Heriau Mathemategol 5

Cymraeg

Heriau Mathemategol 5


1: Pos Gweithrediadau Sylfaenol

Rydw i yn rhif dau ddigid. Rwy'n gyfartal â swm fy nigidau wedi'u lluosi â chwech. Pa rif ydw i?

Ysgrifennwch dabl 6 nes i chi ganfod yr ateb sy'n bodloni'r meini prawf

54 (5 + 4 = 9, 9 x 6 =54)

Canrannu

Cododd prisiau 2% yn 2003, 3% yn 2004 a 2.5% yn 2005.

Os oedd eitem yn costio £32 ar ddechrau 2003, beth fyddai'r gost ar ddiwedd 2005?

O "Foundation GCSE Mathematics For WJEC: Homework Book"

Cofiwch: Bydd y cyfanswm rydych yn cyfrifo'r canran ohono yn newid ar ôl pob blwyddyn.

Dechreuwch gyda £32

Yn 2003 mae'r pris yn mynd i fyny i:
32 + (32 ÷ 100 x 2) = £32.64

Yn 2004 mae'r pris yn mynd i fyny i:
32.64 + (32.64 ÷ 100 x 3) =£33.62 (i'r geiniog agosaf)

Yn 2005 mae'r pris yn mynd i fyny i:
33.62 + (33.62 ÷ 100 x 2.5) = £34.46 (i'r geiniog agosaf)

Hwyl i Bob Oed

Grid chwilio am rifau
Fersiwn Excel o'r grid chwilio am rifau i raglenni darllen sgrin

Chwiliwch am y rhifau isod yn y grid.
Gall y rhifau fod mewn unrhyw gyfeiriad: am yn ôl, ymlaen, i fyny, i lawr, neu ar letraws.

128036 438795 638358
132798 456405 658582
170596 466855 689972
247495 473829 782657
257669 488671 826867
274797 489151 855033
376203 524548 865664
389980 606563 868369
400950 608607 954445
414663 626528 989895

Fersiwn Pdf ar gael

O www.puzzles-to-print.com

4: Cadw AmserTebygolrwydd

Mae Dafydd yn hwyr 60% o'r amser pan fo'n bwrw glaw a 30% o'r amser pan fo'n sych. Mae'n bwrw glaw ar 25% o ddiwrnodau.

Canfyddwch y tebygolrwydd:

  1. Ei bod hi'n bwrw a'i fod e'n hwyr
  2. Ei fod yn hwyr

Addaswyd o "Higher GCSE Maths" gan Michael White

Ystyriwch ddefnyddio coeden debygolrwydd i'ch helpu gyda hyn. Ceir rhagor o wybodaeth am ddiagramau coed tebygolrwydd ar wefan Maths is Fun .

Coeden tebygolrwydd canlyniadau:

probability tree
  1. Bwrw glaw ac yn hwyr
    tebygolrwydd = 0.25 x 0.6 = 0.15 or 15%

  2. Hwyr
    tebygolrwydd = (0.25 x 0.6) + (0.75 x 0.3) = 0.375 or 37.5%

5: Creithiau'r FrwydrCyfuniadau

Cafodd grŵp o hanner cant o filwyr yr anafiadau canlynol mewn brwydr:

  • Collodd 36 lygad,
  • Collodd 35 glust,
  • Collodd 40 goes,
  • Collodd 42 fraich

Beth yw'r isafswm o filwyr sydd wedi cael y pedwar anaf?

Addaswyd o: "Einstein's Riddle" gan Jeremy Stangroom

Ystyriwch nifer yr anafiadau o'i gymharu â nifer y milwyr.

Cyfanswm yr anafiadau = 36 + 35 + 40 + 42 = 153
Cyfanswm y milwyr = 50
150 ÷ 50 = 3 gyda gweddill o 3.
Felly, roedd lleiafswm o dri milwr wedi cael bob un o'r pedwar anaf.