Beth yw Robot?

English

Beth yw Robot?

Dyma un o'n sesiynau cyflwyniadol mwyaf poblogaidd ar gyfer rhaglennu a roboteg.

Mae hwn yn gyflwyniad rhyngweithiol sy'n cynnwys llawer o luniau, clipiau fideo a gêm, i helpu dysgwyr i ddeall beth yw robot mewn gwirionedd.

I gael sgwrs neu i archebu'r gweithdy hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym yn darparu swyddog cyflwyno, cyflwyniad PowerPoint a chlipiau fideo.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Sgrin gyflwyno fawr neu daflunydd (sydd â seinyddion ar gyfer sain y fideo) y gallwn ei defnyddio ar gyfer ein cyflwyniad.

Rydym wedi sylwi bod dysgwyr hefyd yn elwa/mwynhau hwn yn fwy ar ôl gwneud gweithgaredd byr o dynnu llun robot syml wrth baratoi at y sgwrs hon.

Hyd y gweithdy

Mae'r gweithgarwch hwn yn para rhwng 20 a 40 munud, yn dibynnu ar faint o'r fideos yr ydym yn eu cynnwys ac os daw cais i'w gwylio eto.

Gallwn ei ymestyn i awr trwy gynnwys gwybodaeth ychwanegol am hanes robotiaid ac/neu gwis gwir neu ffug ac/neu ba robotiaid sydd gennym eisoes yn ein cartrefi.

Grwpiau oedran

Mae'r cyflwyniad hwn wedi'i anelu at flynyddoedd 4-9 (sef 8-13 oed). I'r rhai yn yr ysgol gynradd rydym yn cynnwys y gêm 'Robot neu Nobot', sy'n cael ei newid i weithgaredd sy'n fwy tebyg i ddadl trin a thrafod ar gyfer disgyblion uwchradd.

Rydym wedi defnyddio rhai o'r deunyddiau yn y gweithdy hwn gyda blynyddoedd 1-3 (5-7 oed) mewn cyflwyniad bychan i ddangos robotiaid ar waith iddynt ac i helpu i chwalu'r syniad bod robotiaid i gyd ar ffurf ddynol.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Gellir defnyddio hwn fel gweithgaredd ar ei ben ei hun ond caiff ei ddefnyddio ran amlaf fel cyflwyniad i rai o'n gweithdai eraill ar raglennu a robotiaid.

Rydym wedi ei ddefnyddio'n aml fel cyflwyniad i'n sesiynau Micro:Bit a Lego Mindstorm.

Sesiwn ragarweiniol bosibl arall i fyfyrwyr hŷn neu rai mwy datblygedig yw ein sesiwn dadl amDdeallusrwydd Artiffisial.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Sgrin gyflwyno neu daflunydd mawr sydd â chysylltiad â Teams neu Zoom gyda meicroffon, seinyddion a gwe-gamera.

Byddwn yn rhoi dolen i chi i dudalen ar y we sydd â'r fideos wedi'u hymgorffori rhag ofn y cawn broblemau chwarae trwy'r feddalwedd cynadledda.

Amrywiadau ar y gweithdy hwn

Fel y soniwyd eisoes, gallwn ymestyn y gweithgaredd hwn trwy gynnwys amrywiaeth o bynciau gwahanol.

Mae cynnwys gweithgaredd lle mae'r dysgwyr yn tynnu llun robot wedi bod yn llwyddiannus. Mae hyn yn cymryd 20 munud y gellid ei ychwanegu at amser y gweithdy neu ei wneud cyn y sesiwn. Mae rhai athrawon wedi ailadrodd yr ymarfer hwn ar ôl y sesiwn gan gael canlyniadau anhygoel.