Mae angen yr olwyn ddatgodio a ddarlunnir isod ar gyfer y gweithgaredd hwn.
Byddwch angen pin hollt, wedi'i osod drwy'r dotiau canol, i ddal y ddwy ran ynghyd.
Sut mae defnyddio'r olwyn ddatgodio?
I amgodio (defnyddiwch yr olwyn i greu neges wedi'i chodio) bydd angen i chi ddod o hyd i'r llythyren yr ydych yn ei newid ar y cylch allanol a'i hamnewid am yr un ar y tu mewn. Bydd angen i chi gofio sut oedd yr olwynion wedi'u hunioni i'w datgodio.
I ddatgodio (newid y neges godio yn ôl) yn gyntaf bydd angen i chi wybod sut mae'r olwynion yn unioni ac yna dod o hyd i'r llythyren ar y cylch mewnol a'i hamnewid am yr un ar y tu allan.
Er enghraifft:
Unionwch yr olwynion fel bod y llythyren A ar y tu allan wedi'i hunioni â'r llythyren A ar y tu mewn.
Nawr amgodwch y neges 'Nadolig Llawen'.
Dylech gael 'SAFHJThW ChAMOS'.
Nawr newidiwch yr olwynion fel bod G = A (golyga hyn fod G ar y tu allan wedi'i unioni ag A ar y tu mewn).
Gan ddefnyddio hyn, datgodiwch y neges 'AHRhPhTNS DdNCSJ'.
Dylech gael 'Gwyliau Hapus'.
Defnyddiwch yr olwyn ddatgodio i adnabod teitlau'r caneuon Nadolig isod.