Blodau Crwban

English

Blodau Crwban

Nod y gweithdy hwn yw cynllunio eich blodau eich hun gan ddefnyddio iaith raglennu wedi'i seilio ar flociau.

Enghraifft o flodyn a dynnwyd gan ddefnyddio 'Turtle Blocks'
Enghraifft o flodyn a dynnwyd gan ddefnyddio 'Turtle Blocks'
Enghraifft o flodyn a dynnwyd gan ddefnyddio 'Turtle Blocks'
Enghraifft o flodyn a dynnwyd gan ddefnyddio 'Turtle Blocks'
Enghraifft o flodyn a dynnwyd gan ddefnyddio 'Turtle Blocks'
Enghraifft o flodyn a dynnwyd gan ddefnyddio 'Turtle Blocks'

Cynlluniwyd y gweithdy hwn i gynnig her i bob oed sy'n dymuno dysgu mwy am raglennu.

I'ch helpu i gyrraedd y nod hwn, byddwn yn edrych ar fathemateg a chodio sy'n angenrheidiol ar gyfer tynnu llun gwahanol siapiau, gan ddatblygu'r wybodaeth fydd ei hangen ar gyfer creu petalau.

Gallwch wneud cynifer (neu gyn lleied) o'r ymarferion isod ag y dymunwch er mwyn cyrraedd y nod o ddylunio blodau.

Os bydd un cam yn peri anhawster i chi, edrychwch ar y cam nesaf - efallai bydd yn eich helpu i ddatrys y broblem.

Rydym hefyd wedi cynnwys sawl tasg estynedig ym mhob adran er mwyn herio rhaglenwyr mwy profiadol.

Ar gyfer y gweithdy hwn, byddwn yn defnyddio meddalwedd porwr, o'r enw Turtle Blocks. Mae'r feddalwedd yn rhad ac am ddim ac ni fydd angen ei lawrlwytho, ei gosod na mewngofnodi.

Beth yw 'Turtle Blocks'?

Meddalwedd yw 'Turtle Blocks' sy'n defnyddio blociau codio sylfaenol i yrru 'crwban' o amgylch y sgrin. Trwy ddefnyddio pen ysgrifennu, gall y crwban greu siapiau a phatrymau.

Yma, darparwyd ciplun o'r sgrin gyntaf gydag allwedd.

Rhyngwyneb 'Turtle Blocks' gyda rhifau i nodi'r ardaloedd sy'n cael eu henwi yn yr allwedd. Mae rhifau 1, 2 a 3 yn gysylltiedig â'r ddewislen flociau ar ochr chwith y sgrin (mae 1 yn cyfeirio at dab y pen ysgrifennu, 2 at y tab symud ac mae 3 yn cyfeirio at y rhestr opsiynau ganlyniadol). Mae rhif 4 yn cyfeirio at y sgript ar y sgrin, a rhif 5 yw'r crwban y bydd y sgript yn ei symud. Mae rhif 6 yng nghornel dde uchaf y sgrin gyda'r rheolyddion chwarae a stopio. Mae rhif 7 wrth ymyl eiconau'r ddewislen llwyfan ar gyfer clirio'r sgrin, chwyddo ac ychwanegu gridiau. Mae rhif 8 yn y gornel dde isaf gyda rheolyddion edrychiad y blociau. Yn olaf, mae rhif 9 yn y gornel dde uchaf wrth ymyl opsiynau'r brif ddewislen ar gyfer creu prosiectau newydd, cadw, llwytho a rhannu.


Allwedd

  1. Dyma sy'n dewis y ddewislen ar gyfer rhaglennu'r blociau sy'n gysylltiedig â'r pen ysgrifennu
  2. Newid dewislen y blociau rhaglennu i symud
  3. Dangos y ddewislen blociau rhaglennu sydd wedi'u dewis ar hyn o bryd
  4. Y rhaglen gychwynnol ragosodedig
  5. Dyma'r 'Crwban' y mae'r rhaglen yn ei reoli
  6. Dyma reolyddion chwarae a stopio'r rhaglen
  7. Rheolyddion y llwyfan - y prif un ar gyfer y gweithdy hwn yw'r eicon yn y canol sy'n clirio ardal y llwyfan
  8. Rheolyddion edrychiad y blociau
  9. Y brif ddewislen sy'n cynnwys opsiynau i greu prosiect newydd, cadw prosiect a chwilio trwy'r rhaglenni sydd yno'n barod.

Os ydych yn ansicr ynghylch defnydd eicon neu'r blociau, gallwch hofran y llygoden uwch eu pennau i gael rhagor o wybodaeth.

