Mae'r gweithgaredd hwn yn defnyddio meddalwedd dylunio cylchedau TinkerCad sydd ar gael yn y porwr ar Tinkercad.com. Mae am ddim i'w ddefnyddio, ond fe fydd angen i chi sefydlu cyfrif.
I gwblhau'r her hon, bydd angen peth profiad o raglennu arnoch. Mae TinkerCad yn gadael i chi raglennu gan ddefnyddio C++ neu flociau tebyg iawn i'r rhai a ddefnyddir gyda BBC Micro:Bits and Scratch.
Unwaith i chi fewngofnodi i'ch cyfrif TinkerCad, fe welwch ddewislen ar y chwith lle bydd angen i chi glicio ar gylchedau.
Nawr cliciwch ar y botwm gwyrdd 'Create new circuit'.
Nawr mae gennych fan gwyn mawr i adeiladu eich cylched. Ar y dde mae dewislen o wahanol gydrannau y gellir eu llusgo a'u gollwng ar y gofod gwaith.
Bydd clicio ar gysylltiadau yn dechrau tynnu lluniau o wifrau. Mae lliwiau a mathau'r gwifrau ar hyd brig y gofod gwaith, ynghyd â ffyrdd o reoli cylchdroi, dadwneud ac ail-wneud.
Aaaa! Rwyf wedi dechrau tynnu llun gwifren cyn i mi fod yn barod. Sut mae cael gwared ohono?
Os bydd hyn yn digwydd, pwyswch esc ar eich allweddfwrdd i ganslo'r weithred o dynnu llun gwifren.
I symud cydrannau neu wifrau ymaith, dewiswch hwy a phwyso delete ar eich allweddfwrdd.
Unwaith i chi gwblhau cylched, gallwch roi prawf arno trwy ddefnyddio'r botwm cychwyn dynwaredydd yn agos i frig y sgrin ar y dde.
Os yw eich cylched yn cynnwys microbrosesydd (fel Arduino neu Micro:Bit), bydd yn rhaid i chi ei raglennu i'w weithio
Nesaf at y botwm cychwyn dynwaredydd mae opsiwn cod y gellir ei osod yn y gornel chwith uchaf i flociau, blociau a thestun, neu destun (mae testun yn cael ei ysgrifennu mewn C++).
Pryd bynnag y mae'n mynd yn rhy dywyll neu niwlog ym Mhegwn y Gogledd, mae'r corachod yn benthyca Rudolph byth a hefyd (gyda'i drwyn coch sgleiniog) i fynd â hwy adref.
Y broblem yw, bod Rudolph mewn perygl o ddiffygio'n llwyr cyn Noswyl Nadolig.
Mae Siôn Corn wedi ceisio rhoi fflachlampau i'w gorachod, ond nid ydynt mor Nadoligaidd â thrwyn coch Rudolph.
Yn hytrach, mae Siôn Corn yn penderfynu dylunio trwyn coch electronig i'w gorachod.
Mae dyluniad y cylched wedi ei osod i fyny:
Y broblem yw nad oes gan Sion Corn syniad sut i raglennu hwn i weithio. Mae eisiau iddo weithio fel, po dywyllaf ydyw, mwyaf y bydd yr LED coch yn disgleirio. Yn union fel trwyn Rudolph.
Bydd angen i chi ail-greu'r cylched uchod ac yna cynhyrchu'r cod i gyd-fynd â dymuniadau Siôn Corn.
Fe all fod o help gwybod mai amrediad disgleirdeb LED yw 0 (wedi diffodd) i 255 (y disgleiriaf) ac y gall y ffotowrthydd gynhyrchu darlleniadau goleuni yn yr amrediad o 0 (tywyllwch dudew) i 1023 (disgleirdeb digon i ddallu).