 10. 32 + 48 |
17. 280 ÷ 7 | 13. 2464 ÷ 8 |
18. 936 - 283 | 15. 390 + 704 |
19. 36 + 63 | 16. 1087 - 319 |
21. 6 +12 | 20. 83 x 11 |
23. 5741 x 1 | 21. 281 - 82 |
24. 3598 -999 | 22. 356 + 535 |
25. 5360 - 1576 | 23. 57780 ÷ 10 |
27. 7304 ÷ 8 | 24. 344 - 104 |
28. 1584 ÷ 22 | 26. 820 ÷ 10 |
30. 19 x 11 | 29. 71 + 135 |
32. 11264 - 3218 | 31. 1683 ÷ 17 |
34. 3378 + 5744 | 33. 23 x 3 |
36. 3533 + 6361 | 35. 29 x 1 |
Beth yw gwerth hanner (1/2) o ddwy ran o dair (2/3) o dri chwarter (3/4) o bedair rhan o bump (4/5) o bum rhan o chwech (5/6) o chwe rhan o saith (6/7) o saith rhan o wyth (7/8) o wyth rhan o naw (8/9) o naw rhan o ddeg (9/10) o un fil?
Y gamp yw gweithio tuag at yn ôl drwy'r broblem hon, felly dechreuwch gyda 9/10 o 1000.
Bydd angen i chi roi cyfanrifau rhwng 0 a 9 i lenwi'r gwagleoedd.
Mae'r rhifau ym mhob rhes yn adio i'r cyfansymiau ar y dde.
Mae'r rhifau ym mhob colofn yn adio i'r cyfansymiau ar hyd y gwaelod.
Mae'r llinellau lletraws (croesliniau) hefyd yn adio i'r cyfansymiau sydd yn y corneli ar y dde.
Dechreuwch gyda'r rhesi a'r colofnau â phedwar rhif yn barod.
Mae hyn yn golygu bod y rhes isaf yn darllen 2, 7, 8, 0, 2 sydd, o'u hadio at ei gilydd yn gwneud 19.
Felly, er mwyn gweithio allan y rhif sydd ar goll yn y golofn gyntaf (ar y chwith), mae'n rhaid i chi gyfrifo 18 - (5 + 9 + 2 + 2)
Beth yw gwerthoed x ar gyfer pob un o'r rhai isod?
Canfyddwch werthoedd x pan 3x2 - 2x = 0
Cam 1: Ffactoriwch
x(3x - 2) = 0
Cam 2: Datryswch
x = 0 neu x = 2/3
Noder: Mae'r dull hwn ond yn gweithio ar gyfer y fformat ax2 + bx = 0. Fel arall, gweler isod.
Canfyddwch werthoedd x pan 6x2 - 5x - 4 = 0
Cam 1: Ffactoriwch
(2x + 1)(3x - 4)
Cam 2: Datryswch
Un ai 2x + 1 = 0 neu 3x - 4 = 0
Felly, x = -1/2 neu x = 4/3
Noder: Os nad oedd hyn yn eich helpu, ewch i wefan Maths is Fun am diwtorial mwy manwl.