Does bosibl fod mathemateg yn y lolfa?
Wel, eisteddwch yn gyfforddus ac fe awn ni â chi ar daith rhifedd...
Mae yna nifer o ffilmiau Saesneg sydd â thema fathemategol, sef ffilmiau fel 'The Imitation Game', 'A Beautiful Mind', 'Proof' a 'Good Will Hunting'.
Felly, os byddaf yn cadw draw o'r ffilmiau hyn a gwylio rhywbeth arall, fydd dim mathemateg?
Beth am y rhifedd sy'n gysylltiedig â chynllunio noson ffilm, neu geisio ffitio un i mewn i amserlen benodol?
Mae pob ffilm (boed wedi'i ffrydio neu mewn bocs), yn cynnwys manylion ynghylch hyd y ffilm. Yr anhawster am hyn yw bod pa mor hir maen nhw'n para yn aml wedi'i ysgrifennu mewn munudau yn hytrach nag oriau, felly mae angen ychydig o fathemateg i ddarganfod a oes gennych chi'r amser i'w gwylio.
Mae mater amseru tebyg yn codi wrth wylio cyfres deledu, sawl pennod gyfan sydd gennych amser i'w gwylio?
Peidiwch ag anghofio, bydd y senarios hyn hefyd yn cynnwys gorfod amcangyfrif faint o amser sydd ei angen ar gyfer mynd i'r tŷ bach neu i'r gegin, yn ogystal â'r symud o un bennod i'r llall. Po fwyaf o bobl sy'n gwylio, yr amlaf fydd y codi i fynd allan, ac felly yr hiraf fydd cyfanswm yr oedi wrth wylio'r ffilm.
Mae'n eithaf hawdd anghofio am y defnydd symlaf ar rifedd - megis y gallu i adnabod eich oedran eich hun ac a yw ardystiad ffilm yn golygu bod y ffilm yn addas i chi ei gwylio ai peidio.
Bydd y mwyafrif o ystafelloedd byw yn cynnwys rhyw fath o gelf yn cael ei harddangos.
Beth sydd gan gelf i'w wneud â maths?
Fel y nodwyd yn yr adran uchod, mae'n hawdd anghofio am rai sgiliau mathemategol, efallai oherwydd eu symlrwydd, neu efallai oherwydd nad ydym yn chwilio amdanynt.
Mae adnabod siapiau yn sgìl fathemategol ar lefel sylfaenol iawn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddysgu yn ifanc iawn. Mae gwybodaeth am siapiau yn sail i'r mwyafrif o ffurfiau celf.
Heb wybod yn union pa gelf sydd yn eich ystafell fyw chi, fe edrychwn ar rai enghreifftiau.
Er mwyn cynhyrchu paentiad realistig, mae angen i'r artist feddu ar ddealltwriaeth o cyfraneddau a phersbectif.
Mae unrhyw beth sydd wedi'i gynhyrchu i apelio yn amlwg i'r llygad wedi'i ddylunio yn defnyddio'r Gymhareb Aur (Golden Ratio).
Mae fasys/ffiolau neu waelod lamp fel arfer yn ymgorffori cymesuredd (symmetry).
Mae chwyddo (magnification) a ffocws yn bwysig i ffotograffwyr proffesiynol.
Mae rhai deunyddiau celf yn gofyn am wybodaeth am gymarebau er mwyn gallu eu cymysgu'n gywir.
Roedd hyd yn oed bwrdd coffi neu gadair freichiau angen mathemateg yn eu dyluniad i sicrhau eu bod o faint ac uchder addas i'r rhan fwyaf o bobl eu defnyddio'n gyfforddus.
Er nad oes angen y sgiliau hyn arnoch i weld/defnyddio/mwynhau darnau o'r fath, byddai ein hymennydd yn sylweddoli petai'r fathemateg yn anghywir, gan arwain at bethau'n edrych yn 'anghywir'.
Mae rhai artistiaid yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynhyrchu rhithiau pwrpasol.
O ran gemau cyfrifiadur, gweler y dudalen Mathemateg yn y Stydi.
Mae yna amrywiaeth eang o wahanol fathau o gemau ar gael ar gyfer pob oedran. Mae'r rhain yn cynnwys gemau bwrdd clasurol, gemau cardiau, gemau pen-bwrdd yn ogystal â gemau sylfaenol i'r meddwl ac ar bapur.
Mae'r rhan fwyaf o gemau'n golygu bod yr enillydd yn cael y sgôr uchaf neu isaf, mae rhai hyd yn oed yn cynnwys cyfrif pwyntiau sawl gwaith yn ystod y gêm.
Byddai unrhyw chwaraewr mewn gêm sy'n cynnwys dis neu chwarae cardiau, yn elwa o ddeall tebygolrwydd.
Mae gemau pen-bwrdd hefyd yn gallu cynnwys matricsau, ystadegau a mesur.
Mae rhai gemau yn cynnwys arian cyfred fel rhan o'r chwarae, gyda rhai hefyd yn cynnwys cyfraddau llog, morgeisi ac/neu bensiynau.
Mae hyn yn golygu bod gemau yn aml yn ffordd dda o ymarfer sgiliau rhifedd sylfaenol yn ogystal â chael hwyl.
Edrychwch ar ba gemau sydd gennych chi ac yna ceisiwch feddwl pa rai sy'n cynnwys y mwyaf o fathemateg yn eich barn chi, pam?
