Gan blymio i mewn i bosau mathemategol rhyfedd, mae'r gweithdy hwn yn edrych ar annhroseiddiwch a rhyfeddodau Stribedi Möbius.
I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.
Rydym ni'n darparu swyddog cyflwyno, cyflwyniad PowerPoint, a deunyddiau gweithdy.
Bydd angen taflunydd i gyflwyno ein sleidiau PowerPoint.
Pensiliau, dilewyr, papur sgwariau a phapur sgrap.
Gall y sesiwn fod yn 60, 90 neu 120 munud. Mae'r amser sydd ar gael yn pennu'r amser sydd ar gael i ymchwilio i'r rhyfeddodau hyn. Gellir ei fyrhau i 30 munud os mai dim ond Stribedi Möbius neu annhroseiddiwch yn unig a drafodir.
Gellir targedu hwn at CA3 (oed 11-13), dysgwyr TGAU a/neu Safon Uwch.
Mae'r sesiwn wedi'i chynllunio i hybu diddordeb mewn rhyfeddodau mathemategol. Nid oes angen unrhyw sgiliau mathemategol penodol.
Nid yw'r gweithdy hwn ar gael i'w gyflwyno'n rhithwir.