Tynnu gwahanol siapiau

Er mwyn tynnu rhywbeth mor gymhleth â blodyn gan ddefnyddio'r rhaglen hon, rhaid edrych yn gyntaf ar sut i dynnu llun gwahanol siapiau.

Beth yw sgwâr? - Mae sgwâr yn siâp a chanddo bedair ochr o'r un hyd a phedair cornel ongl sgwâr (90°).

Pan fyddwch yn llwytho prosiect newydd ar 'Turtle Blocks', byddwch hefyd yn cael bloc codio bychan. Edrychwch arno i weld a allwch ddyfalu llun pa siâp fydd yn cael ei dynnu cyn pwyso'r botwm chwarae.

Beth am inni gael golwg fwy manwl ar y rhaglen hon:

dechrau - Dyma'r bloc sy'n dal y rhaglennu sy'n cychwyn wrth inni glicio ar chwarae.

ailadrodd 4 - Mae'r llinell hon yn dweud wrth y rhaglen am ailadrodd y blociau codio tu mewn bedair gwaith.

ymlaen 100 - Gorchymyn y crwban i symud ymlaen 100 uned.

i'r dde 90 - Gorchymyn y crwban i symud 90° i'r dde.

Felly, mae'r rhaglen gyfan yn dweud wrth y crwban am deithio ymlaen 100 uned, troi 90° ac ailadrodd y weithred 3 gwaith eto - sy'n creu sgwâr.

Heriau ar gyfer Sgwariau:

1. Newidiwch y rhaglen i greu sgwâr o wahanol feintiau

2. Newidiwch y rhaglen er mwyn bod y crwban yng nghornel dde isaf y sgwâr (yn hytrach na'r chwith isaf fel y dangosir yn yr enghraifft uchod)

3. Ychwanegwch y blociau angenrheidiol i beri i'r crwban dynnu llun y ddwy sgwâr yn heriau 1 a 2 mewn un rhaglen

Heriau Estynedig ar gyfer Sgwariau:

Rhowch gynnig ar ail-greu'r lluniau isod:

pedair sgwâr union yr un maint wedi'u cysylltu i ffurfio sgwâr fwy
chwe gwahanol faint o sgwariau, bob un yn rhannu'r un gornel chwith ar y gwaelod
pum gwahanol faint o sgwariau, bob un yn rhannu'r un man canol

Ar gyfer o leiaf un o'r rhain; rhaid ichi ddefnyddio'r bloc 'pen i fyny' i ganiatáu symud heb dynnu llun, a'r bloc 'pen i lawr' i ddechrau tynnu llun eto.

I'ch herio ymhellach, rhowch gynnig ar ail-greu'r lliwiau hefyd (defnyddiwyd y gwerthoedd lliwiau sy'n ffactorau o 10)

Gwneud blodau trwy ddefnyddio sgwariau

Mae'n bosib cynhyrchu patrymau sgwariau yn 'Turtle Blocks' sy'n ffurfio edrychiad tebyg i flodyn, fel y dangosir isod:

pum sgwâr sy'n cylchdroi o amgylch yr un pwynt i greu cynllun tebyg i flodyn
deg sgwâr sy'n cylchdroi o amgylch yr un pwynt i greu cynllun tebyg i flodyn
ugain sgwâr sy'n cylchdroi o amgylch yr un pwynt i greu cynllun tebyg i flodyn
hanner cant sgwâr sy'n cylchdroi o amgylch yr un pwynt i greu cynllun tebyg i flodyn

Mae sgwariau yn siapiau syml i'w cynhyrchu, ond mae'n eithaf anodd i ddylunio blodau gyda nhw. Felly, beth am inni ddechrau datblygu ein gallu i greu siapiau eraill.

Edrychwn nawr ar sut y gallwn ni newid y rhaglen i dynnu llun pentagonau rheolaidd. Bydd ganddyn nhw bum ochr o'r un hyd a phum cornel cyfatebol.

Pa ongl sydd ei hangen ar gyfer pentagon? Fe wnawn ni rannu dull y gallwn ei ddefnyddio i ganfod yr onglau sy'n creu unrhyw siâp.

