Rhestr Termau Busnes

English

Rhestr Termau Busnes

Gair Allweddol Diffiniad
Adenillion ar Fuddsoddiad Faint o arian mae buddsoddwr yn ei gael yn ôl ar ei fuddsoddiad
Allforion Llif nwyddau a gwasanaethau allan o'r wlad i wledydd eraill
Amcanion CAMPUS Amcanion busnes sy'n Gyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, a Synhwyrol
Amcanion Cymdeithasol Amcanion a osodir o ganlyniad i bwysau cymdeithasol, megis lleihau allyriadau carbon neu gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol.
Amlsianel Defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyrraedd cwsmer
Amser Real Yn fyw neu wrth iddo ddigwydd
Anghorfforedig Busnes sydd heb ei gofrestru fel cwmni ac felly yr un corff yw'r perchenogion a'r busnes, yn ôl y gyfraith
Ardoll Treth ar gynnyrch neu wasanaeth penodol
Ased Eitem gwerthfawr sy'n eiddo i unigolyn neu fusnes
Atebolrwydd Cyfyngedig Cyfyngir risg y golled i gyfanswm yr arian a fuddsoddir yn y busnes
Atebolrwydd Llawn Mae lefel y risg yn uwch na'r swm a fuddsoddwyd sy'n golygu y gellir defnyddio eu hasedau i ad-dalu dyledion y busnes
Banc Lloegr Banc canolog y DU. Mae'n rheoli dyledion y wlad, yn gosod cyfraddau llog ac yn dylanwadu ar y gyfradd gyfnewid rhwng y bunt ac arian cyfred arall
Benthyciad Banc Swm penodol o arian a fenthycir o fanc. Rhaid ei ad-dalu gyda llog trwy daliadau a osodir dros gyfnod cytunedig
Breiniwr Busnes sefydledig sy'n rhoi caniatâd i entrepreneur fasnachu gan ddefnyddio ei enw a'i gynnyrch
Buddsoddiad Arian a roddir i fusnes gyda'r bwriad o wneud elw
Cenhedlaeth Y (a elwir hefyd yn Fileniaid) Yn cyfeirio at bobl a anwyd rhwng 1980 a 2000
Corfforedig Busnes sydd wedi ei gofrestru fel cwmni, er mwyn gwahanu'r perchenogion a'r busnes yn gyfreithiol
Credyd Arian a fenthycir i fusnes gan sefydliad ariannol neu gyflenwr y mae'n rhaid ei ad-dalu yn ystod cyfnod cytunedig
Credyd Masnach Credyd a gynigir gan gyflenwyr i fusnesau yn unig
Cwcis Ffeiliau bach sy'n cael eu cadw ar gyfrifiadur cwsmer pan fydd yn ymweld â gwefan ac sy'n cofnodi manylion yr ymweliad y gall y wefan gael mynediad atynt eto yn ystod ymweliadau yn y dyfodol.
Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (CCC) Busnes corfforedig sy'n gallu gwerthu cyfranddaliadau i'r cyhoedd
Cwmni Cyfyngedig Preifat Busnes corfforedig sy'n eiddo i'r rhanddeiliaid
Cydymffurfio Ufuddhau i orchymyn, y gyfraith neu fodloni set o safonau
Cyfalaf cyfrannau Yr arian a godir trwy werthu cyfranddaliadau'r cwmni i fuddsoddwyr
Cyfalaf Menter Arian a fuddsoddir gan unigolion neu grwpiau mewn busnes newydd
Cyfleustra Pa mor hawdd yw cael gafael ar gynnyrch neu wasanaeth heb amharu'n fwy nag sydd raid ar ffordd o fyw neu drefn arferol y cwsmer
Cyflog Byw Cenedlaethol Isafswm y gall busnes ei dalu i gyflogai, yn ôl y gyfraith
Cyfnewidfa Stoc Man lle gellir prynu neu werthu cyfranddaliadau mewn cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus (ccc)
Cyfnod sefydlu Cyfnod ar ddechrau contract pob cyflogai pan fo'n rhaid dangos iddynt sut i weithio'n ddiogel ac o fewn disgwyliadau'r cyflogwr
Cyfran Marchnad Cyfran gwerthiant un busnes yn y farchnad
Cyfranddalwyr Buddsoddwyr sy'n rhan-berchenogion cwmni. Maen nhw'n buddsoddi er mwyn ennill cyfran o'r elw a hawl i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cyfryngau Cymdeithasol Gwefannau sy'n galluogi defnyddwyr i ryngweithio a rhannu negeseuon/lluniau/cysylltiadau
Cyfuniad Hyrwyddo Cyfuniad o weithgareddau hyrwyddo a ddefnyddir i ehangu ymwybyddiaeth defnyddwyr o'r cynnyrch er mwyn cynyddu'r gwerthiant
Cyllidebau Targedau ariannol rhagosodedig i fusnes eu cyflawni mewn cyfnod penodol
Cymdeithas Fasnach Cymdeithas wedi ei ffurfio a'i hariannu gan fusnesau sy'n gweithio mewn diwydiant penodol
Cymhelliad Taliad neu rodd i annog rhywun i wneud rhywbeth
Cynllun Busnes Dogfen sy'n amlinellu sut bydd entrepreneur yn mynd ati i sefydlu busnes newydd
Cynnyrch sy'n cynyddu'r swmp Cynnyrch sy'n fwy na'r deunyddiau crai a ddefnyddir i'w greu
Cynnyrch sy'n lleihau'r swmp Cynnyrch sy'n llai na'r deunyddiau crai a ddefnyddir i'w greu
Dadansoddiad Proses o edrych ar ddata er mwyn adnabod patrymau a thueddiadau
Dadansoddiad SWOT Astudiaeth gan fusnesau i adnabod Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau
Darfodedig Wedi dyddio neu ddim yn cael ei ddefnyddio erbyn hyn
Data Gwybodaeth y gellir ei chasglu a'i dadansoddi - yn fwyaf aml ar ffurf ystadegau
Datganiad Incwm Dogfen ariannol sy'n dangos swm yr arian y mae busnes wedi ei ennill a'i wario yn ystod cyfnod penodol
Dechrau Busnes Busnes newydd - gyda nifer fach iawn o staff, fel arfer
Deddfwriaeth Y deddfau y mae'r rhaid i fusnes gydymffurfio â nhw
Defnyddiau Traul Eitemau a ddefnyddir gan fusnes ac sy'n rhaid eu prynu yn rheolaidd (er enghraifft; pennau ysgrifennu, papur, styffylau)
Defnyddiwr Rhywun sy'n prynu ac yn defnyddio nwyddau a/neu wasanaethau
Deiliad braint Entrepreneur sy'n talu ffi er mwyn masnachu gan ddefnyddio enw a chynnyrch busnes sefydledig
Demograffig Yn ymwneud â'r boblogaeth, megis oed cyfartalog neu incwm cyfartalog
Dilys Mae'r ffeithiau sylfaenol yn gywir neu yn gadarn
Dirwasgiad Cyfnod o ddirywiad economaidd sy'n disgrifio methiant economi i dyfu am chwe mis yn olynol
Economi System cynhyrchu a defnyddio arian a nwyddau gwlad
E-Fasnach Trafodion busnes a wneir dros y we
Elw Swm y refeniw sy'n weddill ar ôl tynnu'r costau.
