Ag yntau'n aros mewn cartref gwyliau yn Aberystwyth, mae Siôn Corn yn penderfynu danfon rhai anrhegion i grotos mewn nifer o drefi yn y canolbarth.
Gan fod angen i Siôn Corn orffwys yn ystod ei egwyl cyn noswyl y Nadolig, mae angen iddo ddod o hyd i'r llwybr fydd yn lleihau'r pellter y bydd yn rhaid iddo ei deithio.
Mae'r tabl isod yn dangos y pellter rhwng pob pâr o drefi, a dangosir rhai yn y diagram hwn:
Mae pob pellter mewn milltiroedd.
Mae'r rhain yn cynrychioli'r llwybr uniongyrchol 'fel yr hed y car-llusg' ac maen nhw yr un fath i'r ddau gyfeiriad.
Aberystwyth | Llanelwedd | Llanidloes | Machynlleth | Y Drenewydd | Y Trallwng | |
---|---|---|---|---|---|---|
Aberystwyth | - | 34 | 23 | 18 | 29 | 43 |
Llanelwedd | 34 | - | 27 | 36 | 26 | 37 |
Llanidloes | 23 | 27 | - | 17 | 11 | 22 |
Machynlleth | 18 | 36 | 17 | - | 17 | 30 |
Y Drenewydd | 29 | 26 | 11 | 17 | - | 12 |
Y Trallwng | 43 | 37 | 22 | 30 | 12 | - |
Dewch o hyd i'r llwybr sy'n dechrau ac yn gorffen yn Aberystwyth ac sy'n rhoi'r pellter lleiaf y mae Sion Corn yn gorfod ei deithio er mwyn danfon yr anrhegion i'r holl drefi.