Diemwntau

English

Diemwntau

Nodweddion diemwntau a sut maen nhw'n cael eu defnyddio mewn technoleg newydd.

I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Ynghyd â swyddog cyflwyno, rydym yn darparu cyflwyniad PowerPoint ac uned arddangos dewisol fel cymorth addysgu.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Sgrin fawr neu daflunydd i ni ddangos ein cyflwyniad PowerPoint arno.

Hyd y gweithdy

Mae'r sesiwn hwn yn para 60 munud.

Grwpiau oedran

Mae'r gweithdy hwn yn dechrau trwy adolygu/fynd dros ddeunydd cwricwlwm TGAU ynghylch alotropau carbon. Mae hyn yn golygu ein bod yn argymell hwn ar gyfer blynyddoedd 11-13 (sef 15-18 oed).

Cysylltiad â gweithdai eraill

Mae ein hadran ffiseg yn cynnig sgwrs 'Gyrfaoedd mewn Ffiseg' sy'n sôn am rywfaint o'r ymchwil a wneir ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gynnwys ein gwaith gyda diemwntau mewn ffiseg faterol.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Rydym yn hapus i wneud y cyflwyniad hwn o bell trwy offer cynadledda Teams neu Zoom. Bydd hyn yn gofyn am sgrin fawr neu daflunydd wedi'i gysylltu â seinyddion, meicroffon a gwe-gamera.

Neu mae gennym daflen waith sylfaenol TGAU ar ddiemwntau sydd ar gael i'w lawrlwytho yn rhad ac am ddim trwy ein Siop ar TES neu ar ein Hwb Allgymorth - gweler tudalen Lluniadau Carbon.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Mewn digwyddiadau cyhoeddus rydym yn aml yn defnyddio ein model arddangos sy'n goleuo, ynghyd ˆ detholiad o bosteri arddangos.

Ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 7-10 (sef 11-14 oed) gallwn gynnig sesiwn bersonol sy'n mynd dros y cynnwys sydd yn ein gweithdy ar-lein 'Glo yn erbyn Diemwntau'.