Elw a gedwir Yr arian y mae busnes yn ei gadw yn lle ei dalu i'r cyfranddalwyr
Elw Gros Swm elw busnes cyn didynnu'r costau
Entrepreneur Rhywun sy'n sefydlu busnes
Ffrwd Incwm Ffynhonnell incwm rheolaidd y mae busnes yn ei dderbyn. Gall fod oddi wrth gwsmeriaid neu fuddsoddwyr
Ffynhonnell Lle, person neu beth y cafwyd gwybodaeth ohono
Globaleiddio Busnes sy'n gweithredu'n rhyngwladol a chanddo ddylanwad neu rym cynyddol yn rhyngwladol
Gofal Rhesymol Ystyr hyn, yn ôl cyfraith defnyddwyr, yw cynnig gwasanaeth sy'n addas i gwsmeriaid
Gorbenion Costau penodol rhedeg busnes nad ydynt yn cael eu heffeithio gan nifer y cynhyrchion neu'r gwasanaethau sy'n cael eu gwerthu
Gorddrafft Cyfleuster sy'n cael ei gynnig gan fanc er mwyn galluogi deiliad cyfrif i fenthyca arian ar fyr rybudd os ydych yn gwario mwy o arian nag sydd ar gael
Greddf Gwybod rhywbeth yn reddfol neu ddeall rhywbeth yn rhwydd heb feddwl amdano'n ormodol
Grŵp Ffocws Grŵp o bobl sy'n adolygu cynnyrch, gwasanaeth, hysbyseb neu syniad (gellir ei wneud wyneb yn wyneb neu ar lein)
Gwahaniaethu Pan gaiff rhywun ei drin yn wahanol oherwydd nodwedd benodol megis rhywedd, ethnigrwydd, anabledd
Gwahaniaethu rhwng cynnyrch Dylunio cynnyrch ac iddo nodweddion unigryw sy'n ei wneud yn wahanol i gynnyrch tebyg sy'n cael ei werthu gan gystadleuwyr
Gwarant Mae'n cyfeirio at ased (megis tŷ, neu eiddo busnes) a gynigir yn yswiriant ar gyfer benthyciad. Os na bydd y benthyciad yn cael ei dalu, gall y credydwr hawlio'r ased.
Gwarantwr Person a enwir fydd yn gwarantu bod benthyciad yn cael ei ad-dalu os bydd y person neu'r busnes sy'n benthyca yn methu gwneud y taliadau
Gweddill Arian Parod Negyddol Pan fo'r arian parod sydd ar gael ar ddiwedd cyfnod penodol yn llai na'r arian parod ar y dechrau
Gweithred Partneriaeth Dogfen gyfreithiol sy'n diffinio telerau partneriaeth
Gwerthoedd Safonau ymddygiad neu egwyddorion moesol
Gwerthu'n rhatach Gwerthu'r un cynnyrch â chystadleuydd ond am bris is
Gwiriad Credyd Gwirio statws ariannol unigolyn neu fusnes er mwyn sicrhau bod ganddynt hanes credyd dibynadwy ac nad oes ganddynt ddyledion heb eu talu
Gwobr ariannol Yr arian y mae entrepreneur neu fuddsoddwr yn ei dderbyn os yw busnes yn llwyddo
Gwrthdaro Anghytundeb difrifol rhwng pobl, gwledydd neu syniadau
Hyfyw Dangoswyd ei fod yn gweithio'n iawn neu'n llwyddiannus
Inertia Tueddiad i osgoi newid
Llafur Gweithwyr neu'r gweithlu
Llif Arian Swm yr arian sy'n dod i mewn ac allan o fusnes ac amseriad y symudiadau
Marchnad Darged Grŵp penodol o ddefnyddwyr y mae cwmni yn anelu ei gynnyrch a'i wasanaethau tuag atynt
Masnachfraint Pan fo busnes yn rhoi caniatâd i fusnes arall fasnachu gan ddefnyddio ei enw yn gyfnewid am ffi neu gyfran o'r elw
Menter Gweithgarwch entrepreneuraidd. Fe'i defnyddir weithiau i ddisgrifio cwmni neu fusnes.
Methdalwr Methu talu dyledion a/neu mae arno fwy o arian i eraill nag sydd arno eraill iddo yntau.
