Mae Rhodri wedi bod yn brysur yn gwneud plu eira papur i addurno ffenestr ar gyfer y Nadolig.
Er mwyn creu un o'r plu eira hyn, plygodd sgwâr o bapur gwyn yn ei hanner (o'r dde i'r chwith) ac yna ei blygu yn ei hanner eto (o'r brig i'r gwaelod). Yna defnyddiodd Rhodri dempled i farcio'r ardaloedd tywyll yr oedd angen eu torri allan. Ar ôl iddo orffen torri, agorodd y papur i ddatgelu'r patrwm terfynol.
Mae Rhodri eisiau ail-greu'r patrwm hwn ar gyfer un o'i blu eira:
Y broblem yw, ni all gofio pa un o'r templedi isod sy'n creu'r bluen eira. Allwch chi roi cymorth?
A
B
C
Hefyd, mae angen iddo wybod pa ffordd i roi'r templed ar ei bapur plyg i wneud i hyn weithio.