Rheoli Stoc Siôn Corn
Silouhette of santa's sleigh

English

Rheoli Stoc Siôn Corn

Mae'r gweithgaredd hwn yn cynnwys cysyniadau busnes TGAU /Lefel A.


Mae Siôn Corn yn gweithio'n galed gyda'r corachod yn ei weithdy yn paratoi bwndeli o PlayStation 5.

Gyda'r holl deganau eraill yn y gweithdy, a dim llawer o le, mae angen iddo gadw cost dal stoc y bwndeli hyn i lawr gymaint ag sydd modd.

Erfyn defnyddiol i reoli stoc yw'r model maint archeb economaidd (EOQ) a roddir trwy:

\[Q = \sqrt{2FS \over H}\]

Lle mae Q = maint archeb economaidd mewn unedau, F = cost archebu fesul uned, S = galw blynyddol mewn unedau, ac H = cost dal blynyddol fesul uned.

Allwch chi helpu?

Allwch chi helpu i Siôn Corn bennu'r Maint Archeb Economaidd gyda'r wybodaeth isod?

  1. Mae pob archeb am PlayStation yn costio £17.50 i Siôn Corn.

  2. Mae 80,000 o lythyrau at Siôn Corn yn gofyn am un o'r bwndeli hyn.

  3. Y gost dal yw £5.50 am bob 10 bwndel.


Nadolig Llawen!