Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio i ddatblygu sgiliau hyder, gwaith tîm, arwain a chyflogadwyedd myfyrwyr.
Rhoddir nifer o dasgau gwahanol i'r timau fel cyfeiriadu, prosiect 'Dragons Den', a chyflwyno bwletin newyddion.
Ceir sesiwn adborth ar ôl pob gweithgaredd i helpu myfyrwyr i nodi ac adeiladu ar eu hoff set sgiliau gwaith tîm ac arwain.
Rydym ni'n darparu swyddog cyflwyno, staff atodol a'r holl ddeunyddiau.
Mae siartiau troi'n fuddiol i'r sesiwn hon, os oes rhai ar gael.
Rydym ni'n gofyn am fan sy'n addas ar gyfer sgwrsio a gweithgaredd grŵp, ynghyd ag un neu ddwy ystafell drafod (gan ddibynnu ar y nifer o fyfyrwyr sy'n cymryd rhan)
Gall y gweithdy hwn fod yn awr, dwy awr, hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan.
Mae'r gweithgareddau hyn yn addas i fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch.
Nid yw'r gweithgaredd hwn yn addas i'w gyflwyno'n rhithwir.
Mae gennym amrywiol weminarau Safon Uwch, gydag ymarferion, ar adran Busnes yr Hwb Allgymorth. Mae'r rhain hefyd ar gael i'w lawrlwytho drwy'r siop TES.