I gwblhau siâp, rhaid i'r crwban deithio cyfanswm o 360°

Mae hyn yn golygu mai'r ongl sydd ei hangen i dynnu llun pentagon rheolaidd yw:

\[360 ÷ 5 = 72°\] a gallwn hefyd ysgrifennu hyn fel \[{360 \over 5} = 72°\]

Bydd raid ichi ddechrau prosiect newydd i ddychwelyd i'r rhaglen tynnu llun sgwâr ragosodedig. Pa rifau fydd yn rhaid eu newid i beri iddi dynnu llun pentagon?

dechrau

ailadrodd 5 - Newid hwn i gyfateb i nifer yr ochrau sydd gan ein siâp.

ymlaen 100 - Rydym wedi cadw'r ochrau yr un hyd.

i'r dde 72 - Dyma faint yr ongl y gwnaethom weithio allan gyda'r swm uchod.

Heriau ar gyfer Pentagonau:

1. Lluniwch bentagon hanner maint yr un a luniwyd yn yr ateb uchod.

2. Sut byddem yn newid yr hyn rydym wedi'i wneud i greu hecsagon (siâp chwe ochr) neu octagon (siâp wyth ochr)?

Heriau Estynedig ar gyfer Pentagonau:

Rhowch gynnig ar ailgynhyrchu'r pentagonau hyn:

pedwar pentagon wedi'u trefnu i gyffwrdd wrth eu corneli gyda 'thwll' sgwâr yn y canol
chwe phentagon wedi'u trefnu gydag un yn y canol a phob un o'r pump arall yn rhannu un ochr ohono.
pum pentagon yn gorgyffwrdd ac yn cylchdroi o amgylch un gornel

Rydym wedi darparu enghreifftiau o sgwariau a phentagonau wedi'u tynnu trwy gylchdroi ar un gornel i gynhyrchu cynllun tebyg i flodyn yn yr adrannau blaenorol. Gellir gwneud hyn eto gydag unrhyw siâp:

pum sgwâr sy'n cylchdroi o amgylch yr un pwynt i gynhyrchu cynllun tebyg i flodyn
pum pentagon sy'n gorgyffwrdd ac yn cylchdroi o amgylch un gornel
pum hecsagon sy'n gorgyffwrdd ac yn cylchdroi o amgylch un gornel
pum heptagon sy'n gorgyffwrdd ac yn cylchdroi o amgylch un gornel
pum octagon sy'n gorgyffwrdd ac yn cylchdroi o amgylch un gornel

Sut mae creu'r patrymau cylchdro hyn?

Gadewch inni ddangos i chi. Yn gyntaf, dyma'r rhaglen ar gyfer creu patrwm cylchdro gyda sgwariau:

Y rhaglen flociau a ddefnyddir i gynhyrchu pum sgwâr wedi'u cysylltu ag un pwynt cylchdro gan un gornel. Y tu mewn i'r bloc dechrau, ceir bloc ailadrodd pum gwaith sy'n cynnwys gosod lliw ar hap (gwerth lleiaf 0, gwerth uchaf 100) ac a ddilynir gan orchymyn a ailadroddir 4 gwaith o ymlaen 100 uned a throi i'r dde 90°, ac yna orchymyn troi i'r dde 72°.

Heriau ar gyfer Patrymau Cylchdro:

A allwch chi adnabod yr adran yn y rhaglen uchod sy'n tynnu llun sgwâr?

Pa floc sy'n gorchymyn y rhaglen i greu pum sgwâr?

Pam mae gwerth yr ail floc troi i'r dde wedi'i osod i 72?

Pa bryd mae'r lliw yn newid yn ystod y patrwm?

dechrau - mae'n dweud wrth y rhaglen am redeg y blociau sydd wedi'u cynnwys wrth ddechrau

ailadrodd5 - mae'n gorchymyn y rhaglen i ailadrodd y blociau sydd wedi'u cynnwys 5 gwaith. Gan fod hynny'n cynnwys y cyfarwyddyd ar gyfer tynnu llun sgwâr, bydd llun 5 sgwâr yn cael eu tynnu

gosod lliw ar hap o leiaf 0 - mae'n dweud wrth y rhaglen am newid y lliw cyn tynnu llun pob sgwâr. Yn 'Turtle blocks', mae gan liwiau werth rhifiadol rhwng 0 a 100. Mae hynny'n peri i'r rhaglen ddewis gwerth ar hap, ac o leiaf 0 ar gyfer y lliw.

ar hap 100 ar y mwyaf - mae'r bloc llwyd yn gweithredu fel gwahanydd i wneud y cod yn fwy taclus, ac nid yw'n effeithio ar y rhaglen. Llenwir gweddill y llinell â'r gosodiad 100 fel gwerth uchaf y lliw y bydd y detholydd ar hap yn ei ddewis.

ailadrodd4 - dyma'r bloc ailadrodd sy'n tynnu llun un sgwâr trwy ailadrodd y cod tu mewn bedair gwaith, unwaith ar gyfer pob ochr.

