Robot Dynolffurf

English

Robot Dynolffurf

Gweithgaredd llawn hwyl i dimau i ddangos cymhlethdodau rhaglennu robotiaid.

I gael sgwrs neu archebu hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym yn darparu swyddog cyflwyno, mwgwd i roi ar y llygaid, tâp llawr sy'n rhwydd ei godi ac/neu deils carped.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Llawr mawr agored.

Deunydd ysgrifennu ar gyfer y timau (mae papur sgrap a phensiliau yn iawn).

Hyd y gweithdy

Mae'r gweithgaredd hwn yn para rhwng 20 a 30 munud.

Grwpiau oedran

Mae gwahanol lefelau cymhlethdod yn golygu y gallwn gynnal hwn ar gyfer myfyrwyr rhwng 8 a 18 oed.

I blant rhwng 4 a 8 oed rydym yn cynnig dewis arall ar arddull "Mae Dewi yn dweud / Simon Says..." rydyn ni'n ei alw'n "Mae'r rhaglennu yn dweud...".

Cysylltiad â gweithdai eraill

Mae'r gweithgaredd hwn yn gyflwyniad gwych i amryw o weithgareddau rhaglennu gwahanol.

Rydym yn aml yn ei baru â'n sesiwn 'Beth yw Robot?' neu'r sesiwn Deallusrwydd Artiffisial.

Gall hefyd fod yn bartner i'n gweithdai rhaglennu i ddechreuwyr, megis: Scratch, Cyflwyniad i Micro:Bit a Turtle Blocks.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Rydym yn barod i gefnogi'r heriau hyn o bell os gallwch chi ddarparu'r deunyddiau sydd eu hangen a sgrin fawr neu daflunydd sydd wedi'i gysylltu â Teams trwy we-gamera a meicroffon.

Cysylltwch â ni i drafod logisteg cynnal yn rhithwir ar gyfer ein hamrywiaeth o heriau.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Sail yr her hon yw mynd ar hyd llwybr yn gwisgo mwgwd, gan ddefnyddio set o gyfarwyddiadau a ysgrifennwyd gan eich tîm.

Gellir ei wneud yn fwy cymhleth trwy gynnwys cyfyngiadau ychwanegol megis gofyn am gyfarwyddiadau mwy eglur, peidio â chynnwys y 'robot' yn y drafodaeth raglennu, defnyddio cyfarwyddiadau heb eiriau, a chael tîm gwahanol i ddarllen y cyfarwyddiadau.

Adborth a dderbyniwyd