English

Her Cryptograffeg

Mae'r gweithdy hwn yn cyflwyno myfyrwyr i gryptograffeg. Mae'r gweithgaredd yn cynnwys detholiad o seiffrau amnewid clasurol, seiffrau trawsleoli a steganograffi. Mae'r her olaf yn cynnwys dadgryptio neges yn defnyddio seiffr XOR.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym ni'n darparu swyddog cyflwyno a'r holl adnoddau ar gyfer y gweithgaredd

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Taflunydd i gyflwyno ein sleidiau PowerPoint.

Pensiliau, dilewyr a phapur sgrap i'r myfyrwyr eu defnyddio wrth geisio dadgryptio.

Hyd y gweithdy

Yn ddelfrydol byddem ni'n argymell 90 - 120 munud i'r gweithgaredd. Gallwn addasu'r nifer o heriau i gyfnod byrrach, neu ollwng y sgwrs gyflwyniadol ar seiffrau (gan ddibynnu ar y taflenni a ddarperir yn lle).

Grwpiau oedran

Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr TGAU a Safon Uwch.

Gallwn gynnig gweithgaredd 'datrys y cod' i fyfyrwyr iau.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Nid yw'r gweithdy hwn ar gael i'w gyflwyno'n rhithwir.

Bydd fersiwn pecyn dosbarth o'r gweithdy ar gael yn fuan yn ein siop TES.

Mae gennym adnodd addysgu am ddim ar TES o'r enw CBAC Cryptograffeg - pecyn gwersi ar y cwricwlwm Safon Uwch Cyfrifiadureg yw hwn.