Mathemateg Tun Siocled
Silouhette of santa's sleigh

English

Mathemateg Tun Siocled

Mae llawer math o wahanol duniau siocled ar gael i'w prynu adeg y Nadolig, ond pa un sydd orau i chi a'ch teulu?

Mae hyn yn fwy na mater o'r gwahanol flas y mae aelodau eich teulu yn eu hoffi, ond faint ohonynt sydd yn y gymysgedd.

Rydych yn gobeithio, yn un o'r tuniau hyn, y byddai gennych yr un nifer o bob un blas.

Yn anffodus, dyw hyn ddim yn wir.

Isod mae siartiau cylch yn dangos ar gyfartaledd sawl un o bob blas sydd ym mhob un o'r pedwar tun sy'n gwerthu fwyaf.

Siart cylch yn dangos cynnwys tun o Celebrations. Mae'n dangos fod y bocs cyfartalog wedi ei ffurfio o; 11% Maltesers, 11% Bounty, 18% Milky Way, 9% Twix, 17% Mars, 17% Snickers, 9% Galaxy, 8% Galaxy Caramel.
Siart cylch yn dangos cynnwys tun o Heroes. Mae'n dangos fod y bocs cyfartalog wedi ei ffurfio o; 8% Twirl, 11% Dairy Milk, 8% Wispa, 11% Crunchie, 11% Dairy Milk Caramel, 10% Fudge, 13% Creme Egg Twisted, 13% Dinky Decker, 15% Cadbury Eclair.
Siart cylch yn dangos cynnwys tun o Quality Street. Mae'n dangos fod y bocs cyfartalog wedi ei ffurfio o; 7% Milk Chocolate Block, 6% Green Triangle, 8% The Purple One, 8% Orange Crunch, 8% Caramel Swirl, 15% Strawberry Delight, 11% Fudge, 6% Chocolate Caramel Brownie, 8% Toffee Finger, 13% Orange Creme, 10% Coconut Eclair
Siart cylch yn dangos cynnwys tun o Roses. Mae'n dangos fod y bocs cyfartalog wedi ei ffurfio o; 10% Golden Barrel, 10% Dairy Milk, 10% Hazel Whirl, 11% Hazel in Caramel, 7% Signature Truffle, 16% Caramel, 11% Strawberry Dream, 9% Tangy Orange Creme, 16% Country Fudge.

Cynhyrchwyd y graffiau hyn gyda data a gymerwyd o www.confectionerynews.com


Her Heddiw

Llwyddodd Siân i gael bargen dda ar focs 2.4kg ail-lenwi o Celebrations. Roedd hi eisiau gwybod a oedd yr un canrannau yn wir am focs mwy.

Fe welir isod gymhariaeth rhwng y tun a'i bocs hi.

Ailadrodd y siart cylch isod am dun o Celebrations
Siart cylch am focs  2.4kg Siân o Celebrations. Mae wedi ei ffurfio o; 12% Maltesers, 14% Bounty, 16% Milky Way, 8% Twix, 19% Mars, 15% Snickers, 8% Galaxy, 8% Galaxy Caramel.

Mae tun o Celebrations yn dal 60 siocled, a'r bocs a brynodd Siân yn cynnwys digon i ail-lenwi 4 tun yn llawn.

  1. Faint mwy o Mars gaiff hi yn y bocs o gymharu â phetai'n prynu 4 tun?

  2. Faint o Twix wnaiff hi golli petai'n prynu bocs yn lle 4 tun?

  3. Hoff rai ei theulu yw Milky Way, Bounty, a Snickers. Beth yw'r dewis gorau iddynt brynu (y bocs neu 4 tun)? Faint mwy fyddai ganddynt yn y dewis gwell?

Her ychwanegol

A yw eich bocs o siocledi yn gyfartalog?

Os ydych yn ddigon ffodus i gael tun neu focs o un o'r cymysgeddau hyn, a yw'n gyfartalog? A allwch gynhyrchu eich siart cylch eich hun er mwyn cymharu?

Nadolig Llawen!