Cyflwyniad i Farchnata

English

Cyflwyniad i Farchnata

Cyflwyniad rhyngweithiol a gynlluniwyd fel rhagarweiniad i dwf busnes a marchnata.

I drafod neu archebu lle ar y gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Offer a ddarperir

Ar gyfer y cyflwyniad rhyngweithiol hwn, byddwn yn darparu swyddog cyflwyno, y cyflwyniad PowerPoint a deunydd darllen cyn y sesiwn (ar fformat pdf).

Beth sydd angen i chi ei gyflenwi

Cyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â sgrin gyflwyno neu daflunydd ar gyfer dangos y cyflwyniad PowerPoint.

Ystafell gyda seddi hyblyg i alluogi trafodaethau o fewn grwpiau o wahanol faint.

Papur/gwerslyfrau gyda beiros os hoffech i'r myfyrwyr gymryd nodiadau.

Os oes rhai ar gael, rydym yn argymell eich bod yn darparu byrddau gwyn bach a marcwyr y gellir eu sychu â chadach sych.

Hyd y gweithdy

Gellir cwblhau'r gweithgaredd mewn awr; ond, byddai'n well gennym gael mwy o amser i alluogi i'r cyfranogwyr ymgysylltu gymaint â phosibl. Gellir rhannu'r gweithgaredd yn ddwy sesiwn i gyd-fynd â gofynion amserlennu caeth.

Grwpiau Oedran

Mae'r deunydd a drafodir yn y gweithgaredd yn cyd-fynd â chwricwlwm Busnes Safon Uwch a TGAU.

Gallwn hefyd ddarparu ar gyfer disgyblion blwyddyn 9 sy'n ystyried eu dewisiadau TGAU.

Dolenni i weithdai eraill

Mae gennym ystod o weminarau Safon Uwch gydag ymarferion ar gael ar adran Busnes yr Hwb Allgymorth. Mae'r rhain ar gael hefyd i'w lawrlwytho am ddim drwy ein siop TES.

Gofynion cyflwyno'n rhithiol

Sgrin gyflwyno neu daflunydd wedi'i gysylltu â Teams ar gyfer cyflwyno'r deunydd.

Os oes rhai ar gael, cyfrifiaduron gyda chysylltiad rhwydwaith er mwyn defnyddio cymwysiadau ystafell ddosbarth ar-lein ar gyfer asesu dysgu.