Allwch chi warchod wy rhag cael ei ddifrodi pan fydd pwysau yn cael ei ollwng arno?
Noder y dylid gwneud y gweithgaredd y tu allan ac o dan oruchwyliaeth oedolyn.
Y her yw adeiladu adeiledd a fydd yn stopio wy rhag torri os bydd bricsen (neu bwysau arall sydd ar gael) yn cael ei ollwng arno.
Bydd angen i chi feddwl pa siapiau neu ffurfiau fydd yn darparu cryfder a/neu glustog.
Cewch ddefnyddio papur a thâp selo yn unig.
Mae gennych 30 munud i adeiladu eich adeiledd.
Ni ddylid rhoi'r wy y tu mewn i'r adeiledd nes ei bod hi'n amser cynnal yr arbrawf.
Dylai'r arbrawf gael ei gynnal gan oedolyn cyfrifol.
Ffilmiwch y cam hwn os yw'n bosibl, bydd yn eich helpu wrth chwarae'r fideo yn ôl i ddeall beth weithiodd/na weithiodd a pham.
Fel y soniwyd uchod, mae'n rhaid i oedolyn cyfrifol gynnal yr arbrawf i osgoi anafiadau.
Dylai pwysau a maint y gwrthrych sy'n cael ei ollwng fod yn debyg i fricsen arferol.
Dylid gollwng y 'fricsen' o uchder eich canol (gwast)
Gwnewch yn siŵr fod yr ardal ollwng a'r gofod o'i chwmpas yn glir a diogel - mae'n bosibl y bydd y 'fricsen' yn bownsio.
Pan fyddwch wedi llwyddo i gwblhau'r dasg uchod, efallai yr hoffech roi sialens bellach i'ch hun. Dyma rai syniadau sut i wneud hyn:
Lleihau faint o bapur a ddefnyddir a/neu roi cynnig ar yr arbrawf heb y tâp selo.
Cynyddu nifer yr wyau y mae'n rhaid i'r adeiledd eu diogelu.
Cynyddu'r uchder gollwng neu'r pwysau a ddefnyddir, yn ddiogel.