Creu Gwefannau

English

Creu Gwefannau

Sesiynau sy'n edrych ar sut i ddylunio a chreu gwefan drwy ddefnyddio HTML, CSS a JavaScript.

Erbyn hyn mae'n gymharol hawdd llunio gwefan gan ddefnyddio templedi wedi'u diffinio ymlaen llaw gydag offer golygu sy'n rhoi mynediad rhwydd. Mae'r casgliad hwn o weithdai yn mynd â disgyblion y tu ôl i'r llenni, gan roi modd iddynt gael rheolaeth lwyr dros y dyluniad, yn ogystal â'r cynnwys.

I gael sgwrs neu archebu hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym yn darparu swyddog cyflwyno, cyflwyniadau PowerPoint, a lletya'r gwe-dudalennau ar weinyddion y Brifysgol.

Os oes angen, mae gennym hefyd 15 gliniadur y gallwn ddod â nhw gyda'r feddalwedd ofynnol wedi'i gosod ymlaen llaw.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Sgrin neu daflunydd ar gyfer y cyflwyniad PowerPoint.

Yn ddelfrydol, mae hwn yn fwyaf addas ar gyfer ystafell gyfrifiaduron sydd â digon o gyfrifiaduron ar gyfer o leiaf un rhwng dau.

Mynediad i'r rhyngrwyd ar gyfer rhannu ffeiliau i'w lanlwytho i weinydd at ddibenion profi.

Os mai chi sy'n darparu'r cyfleusterau cyfrifiadurol, gwnewch yn siŵr bod golygydd addas wedi'i osod arnynt. Rydym yn argymell Visual Studio.

Mae'n bosibl defnyddio golygydd testun fel Notepad neu WordPad os na allwch osod yr uchod, ond nid yw'r rhain mor hawdd eu defnyddio.

Hyd y gweithdy

Mae pob sesiwn yn para 60 munud ac mae tair sesiwn craidd ar gael: Ysgrifennu, Creu Arddull a Rhaglennu Tudalennau ar y We.

Rydym yn tueddu i ddarparu ar gyfer yr union gynnwys a nifer y sesiynau yn unol ag anghenion amcanion y prosiect.

Grwpiau oedran

Rydym yn argymell hwn ar gyfer disgyblion uwchradd a chweched dosbarth. Rydym yn newid y cynnwys a'r sgaffaldiau yn ôl y grŵp oedran perthnasol.

Mae'n bosibl gwneud fersiwn sylfaenol ragarweiniol o bob un ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 (9-11 oed) trwy ddefnyddio templedi sy'n bodoli eisoes.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Cynigir y gweithdai hyn yn unigol, yn eu cyfresi bychain eu hunain, neu fel rhan o brosiect mwy o faint.

Mae dylunio gwefan yn cyd-fynd â rhai o'n Gweminarau Busnes Safon Uwch (megis marchnata ac/neu frandio) sydd ar gael i'w lawrlwytho yn ddi-dâl o'n siop TES.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Rydym yn gallu cynorthwyo'r sesiynau hyn o bell trwy Teams neu Zoom. Bydd hyn yn gofyn am sgrin gyflwyno neu daflunydd, meicroffon, seinyddion a gwe-gamera.

Bydd angen i fyfyrwyr gael mynediad at gyfrifiadur (o leiaf un rhwng dau ohonynt), y feddalwedd a chysylltiad rhyngrwyd.

Tudalennau Wwe wedi'u Creu gan Fyfyrwyr

Defnyddiodd Clwb Roboteg Aberystwyth y deunydd hwn i gynhyrchu eu tudalennau gwe eu hunain. Cliciwch ar sgrinlun isod i ymweld â'u tudalen.