Dylunio Addurn 3D
Silouhette of santa's sleigh

English

Dylunio Addurn 3D

Mae'r gweithgaredd hwn yn defnyddio meddalwedd dylunio TinkerCad sydd ar gael yn y porwr yn Tinkercad.com. Mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, fodd bynnag, bydd angen i chi sefydlu cyfrif.

Mae gennym y gweithdai isod ar gael i unrhyw un sy'n newydd i ddylunio 3D yn TinkerCad.

Cyflwyniad i TinkerCad
Gwneud Roced yn TinkerCad
Her Siâp 3D

Yr her heddiw yw defnyddio TinkerCad i ddylunio addurn Nadolig.

Os hoffech ganolbwyntio ar y patrwm yn unig, dyma ddolen i siâp addurn sylfaenol.

Enghreifftiau

Dyluniad hirgul gyda phatrwm pluen eira
Addurn gwag gyda sêr a ffigwr o angel y tu mewn
Addurn ciwb gydag ochr crwm gyda sêr wedi'u hysgythru ar bob ochr.

I gael mwy o enghreifftiau a/neu syniadau gallech chwilio am addurniadau ar Thingiverse - dyma lyfrgell ar-lein rhad ac am ddim o ddyluniadau 3D y mae pobl wedi'u cyhoeddi.



Rhannwch eich dyluniadau â ni

Anfonwch ddolen gyhoeddus, neu sgrinlun o'ch dyluniad i nar25@aber.ac.uk

Nadolig Llawen!