ymlaen100 - mae'n tynnu llinell syth a'i hyd yn 100 uned

i'r dde90 - mae'n troi'r crwban 90° i'r dde (90° oherwydd y rheol fod yn rhaid i'r crwban deithio cyfanswm o 360° er mwyn cwblhau siâp - mae pedair cornel mewn sgwâr ac felly rhaid i bob tro fod yn 360 ÷ 4 = 90°)

i'r dde72 - mae'r cyfarwyddyd hwn yn dweud wrth y crwban am droi 72° arall i'r dde ar ôl pob sgwâr. Mae hyn oherwydd ein bod yn cynhyrchu cylchdro cyfan (360°) o amgylch pwynt wrth dynnu llun pum sgwâr â gofod hafal rhyngddynt. 360° ÷ 5 sgwâr = 72° rhwng pob un.

Gan ddefnyddio'r cod hwn, gwnewch y newidiadau angenrheidiol er mwyn ail-greu'r un patrwm gyda phentagonau, hecsagonau ac octagonau.

Nawr, crëwch yr un patrwm cylchdro gyda 10 hecsagon

Heriau Estynedig ar gyfer Patrymau Cylchdro:

Chwiliwch am y bloc rhannu rhifau a'i ddefnyddio i gynhyrchu pum heptagon (siapiau seithongl) yn gywir yn y patrwm cylchdro hwn:

Ymchwiliwch i greu newidynnau ar gyfer nifer yr ochrau a nifer y siapiau er mwyn ei gwneud hi'n haws i fewnbynnu'r newidiadau

Rhowch gynnig ar ail-greu'r isod:

Y pum sgwâr wedi'u cysylltu trwy gornel â phwynt cylchdro fel uchod, gyda throshaen o fersiwn mwy
Y pum sgwâr wedi'u cysylltu trwy gornel â phwynt cylchdro fel uchod, gyda throshaen o fersiwn mwy wedi'i ffurfio o hecsagonau
Pum hecsagon wedi'u cysylltu â'r pwynt cylchdro, gyda throshaen o bum octagon mwy yn yr un trefniant

A ninnau bellach wedi archwilio siapiau ag ochrau syth, beth am inni edrych ar greu cylchoedd.

Heriau ar gyfer Cylchoedd:

Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd eisoes, lluniwch siâp 360-ochr rheolaidd (a elwir yn 360-gon neu yn dricosiahecsecontagon) gyda phob ochr yn 2 uned o hyd?

Sut olwg fydd arno?

Pam oedd yn rhaid lleihau hyd yr ochrau?

A yw'r un twyll llygaid yn digwydd ar gyfer siâp 300, 250 neu 200 ochr? Mae'n bosib y bydd yn rhaid ichi ymestyn hyd yr ochrau eto er mwyn ymchwilio.

Cynhyrchwch y cynllun hwn mewn lliwiau o'ch dewis:

pum 360-gon wedi'u gosod o amgylch un pwynt â gofod hafal rhyngddynt - gan ddefnyddio'r un patrwm cylchdro ag a ddangoswyd yn yr adran flaenorol

Heriau Estynedig ar gyfer Cylchoedd 1

Ailgrëwch y cynllun isod o ddeuddeg 360-gon:

deuddeg 360-gon wedi'u gosod ar wahân yn hafal o amgylch un pwynt cylchdro. Ffurfir pob cylch o enfys o liwiau - ffurfiwyd pob ochr gydag a +1 i werth y lliw, gan ailosod i sero bob tro y bydd yn mynd heibio 100.

Gan ddefnyddio newidynnau a blociau mathemateg, rhowch gynnig ar ail-greu'r cynllun lliwiau hefyd.


Mae 'Turtle Blocks' yn cynnig ffordd symlach i dynnu llun cylch trwy ddefnyddio un bloc codio:

Rhaglen sy'n cynnwys bloc rhaglennu a'r arc wedi'i ysgrifennu ynddi. Gosodir gwerth yr ongl i 360 a'r radiws i 100 uned.

Mae'r rhaglen hon yn dweud wrth y crwban am dynnu llun arc sy'n teithio 360° o amgylch cylch ac iddo radiws o 100 uned.

Os gwnawn ni gynyddu'r radiws, bydd y cylch yn tyfu'n fwy. Os gwnawn ni leihau'r ongl, tynnir llun llai o gylchedd y cylch.

Heriau ar gyfer Cylchoedd 2:

Pam, yn eich barn chi, mae'r rhaglen yn rhedeg yn gynt na thynnu llun 360-gonau?

