Addurniadau Pom-Pom
Bydd y gweithgaredd hwn yn eich tywys trwy'r ffordd i wneud addurniadau Nadolig allan o pom-poms.
Mae'r gweithgaredd hwn yn defnyddio siswrn a glud, felly gwnewch yn siŵr fod oedolyn yn eich goruchwylio.
Gwneud pompom sylfaenol
- Mynnwch ddarn o gardfwrdd sydd yn mesur o leiaf 13cm x 13cm. Yr ydym yn argymell defnyddio darnau o focs cardfwrdd safonol ar gyfer hyn.
- Gan ddefnyddio par o gwmpodau, tynnwch gylch o ddiamedr 12cm, gyda chylch arall yn y canol o ddiamedr 5cm.
- Yn ofalus, torrwch o gwmpas y ddau gylch i ffurfio siâp donut cardfwrdd.
- Bydd angen i chi wneud pelen o wlân fydd yn ffitio trwy'r donut. O wneud hyn, byddwch yn llai tebygol o gael clymau a chnotiau yn y gwlân.
- Yna bydd arnoch angen llinyn clymu. Darn arall o wlân yw hwn 0.5m o hyd. I wneud hyn yn haws i'w weld, defnyddiwch liw gwahanol i'r pompom.
- Dechreuwch lapio'r belen o wlân o gwmpas y cerdyn a'r llinyn clymu. Gweler y ddelwedd isod.
- Yn awr, daliwch ati i lapio'r gwlân rownd a rownd nes bod y donut wedi ei orchuddio'n llwyr. Os daw'r gwlân i ben, gwnewch belen fechan arall a dal ymlaen gyda honno.
- Nawr dyma'r darn ffidli. Rhowch lafnau siswrn yn ofalus rhwng y gwlân a'r cerdyn.
- Gan ddal pennau'r llinyn clymu yn dynn, dechreuwch dorri'r gwlân yn ofalus ar hyd yr ymyl allanol. Efallai y bydd arnoch angen help i wneud yn siŵr fod yr edefynnau sydd newydd eu torri yn aros yn eu lle nes eu bod oll wedi eu torri, a thynhewch y llinyn clymu yn llawn.
- Unwaith i'r holl edefynnau o gwmpas y donut gael eu torri, tynnwch y llinyn clymu mor dynn ag sydd modd o'u cwmpas oll a gwnewch gwlwm i'w dal i gyd at ei gilydd. Twtiwch bennau'r llinyn clymu yn agos at y cwlwm i'w cuddio yn y pompom.
Fe wnaeth f'un i ddisgyn yn ddarnau! Beth wna'i nawr?
Peidiwch â phoeni os bydd hyn yn digwydd. Gorffennwch dorri'r holl ffordd o gwmpas yna casglu'r holl edefynnau at ei gilydd yn fwndel. Cymerwch eich llinyn clymu a'i lapio o gwmpas canol y bwndel. Tynnwch ef mor dynn ag y gallwch a gwneud cwlwm i ddal y cyfan at ei gilydd.
- Symudwch y cardfwrdd a gwasgaru'r edefynnau ar siâp pêl. Os oes edefyn yn sticio allan yn rhy bell, trimiwch ef. Peidiwch â thynnu'r edefyn allan gan y bydd yn llacio gafael y llinyn clymu. Os tynnwch allan ormod o edefynnau bydd y pompom yn disgyn yn ddarnau.
- Go dda! Nawr mae gennych bompom y gellir ei hongian fel addurn neu ei addurno ymhellach.
Pom-pom Rudolph
- Gwnewch bompom brown trwy ddilyn y cyfarwyddiadau uchod.
- Gan ddefnyddio glud PVA neu gwn glud, glynwch lygaid a thrwyn coch.
- Torrwch gyrn allan o gerdyn brown neu ddu, a'u glynu. Mae croeso i chi ddefnyddio ein templed cyrn
Pom-pom Robin
Fel her ychwanegol, allwch chi wneud pompom robin trilliw?
- Yn hytrach na gorchuddio'r donut cardfwrdd cyfan gydag un lliw, byddwn yn defnyddio tri. Yn gyntaf, bydd angen i ni wneud y templed donut (fel yr un a ddefnyddiwyd yn y cyfarwyddiadau am y pompom sylfaenol uchod).
- Lapiwch un rhan o naw o'r donut gyda gwlân coch, yna traean mewn coch. Peidiwch ag anghofio'r llinyn clymu.
Rhyw hwyr. Rwyf wedi anghofio'r llinyn clymu. Oes angen i mi ddechrau o'r dechrau?
Does dim rhaid i chi ddechrau o'r dechrau. Gallwch ddefnyddio nodwydd fawr i'w dynnu drwodd.
- Nawr gorchuddiwch weddill y cardfwrdd gyda gwlân brown.
- Ychwanegwch ail haen o gwmpas y donut gyfan gyda'r gwlân brown.
- Nawr, ailadroddwch gamau 8-11 cyfarwyddiadau'r pompom sylfaenol. Wedyn, bydd prif gorff eich robin gennych.
- Nawr bydd arnom angen pompom llai ar gyfer y pen. Felly, mae'n rhaid i ni gael donut cardfwrdd newydd. Eto, bydd gan y cylch canol ddiamedr o 5cm, ond bydd gan y cylch allanol ddiamedr o 8cm yn lle 12cm.
- Defnyddiwch y templed llai hwn i greu pompom brown sylfaenol.
- Gludiwch y pen pompom bychan hwn wrth y corff. Gallwch wedyn addurno gyda llygaid, pig, traed, adenydd. Neu unrhyw beth arall y gallwch feddwl amdano.