Mewnforion Llif nwyddau a gwasanaethau i mewn i wlad o wledydd eraill
M-Fasnach Trafodion busnes sy'n cael eu gwneud trwy dechnoleg symudol (er enghraifft: ffonau clyfar neu lechi)
Moeseg Egwyddorion neu safonau moesol sy'n llywio ymddygiad person neu fusnes
Nifer yr ymwelwyr Nifer y bobl sy'n mynd trwy leoliad penodol yn ystod cyfnod penodol
Nodwedd warchodedig Nodweddion ymgeisydd na ellir eu defnyddio i'w gwrthod, megis beichiogrwydd, rhywedd, crefydd
Nwyddau Cyfleus Cynnyrch y mae cwsmer yn ei brynu yn aml neu fel rheol
Nwyddau Da Cynnyrch y mae cwsmer yn cymryd amser i feddwl amdano cyn ei brynu
Partneriaeth Busnes sy'n eiddo i grŵp o ddau neu ragor o bobl sy'n rhannu'r risg ariannol, y penderfyniadau a'r elw
Platfform Taliadau Yn galluogi busnes i gymryd taliadau ar-lein. Mae'n rhad ac am ddim i'r cwsmer, fel arfer, ond mae'n cymryd comisiwn bach oddi wrth y gwerthwr
Pwynt adennill costau Y pwynt y mae'r holl gostau yn cael eu hadennill gan y refeniw a dderbynnir
Pwynt Gwerthu Unigryw (USP) Rhywbeth sy'n gwneud i gynnyrch ragori ar gynnyrch y cystadleuwyr
Refeniw Yr arian y mae busnes yn ei ennill trwy werthiannau
Refeniw Gwerthiant Yr arian a ddaw o'r gwerthiant
Refeniw Rhagolygol Rhagfynegi refeniw yn y dyfodol ar sail gwerthiant disgwyliedig (a bennir yn ôl synnwyr cyffredin neu ar sail gwerthiant blaenorol)
Rhagfarnllyd Caniatáu i ddylanwadau effeithio ar benderfyniadau gan arwain at dystiolaeth a gyflwynir yn annheg
Rhanddeiliad Person a chanddo ddiddordeb mewn gweithgareddau busnes, megis cyflogeion/cyflenwyr/cyfarwyddwr/y gymuned leol/y llywodraeth
Rhyfel Prisiau Pan fo busnesau sy'n cystadlu â'i gilydd yn ceisio cynnig prisiau rhatach na'i gilydd byth a beunydd. Dim ond y defnyddiwr sy'n elwa o hyn.
Risg Y posibilrwydd y bydd gan fenter elw is neu golled
Sampl Rhan o'r boblogaeth y gofynnir iddi am ei barn er mwyn dod i gasgliad am ymddygiad y boblogaeth gyfan
Segmentiad Proses torri rhywbeth i lawr yn rhannau llai
Siambr Fasnach Cymdeithas leol ac iddi'r nod o hyrwyddo buddiannau'r busnesau mewn rhanbarth neu sir
Siec Taliad ysgrifenedig o gyfrif banc i berson neu fusnes penodol
Telerau'r Taliad Y cyfnod sydd gan fusnes i dalu ei gyflenwyr
Teyrngarwch Dymuno cefnogi'r un person neu beth bob amser
Topograffi Nodweddion ffisegol tirwedd (er enghraifft; gwastad, bryniog, trefol, gwledig)
Treth Cyfran o incwm unigolyn o elw busnes y mae'n rhaid ei thalu i'r llywodraeth
Unig Fasnachwr Busnes heb ei ymgorffori a chanddo un perchennog
Y Farchnad Y gweithgareddau sydd ynghlwm wrth brynu a gwerthu mathau penodol o nwyddau a gwasanaethau trwy gystadlu â chwmnïau eraill
Ymchwil i'r Farchnad Proses o gasglu gwybodaeth am y farchnad a chwsmeriaid er mwyn helpu i wneud penderfyniadau busnes cytbwys