Ailgrëwch y patrwm isod (ceir pum cylch coch, deg gwyrdd a phymtheg glas):

Pum cylch bychan, deg cylch canolig a phymtheg cylch mawr wedi'u gosod yn hafal o amgylch un pwynt cyswllt sy'n nodi dechrau a diwedd pob un.

Heriau Estynedig ar gyfer Cylchoedd 2:

Rhowch gynnig ar ail-greu'r isod:

pum cylch bychan, deg hecsagon a phymtheg sgwâr fawr, bob un wedi'u gosod ar wahân mewn mannau hafal o amgylch y pwynt cyswllt (dechrau a diwedd pob siâp) pum cylch sy'n ffurfio cylchyn o amgylch y crwban Cynllun tebyg i emoji, wyneb cylchog â llygad chwith gron, arc ar gyfer y llygad dde i ddynodi wincio a hanner cylch ar gyfer gwên

Mae'r cyntaf o'r rhain yn ddatblygiad o'r ymarfer olaf uchod, lle mae hecsagonau wedi cymryd lle y cylchoedd gwyrdd, a sgwariau wedi cymryd lle y rhai glas.

Mae'r ail yn cynnwys defnyddio 'pen i fyny' a 'phen i lawr' i newid y man cychwyn ar gyfer pob cylch.

Mae'r trydydd yn gyfuniad o siapiau, symudiadau a defnydd o'r pen ysgrifennu - mae pob arc a ddefnyddir un ai yn 360° neu 180°.


Gellir defnyddio'r bloc arc yr oeddem yn ei ddefnyddio yng Nghylchoedd 2 i dynnu llun pob math o gromlinau.

Mae hyn yn ein galluogi i ffurfio siâp petal gan ddefnyddio'r rhaglen sylfaenol hon:

Rhaglen ar gyfer tynnu llun petal syml. Mae'n cynnwys bloc sy'n cael ei ailadrodd ddwywaith sy'n cynnwys gorchymyn arc gydag ongl 90° a radiws 100 uned a gorchymyn troi i'r dde wedi'i osod i 90°

Gallwch newid y naill neu'r llall o werthoedd yr arc i addasu'r cromlin a maint y petal. Ond, pa bryd bynnag y byddwch yn newid yr ongl, rhaid ichi hefyd newid gwerth y gorchymyn troi i'r dde. Cyfrifir gwerth troi i'r dde gan ddefnyddio 180 − ongl yr arc

Felly, os newidiwch ongl yr arc i 45°, mae gwerth troi i'r dde yn newid i 180 − 45 = 135°.

Heriau ar gyfer Petalau:

Rhowch gynnig ar dynnu llun siâp petal gydag ongl arc o 67°.

Crëwch y patrwm isod gyda siâp petal o'ch dewis:

chwe phetal wedi'u trefnu'n rheolaidd mewn cylchdro o'r man cychwyn ar gyfer pob un.

Ymarferwch osod y petalau yn haenau, fel y dangosir yma:

trefniant cylchdro o bump o un math o betal yn troshaenu'r un patrwm wedi'i ffurfio o un petal ar ddeg o wahanol faint

Heriau Estynedig ar gyfer Petalau:

Gan ddefnyddio'r bloc 'storio', crëwch newidyn ar gyfer ongl arc eich petal a fydd yn eich galluogi i newid y gwerth hwn ac addasu'r ongl troi i'r dde yn gywir ar yr un pryd.

Allwch chi beri i'r siapiau petalau a ddefnyddiwyd amrywio ar hap? I wneud hyn, rhaid ichi ystyried ystod gwerthoedd ongl yr arc a'r radiws.

Ceisiwch weld a allwch chi greu cynhyrchydd blodau fydd yn cynhyrchu blodyn ar hap bob tro.

Creu blodyn

Hyderwn eich bod wedi manteisio ar y cyfle yn yr adrannau uchod i archwilio'r feddalwedd er mwyn eich bod yn gallu cyfuno eich holl wybodaeth i gynhyrchu amrywiaeth o flodau.

Eich tro chi nawr i arbrofi i weld pa flodau y gallwch chi eu creu a beth yw eich hoff ddull.

Ystyriwch ychwanegu cyffyrddiadau olaf fel coesynnau, dail neu beth am roi sawl blodyn mewn tusw.

Byddem yn hoffi gweld eich cynlluniau gorffenedig a'u rhannu i helpu i ysbrydoli eraill. Anfonwch eich ffeil 'Turtle Blocks' at nar25@aber.ac.uk