Cwcis Nadolig
Silouhette of santa's sleigh

English

Cwcis Nadolig

Mae Llŷr yn wastad yn pobi cwcis ei hun i'w rhoi allan i Siôn Corn ar Noswyl Nadolig.

Eleni, mae eisiau gwneud hoff gwcis Siôn Corn. Ond nid yw'n gwybod pa rai ydynt.

Felly mae Llŷr yn ysgrifennu at Siân Corn i holi.

Mae Siân Corn wrth ei bodd derbyn cais mor garedig, ac y mae'n cytuno i helpu.

Ond mae problem fach. Mae Sian Corn yn gwneud y cwcis hyn trwy ddefnyddio swyn.

Y peth am swyn yw bod yn rhaid iddi wybod union gynhwysion y cwci i wneud i un ymddangos trwy hud.

Mae Siân Corn yn ysgrifennu'r rysáit ac yn ei anfon at Llŷr

Annwyl Llŷr

Diolch am y llythyr hyfryd. Chwarae teg i ti am fod mor hynod o garedig a meddwl am bobi hoff gwcis Siôn Corn eleni.

Rwyf wedi nodi'r cynhwysion isod.

Rysáit Hoff Gwcis Siôn Corn

Mae un cwci yn cynnwys:

  • 6g menyn neu daeniad meddal

  • 916g siwgr caster

  • 130 wy

  • 130 melynwy

  • 130llwy de rhinflas fanila

  • 130llwy de sinamon

  • 130llwy de nytmeg

  • 10g blawd plaen

Gobeithio y bydd hyn o help. Pob hwyl a Nadolig Llawen

Llawer o gariad

Siân Corn




Yr her

Mae ar Llŷr angen eich help i raddio'r rysáit i fyny er mwyn gwneud swp o gwcis. A sut bynnag, sut yn y byd y gall fesur 130 o wy?

Allwch chi ail-ysgrifennu'r rysáit i wneud 30 cwci?

Cyfarwyddiadau pobi

Wedi trio sawl gwaith i greu'r cwcis hyn, mae Llŷr o'r diwedd wedi gweithio allan y ffordd orau i'w gwneud.

Fe welwch isod y cyfarwyddiadau pobl i'r rysáit hwn i chi drio eu gwneud gartref.

Gwnewch yn siŵr fod gennych ganiatâd oedolyn cyfrifol fydd yn eich goruchwylio.

  1. Chwisgiwch y menyn nes ei fod yn feddal (mae cymysgwr trydan o help os oes gennych un).

  2. Ychwanegwch y siwgr yn raddol wrth i chi barhau i chwisgio.

  3. Daliwch ati i chwisgio nes bod y gymysgedd yn ysgafn a fflwfflyd.

  4. Trowch yr wy, y melynwy, rhinflas fanila, sinamon a nytmeg i mewn gyda llwy bren.

  5. Ychwanegwch y blawd a dal ati i droi nes i'r cyfan gael ei gymysgu at ei gilydd yn does.

  6. Rhowliwch yn bêl a'i gosod yn y rhewgell i oeri am 30 munud.
    Os yw'r toes yn dal yn rhy wlyb i'w rowlio yn bêl, daliwch ati i ychwanegu mwy o flawd nes i'r toes fod yn haws ei drin. Os mai'r gwrthwyneb sy'n wir, a'r gymysgedd yn rhy sych i lynu at ei gilydd, ychwanegwch ychydig bach o laeth at y gymysgedd.

  7. Cynheswch y ffwrn i 180°C

  8. Rhowliwch y gymysgedd allan i drwch o ryw 3mm ar arwyneb lle sgeintiwyd ychydig o flawd.

  9. Torrwch y siapiau a ddymunwch gyda thorwyr cwcis.

  10. Gosodwch y rhain allan ar hambwrdd pobi wedi'i leinio â phapur gwrthsaim neu femrwn pobi.

  11. Pobwch yn y ffwrn nes eu bod yn dechrau brownio'n ysgafn (rhyw 8-10 munud).

  12. Gosodwch ar rwyll fetel i oeri.

  13. Medrwch weini'n rhain yn blaen neu wedi eu haddurno.

Plât o gwcis wedi eu gwneud trwy ddefnyddio'r rysáit uchod.

MWYNHEWCH!

Nadolig Llawen!