Pôs Rhesymeg
Silouhette of santa's sleigh

English

Pôs Rhesymeg

Mae Siôn Corn wedi cael noson hir yn dosbarthu anrhegion.

Mae'n cyrraedd y stryd olaf o dai ac yn darganfod bod y pum anrheg olaf yn ei sach wedi disgyn allan o'u papur lapio ac wedi colli eu tagiau enw yn ystod y daith drwy dywydd garw ar gyflymder uchel.

Diolch byth, mae gan Siôn Corn restr wirio ar gyfer enwau a chyfeiriadau, felly mae'n ei thynnu allan o'i boced, yn crafu'r briwsion mins pei oddi arni, ac yn syllu arni mewn dychryn. Mae'r ysgrifen wedi'i gwlychu gan law ac o bosibl, rhywfaint o frandi.

Dim ond rhywfaint o'r wybodaeth y gall ei darllen. Allwch chi ei helpu i ddarganfod pa blentyn sy'n cael pob tegan, beth yw rhif eu tŷ a pha liw papur lapio ddylai'r tegan fod ynddo?


  1. Rhifau'r tai sydd ar ôl yw 1, 2, 3, 4, a 5.

  2. Mae anrheg Glenwen wedi'i lapio mewn papur glas.

  3. Nid yw'r gêm cyfrifiadur i Dafydd.

  4. Mae'r bocs celf i Gwion sy'n byw mewn tŷ â rhif is na'r plentyn sydd ag anrheg mewn papur lapio piws.

  5. Mae rhif tŷ Bronwyn yn is na rhif tŷ Gwion.

  6. Mae'r tedi mewn papur lapio coch ar gyfer y plentyn y mae rhif eu tŷ yn is na'r tŷ lle mae angen dosbarthu'r anrheg mewn papur lapio gwyrdd.

  7. Nid yw anrheg Seren wedi'i lapio mewn papur gwyrdd.

  8. Nid yw Dafydd yn byw yn nhŷ rhif 3.

  9. Mae angen dosbarthu'r robot anwes i dŷ sydd â rhif is na'r tŷ ble mae'r tedi'n mynd.

  10. Ni ddylid dosbarthu'r anrheg coch i dŷ rhif 1.

  11. Mae angen dosbarthu'r Lego i dŷ sydd â rhif un yn fwy na ble mae angen dosbarthu'r anrheg coch iddo.

  12. Mae tŷ rhif 3 yn disgwyl anrheg wedi'i lapio mewn papur melyn.
Grid rhesymeg gwag ar gyfer y pôs hwn


Rhif y Tŷ Enw'r Plentyn Tegan Papur Lapio





Nadolig Llawen!