Cystadleuaeth Animeiddio

English

Cystadleuaeth Animeiddio: Straeon am Aberystwyth

Fel rhan o'n dathliadau 150 mlwyddiant, mae Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cystadleuaeth i greu fersiwn wedi'i hanimeiddio o stori am Aberystwyth.

Calendr Gweithdai

Byddwn yn cynnal cyfres o weithdai cyhoeddus ar gyfer pob oed ar sut i greu animeiddiadau Scratch, gweler isod am wybodaeth.

Manylion y Gystadleuaeth

Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno ceisiadau i Gystadleuaeth Animeiddio Pen-blwydd Prifysgol Aberystwyth yn 150 oed.

Caiff yr animeiddiadau gorau eu dangos ar y sgrin fawr yn Sinema Canolfan y Celfyddydau ar 29 Ebrill 2023.

Mae 4 categori ar gyfer y gystadleuaeth hon:

  1. Animeiddio â Scratch: Grŵp oedran Ysgolion Cynradd
  2. Animeiddio â Scratch: Grŵp oedran Ysgolion Uwchradd
  3. Animeiddio â Scratch: Agored i bob oed
  4. Animeiddio Cyffredinol (defnyddio unrhyw feddalwedd/cyfrwng heblaw Scratch): Agored i bob oed

Rheolau

Sut i Gystadlu

Y dyddiad olaf i gyflwyno yw dydd Sul 9 Ebrill 2023

O ran animeiddiadau Scratch, gofynnwn i chi:

Ar gyfer animeiddiadau cyffredinol, gofynnwn i chi:


Ffurflen Gais y Gystadleuaeth

Canllawiau Animeiddio Scratch

Rydym wedi llunio Llawlyfr Straeon Scratch i helpu i arwain dechreuwyr drwy'r broses adrodd straeon o'r bwrdd stori i raglennu Scratch.

Llawlyfr Straeon Scratch (.pdf)

Rhagor o Adnoddau

Rydym yn cynnig nifer o weithdai/sgyrsiau/adnoddau addysgol ar gyfer pob oed. Ewch i'n Hwb Allgymorth i gael rhagor o wybodaeth.

Mae ein hadnoddau ar-lein yn cynnwys gweithgareddau Scratch ychwanegol ar gyfer Gwneud Gêm Ofod a Chreu Gêm Pêl Rodli.