Nod y sesiynau hyn yw meithrin sgiliau gweithio mewn tîm. Rydym yn cynnig ystod o weithgareddau i gyd-fynd ag unrhyw bwnc neu thema. Ewch i weld yr adran 'Amrywiadau' isod i gael enghreifftiau.
Gallwch hefyd ddewis y gweithgaredd llawn sy'n cynnwys trin a thrafod gweithio mewn tîm.
I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.
Rydym yn darparu swyddog cyflwyno a'r offer sydd ei angen ar gyfer y sesiynau hyn.
Os oes angen lle mwy o faint nag sydd gennych chi, gallwn drefnu lleoliad addas ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bydd hyn yn dibynnu ar yr ymarfer meithrin tîm a ddewisir a byddwn yn trafod hyn gyda chi cyn cynnal y sesiwn.
Gan amlaf, mae'r gweithgareddau hyn yn gofyn am ardal fawr i dimau weithio ynddi.
Mae modd addasu'r gweithgareddau hyn i bara rhwng 20 a 60 munud.
Rydym hefyd yn cynnig sesiwn ryngweithiol 20-30 munud o'r enw 'Ymarferion Meithrin Tîm mewn Cyfweliadau Swydd'.
Mae isafswm oedran o 8 oed i'r rhain oherwydd y deunyddiau a ddefnyddir a pha mor gymhleth yw'r heriau.
Rydym yn addasu'r disgrifiadau o'r heriau, y deunyddiau a'r gefnogaeth yn ôl oedran y cyfranogwyr.
Mae'r gweithgaredd ychwanegol 'Ymarferion Meithrin Tîm mewn Cyfweliadau Swydd' wedi'u cynllunio ar gyfer myfyrwyr TGAU a Safon Uwch. Rydym hefyd yn cynnig sesiwn lawn arall i grwpiau oedran iau sy'n trafod rolau mewn timoedd.
Mae staff recriwtio ym mhob un o'n hadrannau yn cynnig sgyrsiau gyrfa pwnc-benodol a all fod yn ychwanegiad da os ydych yn defnyddio hwn fel rhan o ddatblygu sgiliau gyrfa.
Mae un o'r gweithgareddau meithrin tîm yn rhan o'n Gweithdy Robot Dynolffurf.
Gellir defnyddio'r rhain hefyd i dorri'r iâ mewn timau sy'n cael eu ffurfio ar gyfer prosiectau ac/neu gystadlaethau. Mae hefyd yn helpu timau sydd newydd eu ffurfio i bennu eu rolau naturiol yn y grŵp.
Rydym yn fodlon cynorthwyo â'r heriau hyn o bell trwy os gallwch ddarparu'r deunyddiau sydd eu hangen a sgrin fawr neu daflunydd wedi'i gysylltu â Teams drwy we-gamera a meicroffon.
Cysylltwch â ni i drafod logisteg cynnal yn rhithwir ar gyfer ein hamrywiaeth o heriau.
Mae'r adran hon yn rhestru rhai o'r heriau meithrin tîm y gallwn eu cynnig.