Fe welir isod bum cwestiwn gwahanol - sampl ydyn nhw sydd wedi'u haddasu o 'Mindtrap' gan Spear's Games
Os yw saith mil, saith cant a saith o bunnoedd yn cael ei ysgrifennu fel £7,707, sut byddai un deg tri mil, un deg tri cant ac un deg tri punt yn cael ei ysgrifennu?
Dychmygwch ddwy bont sydd union yr un fath ond bod pob dimensiwn un o'r pontydd ddwywaith mor fawr â'r llall. Pa un o'r ddwy bont fyddai'n gryfach, neu ai'r un yw eu cryfder?
Os ydych yn rhannu pedwar deg â hanner ac yn ychwanegu deg, beth yw'r ateb?
Echdoe roedd Jasmin yn naw mlwydd oed. Y flwyddyn nesaf mi fydd hi'n ddeuddeg oed. Sut mae hynny'n bosib?
Eglurodd Ioan wrth ei dad na fyddai'n mynd i'r ysgol eto. Dywedodd ei fod wedi bod yn gwneud symiau ac nad oedd ganddo amser i fynd i'w ddosbarthiadau. Rhesymodd, "Rwy'n cysgu wyth awr y dydd ac mae hynny'n gyfanswm o 2,920 awr neu 122 diwrnod y flwyddyn. Mae cyfrif pob dydd Sadwrn a dydd Sul yn gyfanswm o 104 diwrnod y flwyddyn. Os ydw i'n neilltuo tair awr y dydd ar gyfer prydau bwyd, mae hynny'n 45 diwrnod y flwyddyn. Mae gwyliau'r haf yn 60 diwrnod ac os ydw i'n neilltuo dwy awr yn unig bob dydd ar gyfer teledu a hamdden, mae hynny'n ychwanegu 30 diwrnod arall. Os ydw i'n cyfrif yr holl ddyddiau hyn, mae'n dod i gyfanswm o 361 heb gynnwys y Nadolig, y Pasg a'r gwyliau eraill." Beth yw'r gwendid yn rhesymu Ioan?
Bydd angen i chi wneud swm.
Os ydych chi'n dyblu'r dimensiynau, beth fydd yr effaith ar y màs?
Bydd angen i chi gofio'r rheol arbennig ar gyfer rhannu â ffracsiynau.
Dim ond os yw ei phen-blwydd yn digwydd ar ddiwrnod penodol o'r flwyddyn y gall hyn fod yn wir.
Sawl gwaith y mae ef wedi cyfrif pob agwedd?
13,000 + 1,300 + 13 = 14,313
Trwy luosi pob dimensiwn â dau rydych yn cynyddu'r màs x8. Byddai'r bont fwyaf, felly yn dymchwel o dan ei phwysau ei hun.
40 ÷ ½ + 10 = 90
Mae'n Ionawr 1af ac mae pen-blwydd Jasmin ar Ragfyr 31ain. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n 9 oed ar Ragfyr 30ain, 10 oed ar Ragfyr 31ain, mi fydd yn un ar ddeg oed ddiwedd eleni ac yna'n ddeuddeg oed ddiwedd y flwyddyn nesaf.
Camgymeriad rhesymeg Ioan yw ei fod wedi cyfrif rhai gweithgareddau sawl gwaith. Ni wnaeth gymryd i ystyriaeth ei fod eisoes wedi cyfrif pob pryd bwyd, amser hamdden ac amser gwely ar gyfer penwythnosau a gwyliau'r haf cyn eu cyfrif yn ddiwrnodau llawn.
Wrth glirio'r atig, daeth Glenwyn o hyd i grêt pren a chlo arno.
Cyfuniad o rifau oedd y clo a ddefnyddiwyd, ac roedd angen 4 digid i'w agor.
Roedd hen ddarn o bapur drylliog ar y clawr ac arno'r geiriau:
I bwy bynnag ddaw o hyd i'r blwch hwn.
Yr wyf i, Tobius Flint, wedi cloi fy nhrysor pennaf yn y blwch hwn. Dim ond y rhai sy'n gwybod blwyddyn fy ngeni fydd yn gallu ei agor.
Yn gywir
T.Flint
Mawrth 30ain 1964
(-3,4)(3,-4)(-3,2)(-1,-1)(2,2)(2,4)(1,-4)(-3,-4)(3,4)(-3,0)
(1,4)(2,-4)(-2,-2)(2,-2)(-3,1)(-1,4)(0,-4)(1,-2)(2,0)(-1,0)
(-2,4)(-1,-4)(-1,2)(3,2)(-1,1)(3,0)(-3,-2)(3,-2)(1,0)(-2,2)
(0,4)(-2,-4)(-2,2)(1,2)(-3-1)(-1,-2)
(3,1)(1,-1)(-2,0)
Trwy blotio'r cyfesurynnau mewn sgwariau a'u lliwio yn unol â'r nodyn, dylai fod gennych:
Gallai'r rhif hwn un ai fod yn oed y dyn neu ddau ddigid olaf ei ddyddiad geni. Trwy ddefnyddio'r dyddiad ar y llythyr, bydd y ddau ddull yn rhoi'r ateb i chi: 1882.
Tynnwch lun sgwâr 8 wrth 8 a'i rannu yn bedwar darn fel y dangosir isod. Mae gan y sgwâr arwynebedd o 64.
Os gwnewch chi aildrefnu'r pedwar darn gallwch adeiladu petryal ag ochrau 13 a 5. Mae gan y petryal arwyneb o 65. O ble daeth y sgwâr ychwanegol? Hynny yw, sut gwnaethom ni ennill mwy o arwynebedd dim ond trwy aildrefnu'r darnau.
sofia.nmsu.edu/~pmorandi/math111f01/FibonacciPuzzle.html
Caiff crys ffasiynol ei gynhyrchu mewn fersiynau i oedolion a phlant mewn 3 maint gwahanol (bach, canolig a mawr), mewn 10 lliw gwahanol ac mae ganddo 3 o ategolion gwahanol.
Nid yw'r ategolion yn angenrheidiol ond gellir eu defnyddio gyda'i gilydd mewn unrhyw gyfuniad.
Faint o wahanol ddewisiadau o grys ac ategolion sydd ar gael?
Dewiswch un ai oedolyn neu blentyn (2 ddewis)
Dewiswch faint (3 dewis)
Dewiswch liw (10 dewis)
Dewiswch ategolion (8 dewis) (dim, un o dri, dau o dri, neu'r tri)
Felly, cyfanswm y cyfuniadau yw = 2 x 3 x 10 x 8 = 480.
Bydd angen dalen o bapur A4 a siswrn arnoch chi i wneud yr ymarfer hwn.
Dyma her ddiddorol all ymddangos yn amhosib i ddechrau, tan i chi ddechrau meddwl sut i greu dolen yn hytrach na thwll.
Mae'r llun isod yn dangos y llinellau a dorrir ar gyfer un ffordd o gwblhau'r her yma.
Po fwyaf agos at ei gilydd fydd y llinellau ar eich papur, mwyaf fydd y ddolen y gallwch ei chreu.
Mae'n bosib creu dolen sy'n ddigon mawr i yrru car drwyddi trwy ddefnyddio papur A4 yn unig.