Mae'n Noswyl Nadolig ac y mae Tomos yn llawn cyffro.
Mae gan ei deulu draddodiad o agor un anrheg cyn mynd i'r gwely.
Mae llawer o anrhegion dan y goeden, ac y mae Tomos yn gwybod ei fod yn cael agor yr un sydd wedi ei lapio mewn papur melyn heno.
Yn anffodus, daw toriad yn y trydan yn union cyn mynd i nôl yr anrhegion o dan y goeden.
Diolch byth, mae ganddynt oleuadau sydd wedi eu pweru â batris ar y goeden Nadolig.
Y broblem yw mai dim ond tri gosodiad lliw sydd gan y goleuadau: coch, gwyrdd a glas.
Allwch chi adnabod yr anrheg felen?
Cliw: Mae gennym weithdy ar-lein o'r enw Gwyddoniaeth Lliwiau a all fod o help yn yr her hon.