Gobeithio eich bod yn dechrau sylweddoli ein bod ni'n defnyddio sgiliau mathemateg sylfaenol o ddydd i ddydd heb hyd yn oed feddwl am y peth.
Pwy sydd ddim yn gwybod y lle gorau i wylio'r teledu yn eu hystafell fyw? Fe allech chi ddweud mai drwy symud o gwmpas y daethoch i sylweddoli hyn, ond gallwn ni i gyd ddyfalu drwy ystyried ongl y gwylio a'r pellter o'r sgrin.
Ni fyddai unrhyw un hyd yn oed yn ystyried mai yn bell ar ochr y sgrin fyddai'r lleoliad gwylio gorau.
Dylai'r ongl wylio, y pellter gorau posibl ac eglurder y sgrin fod â rôl wrth brynu teledu hefyd. Mae angen i chi ddeall cynllun eich ystafell fyw, lleoliad y teledu a sut mae gwahanol fathau o sgrin yn effeithio ar y ffactorau hyn.
Gall pob un ohonom gytuno ar y syniad o deledu sy'n rhy fach, ond a yw hi hefyd yn bosibl i'r teledu fod yn rhy fawr?
Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael system sain allanol, boed ar gyfer stereo neu deledu, ble ddylech chi osod y seinyddion/unedau sain? Unwaith eto, gallai rhoi cynnig ar sawl lleoliad fod yn ddull llafurus o ddatrys y broblem hon. Dull haws yw defnyddio gwybodaeth sylfaenol am ffiseg sain.
Rydych fel rheol yn cael cyfarwyddiadau gyda systemau sain allanol sy'n esbonio'r lleoliad gorau ar eu cyfer, er mai anaml y mae hyn yn bosibl gan ei fod yn dibynnu ar gynllun eich lolfa a'r dodrefn, felly mae angen rhywfaint o ddealltwriaeth i fynd i'r afael orau â'r materion hyn.
Sut fyddech chi'n ystyried trefnu system amgylchynol, sy'n cynnwys pedwar seinydd a seinydd isel (sub-woofer), yn eich ystafell fyw? Yna, ystyriwch pam rydych chi wedi dewis y safleoedd hynny.
Mae rhan olaf yr adran hon yn edrych ar yr ychwanegiad newydd i rai cartrefi, sef offer AR (Realiti Estynedig) a VR (Realiti Rhithwir)d.
Mae sefydlu Kinect, Wii, neu Move yn golygu penderfynu ble yw'r lleoliad gorau ar gyfer y bar synhwyrydd. Mae hyn yn dilyn egwyddorion tebyg i'r system sain yr ydych wedi'i gosod. Ni fyddech yn ystyried y llawr neu'r nenfwd fel mannau da i'w osod, pam?
Er mwyn defnyddio unrhyw offer fel y rhain, mae'n rhaid i chi gael man diogel lle na fyddwch chi'n anafu eich hun yn ddamweiniol nac yn difrodi unrhyw beth arall. Rydym i gyd yn gallu amcangyfrif faint o le y mae angen i ni ei glirio i sicrhau hyn.
Nodyn bach wrth fynd heibio, rydym i gyd yn gallu barnu pryd rydym yn debygol o daro rhywbeth, neu gael ein taro, a byddwn yn awtomatig yn ceisio osgoi'r gwrthdrawiad. Mae hyn yn golygu ein bod yn gwneud cyfrifiadau mathemateg a ffiseg heb feddwl am y peth er mwyn osgoi anaf corfforol.
Mae pob math o logisteg neu drefnu yn cynnwys rhyw fath o rifedd. Mae hyn yn cynnwys trefnu llefydd a mannau yn y cartref, cael cynllun addas i'r seddi mewn ystafell i ystyried canolbwyntiau fel teledu neu fwrdd.
Un camgymeriad sy'n cael ei wneud yn aml yw ystyried sut i gael dodrefn i mewn i ystafell. Soffas a gwelyau yw'r prif dramgwyddwyr ar gyfer problemau wrth eu cael i mewn i'r tŷ ac yna i mewn i'r ystafell gywir.
Os oes gennych soffa, meddyliwch sut y cyrhaeddodd ei safle presennol.
Os ydych chi'n cynnal noson ffilm gyda ffrindiau er enghraifft, bydd angen i chi feddwl pa drefniant fyddai orau i bawb eistedd yn gyfforddus o ystyried y lle a'r dodrefn sydd ar gael i chi.
Mae trefnu'r digwyddiadau hyn, hyd yn oed ar gyfer diod bach a phopgorn, yn gofyn am ddefnyddio rhifedd sylfaenol i sicrhau bod gennych chi ddigon o luniaeth/bwyd i bawb sy'n dod, ond dim gormod rhag gorfod taflu unrhyw beth yn y pen draw.
Ceisiwch ddarganfod y nifer uchaf o bobl y gallech eu cael yn eich ystafell fyw (gyda phellter cymdeithasol a hebddo) wrth gael pob un ohonynt yn gallu gweld y sgrin deledu yn glir. Peidiwch ag anghofio y bydd angen lle diogel arnyn nhw i gyd hefyd i roi eu diodydd i lawr er mwyn osgoi eu tollti ar y llawr.
Ydyn ni wedi anghofio am rywbeth?
Os do, yna rhowch wybod i ni drwy yrru neges i nar25@aber.ac.uk.