Deallusrwydd Artiffisial

English

Deallusrwydd Artiffisial

Beth yw 'deallusrwydd'? A yw peiriant yn gallu bod yn 'ddeallus'? Y term yn Saesneg yw Artificial intelligence (AI).

Mae hwn yn ymarfer rhyngweithiol i drin a thrafod a galluogi myfyrwyr i ymchwilio i gymhlethdodau adnabod deallusrwydd.

I drafod neu archebu hwn neu unrhyw un o'n gweithdai eraill, cysylltwch â Tally Roberts.

Yr offer rydym yn ei ddarparu

Rydym yn darparu swyddog cyflwyno, cyflwyniad PowerPoint, a gweithgaredd didoli cardiau.

Beth sydd angen i chi ei ddarparu

Sgrin fawr neu daflunydd y gallwn gysylltu ag ef ar gyfer y cyflwyniad PowerPoint.

Os yw'n bosibl, rydym hefyd yn argymell gosod seddi yn hyblyg er mwyn gallu symud y cyfranogwyr a gadael lle mawr gwag ar y llawr ar gyfer y gweithgaredd didoli cardiau.

Mae'r holl fideos wedi'u storio gennym eisoes all-lein ar yriant USB; fodd bynnag, mae angen cysylltiad rhyngrwyd ar gyfer y rhan cwestiynau am ddeallusrwydd artiffisial. Os nad yw hyn yn bosibl, gallwn addasu'r gweithdy i hepgor y gweithgaredd hwn.

Hyd y gweithdy

Yn ddelfrydol, mae'r gweithdy hwn angen o leiaf 60 munud. Gellir yn rhwydd ei ymestyn i 2 awr er mwyn cynnwys pwyntiau trafod ychwanegol a rhagor o wybodaeth am brawf Turing.

Grwpiau oedran

Mae'r gweithdy wedi'i anelu at fyfyrwyr TGAU a Safon Uwch.

Rydym wedi cynnal y gweithdy hwn yn llwyddiannus gyda disgyblion blwyddyn 9 (13-14 oed), ond ni fyddem yn ei gynghori ar gyfer plant iau oherwydd y gofynion meddwl cysyniadol.

Cysylltiad â gweithdai eraill

Mae hwn yn gweithio'n dda fel gweithdy ar ei ben ei hun ond gellir ei ddefnyddio hefyd fel rhan o gyfres. Er enghraifft, caiff ei ddefnyddio'n aml fel sesiwn ragarweiniol cyn un o'n gweithdai Lego Mindstorms lefel uwch.

Rydym hefyd wedi defnyddio'r gweithgaredd hwn yn gyflwyniad cyn sgwrs gan aelod Grŵp Roboteg Ddeallus am eu prosiectau ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gofynion cynnal yn rhithwir

Oherwydd elfen ryngweithiol y gweithdy hwn, bydd cyflwyno o bell yn cael ei deilwra'n wahanol ac yn gofyn am gefnogaeth staff ar y safle ar gyfer y gweithgareddau/trafodaethau.

Byddai angen i chi ddarparu sgrin fawr/taflunydd sydd â chysylltiad gwe-gamera a meicroffon i Teams.

Byddwn yn anfon copïau o'r cardiau i'w didoli y bydd angen eu hargraffu ymlaen llaw.

Mae yna hefyd fersiwn wedi'i recordio ymlaen llaw o'r sgwrs, ac mae'r gweithgaredd didoli cardiau ar gael ar ein Hwb Allgymorth: A all Cyfrifiadur fod yn Ddeallus? Gellir defnyddio hwn yn hytrach na'r sesiwn rithwir fyw.

Adborth a dderbyniwyd


Diolch yn fawr iawn am brynhawn llawn brwdfrydedd gyda'r myfyrwyr - Athrawes.


Roedd e wir wedi procio'r meddwl - Cynhadledd Seren 2020


Diolch! Roedd yn sesiwn mor wych ... dwi'n meddwl bod y myfyrwyr yn bendant wedi elwa ohono - Athrawes.