Nod y gweithgaredd hwn yw ymarfer dadansoddi data ystadegol o ymchwil i'r farchnad (a ddarperir, yn yr achos hwn, gan finder.com).
Bydd y gweithgaredd hwn yn cyflwyno ystadegau mewn sawl gwahanol fformat.
Rhaid ichi edrych ar yr wybodaeth hon a cheisio rhesymu'r gwahaniaethau a ddangosir rhwng y rhywiau, rhanbarthau a chenedlaethau.
Rydym wedi cynnwys ymarferion ym mhob adran i'w hystyried yn eich dadansoddiad.
Isod, fe welir siartiau sy'n dangos faint o bobl oedd yn bwriadu dathlu Diwrnod San Ffolant ac, os oeddent, faint y byddent yn ei wario.
Sut mae'r wybodaeth yma yn ein helpu ni i ddeall agweddau masnachol yr ŵyl hon yn well?
Yn eich barn chi, pam mae mwy na dwbl nifer y dynion yn debygol o wario dros £100 ar anrhegion?
Mae'r data a gasglwyd yn canolbwyntio'n ddeuaidd ar ddynion neu fenywod, sut gallai'r gwaith ymchwil wedi bod yn fwy cynhwysol, gan adlewyrchu cymdeithas a'r farchnad yn well?
Yn yr adran flaenorol, gwelwyd faint o bobl oedd yn bwriadu dathlu Diwrnod San Ffolant a gwario arian ar anrhegion.
Os gwireddir y cynlluniau hyn, bydd £1.45 biliwn yn cael ei wario yn y DU ar anrhegion San Ffolant, sef £35.06 y person, ar gyfartaledd.
Fel y dangosir gan y patrymau a welir yn y siartiau cylch uchod, bydd dynion yn gwario mwy ar gyfartaledd (£44.24) na menywod (£26.24).
Er mwyn dadansoddi'r patrymau gwario yn y DU yn fwy trylwyr, gadewch inni edrych ar y gwariant cyfartalog ar anrhegion Diwrnod San Ffolant fesul rhanbarth.
Rhanbarth y Deyrnas Unedig | Gwariant Cyfartalog ar Anrheg San Ffolant |
---|---|
Llundain | £52 |
Gogledd-ddwyrain Lloegr | £37 |
Dwyrain Lloegr | £36 |
Gogledd Iwerddon | £35 |
Gogledd-orllewin Lloegr | £35 |
Swydd Efrog | £35 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £33 |
Yr Alban | £32 |
De-ddwyrain Lloegr | £31 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £30 |
Cymru | £29 |
De-orllewin Lloegr | £28 |
Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer siopau pob rhanbarth?
Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd â dewis cenedlaethol amgen i Ddiwrnod San Ffolant - sef Diwrnod Santes Dwynwen ar Ionawr 25ain bob blwyddyn. Ystyriwch, felly, pam mae De-orllewin Lloegr sy'n gwario lleiaf, ar gyfartaledd?
Mae Llundain yn ei hystyried ei hun yn "Brifddinas Ramantus" y DU oherwydd ei gwariant cyfartalog uwch bob blwyddyn. Ystyriwch resymau eraill am y gwariant uwch hwn a sut gallai'r rhesymau hyn danseilio'r honiad hwn.
Yn olaf, gadewch inni edrych ar y gwahaniaethau rhwng y gwariant cyfartalog ar anrhegion Diwrnod San Ffolant, fesul cenhedlaeth.
Diffiniadau:
Dyma dabl o'r tri grŵp oedran uchaf sy'n dathlu heb wario arian:
Cenhedlaeth | Canran y bobl sy'n dathlu |
---|---|
Y Genhedlaeth Dawel | 30% |
Cenhedlaeth y Cynnydd | 21% |
Y Mileniaid | 17% |
Ystyriwch pam mai'r Genhedlaeth Dawel sy'n gwario lleiaf.
Pam, yn eich barn chi, mai'r Mileniaid yw'r bobl sy'n gwario mwyaf?
Cenhedlaeth Z sy'n gwario lleiaf, ar ôl y Genhedlaeth Dawel. Pam?